Paratoi arwynebau i’w paentio a/neu eu haddurno

URN: COSVR332
Sectorau Busnes (Suites): Galwedigaethau Gorffen Addurniadol a Phaentio Diwydiannol (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 29 Ebr 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi arwynebau ar gyfer gorffeniadau diogelu ac addurniadol mewn sefyllfaoedd diwydiannol a/neu anniwydiannol, diogelu'r man gweithio, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar.

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes Galwedigaethau Gorffen Addurniadol a Phaentio Diwydiannol a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach

P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

**Meini Prawf Perfformiad 1

**

Dehongli gwybodaeth

K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

**Meini Prawf Perfformiad 2

Arferion gwaith diogel**

K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso

K5 pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a sut a phryd i'w defnyddio

K6 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K7 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K8 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K10 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

**

**Meini Prawf Perfformiad 3

Dethol adnoddau**

K11 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K12 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K13 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K14 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

**Meini Prawf Perfformiad 4

Lleihau'r risg o ddifrod**

K15 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K16 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

**Meini Prawf Perfformiad 5

Diwallu manyleb y contract**

K17 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K18 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

**Meini Prawf Perfformiad 6

Amser wedi'i ddyrannu**

K19 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

**

Meini Prawf Perfformiad 1

1 dehongli lluniadau, gofynion, rheoliadau cyfredol, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2

2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 3

3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau
3.2 offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 4

4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
5 cynnal man gweithio clir a thaclus
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5

7 dangos sgiliau golchi, codi a/neu grafu, sgrafellu, allweddu, cymysgu, llenwi, lefelu a/neu wastadu a brwsio
8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer a chyfarpar cysylltiedig
9 paratoi, preimio a selio'r arwynebau allanol a/neu fewnol dilynol mewn sefyllfaoedd diwydiannol a/neu anniwydiannol yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir
9.1 is-haenau heb eu paentio ac arwynebau wedi'u paentio a/neu eu haddurno'n flaenorol sydd mewn cyflwr da, gan gynnwys arwynebau diffygiol
9.2 arwynebau lle mae angen cael gwared â'r gorchuddion a/neu'r deunyddiau presennol

Meini Prawf Perfformiad 6

10 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient

*
*


Gwybodaeth Cwmpas

**

Gwaredu gwastraff

1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Diffoddwyr tân

3 dŵr, CO2, ewyn a phowdr a'u defnyddiau

Peryglon

4 nodi peryglon drwy wneud archwiliadau gweledol a defnyddio asesiadau risg, datganiadau dull, gwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
5.1 mesurau diogelu ar y cyd
5.2 cyfarpar diogelu personol
5.3 cyfarpar diogelu anadlol
5.4 system awyru a gwacáu leol

Gwybodaeth

6 lluniadau, gofynion, deddfwriaeth gyfredol, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, canllawiau swyddogol a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud ag adeiladau ac yn gysylltiedig â gofynion galwedigaethol

* *
* *
* *
* *
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r cyflogwr am ddamweiniau
posibl, peryglon i iechyd, pobl a'r amgylchedd wrth weithio yn y
gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a
chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio
deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi
mecanyddol

Cynnal a chadw

8 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer a chyfarpar cysylltiedig

Dulliau gweithio

9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
9.1 cadarnhau gofynion mynediad
9.2 sicrhau bod arwynebau a baratowyd yn flaenorol yn addas
9.3 paratoi is-haenau heb eu paentio a'u trin
9.4 paratoi arwynebau a driniwyd yn flaenorol sydd mewn cyflwr da
9.5 paratoi arwynebau diffygiol a driniwyd yn flaenorol
9.6 cael gwared â halogyddion ar arwynebau
9.7 nodi deunyddiau a allai fod yn wenwynig a/neu'n beryglus ac adrodd amdanynt
9.8 tynnu deunyddiau gwenwynig a/neu beryglus oddi ar arwynebau
9.9 cael gwared â gorchuddion waliau presennol
9.10 codi cotiau diffygiol oddi ar bren, brics a/neu faen a/neu goncrit, plastr a metel
9.11 llenwi, lefelu a sgrafellu arwynebau
9.12 preimio neu selio is-haenau heb eu paentio mewn ffordd briodol
9.13 trin arwynebau a baratowyd yn flaenorol mewn ffordd arbennig i'w paratoi
9.14 gweithio o gwmpas ffitiadau trydanol a pheipiau
9.15 rhoi gwybodaeth ar gyfer modelu gwybodaeth am adeiladu
9.16 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol, gan gynnwys gwybodaeth am adeiladau traddodiadol (cyn 1919)
9.17 bod yn ymwybodol o strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol ac arwyddocâd hanesyddol ac effaith eich gwaith ar y rhain

9.18 gweithio o gwmpas peiriannau ac yn agos iawn atynt
9.19 cyfarwyddo ac arwain peiriannau wrth iddynt symud a chael eu gweithredu
9.20 archwilio a defnyddio cyfarpar mynediad
9.21 gweithio ar uchder
9.22 defnyddio offer llaw, offer pŵer a chyfarpar cysylltiedig
10 gwaith tîm a chyfathrebu
11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â pharatoi arwynebau i'w paentio a/neu eu haddurno

Problemau

12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen

13 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
14 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Rhaglen

15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill, y cyhoedd a thywydd garw

Adnoddau

16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu
arbenigol o
16.1 gorchuddion diogelu a deunyddiau masgio
16.2 cyfryngau diseimio i gael gwared â halogyddion
16.3 cyfryngau glanhau
16.4 deunyddiau a chyfarpar codi paent
16.5 deunyddiau llenwi (un pecyn a dau becyn)
16.6 sgraffinyddion
16.7 deunyddiau trin arwynebau
16.8 cynwysyddion a/neu fagiau gwastraff

16.9 cyfarpar mynediad
16.10 offer llaw, offer pŵer a chyfarpar cysylltiedig
17 dulliau o gyfrifo faint o ddeunyddiau, gan gynnwys gwastraff, sy'n
gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer paratoi arwynebau i'w paentio a/neu eu haddurno
18 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion
* *
Gweithdrefnau diogelwch

19 safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Construction Skills

URN gwreiddiol

cosvr332

Galwedigaethau Perthnasol

Paentio ac Addurno

Cod SOC

5323

Geiriau Allweddol

Gorchuddion waliau; Sgrafellu arwynebau; Codi paent; Cyfryngau glanhau; Preimio/selio