Asesu a gwerthuso cyflyrau/amodau at ddibenion gosod gorchuddion lloriau LEGACY

URN: COSVR307L
Sectorau Busnes (Suites): Galwedigaethau Gorchuddio Lloriau (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 2013

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis cydrannau a chyfarpar ac asesu a gwerthuso cyflyrau/amodau at ddibenion gosod gorchuddion lloriau.

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol Gorchuddion Lloriau a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr adeiladu ei defnyddio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​P1  dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2  cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach

P3  dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4  cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P5  cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P6  cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1

Dehongli gwybodaeth

K1  pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2  pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3  beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2

Arferion gwaith diogel

K4  faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso

K5  sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K6  beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K7  beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K8  pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K9  sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 3

Dewis adnoddau

K10  beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K11  sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K12  beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K13  pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 4

Lleihau'r risg o ddifrod

K14  sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K15  pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 5

Bodloni gofynion y contract

K16  sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K17  sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 6

Amser a neilltuwyd

K18  beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

| --- |
|

* *

Meini Prawf Perfformiad 1

1  dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2

2  osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol

2.1  dulliau gweithio

2.2  defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel

2.3  defnyddio a storio offer a chyfarpar yn ddiogel

2.4  risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 3

3  dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun

3.1  cydrannau a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 4

4  diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod

5  lleihau difrod a chynnal lle gweithio glân

6  gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5

7  dangos sgiliau calibradu, profi, cofnodi, mesur a darllen

8  defnyddio cyfarpar profi a chofnodi a chyfarpar ategol

9  profi'r arwynebau dilynol yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir

9.1  arwynebau smentaidd

9.2  sgridiau perchnogol

9.3  arwynebau pren

9.4  gorchuddion lloriau presennol

10   asesu a gwerthuso canlyniadau profion i weld a yw'n addas gosod gorchuddion lloriau a chofnodi ac adrodd am ganfyddiadau'n unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir

Meini Prawf Perfformiad 6

11   cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth Cwmpas

| --- | |

Gwaredu gwastraff

1  cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

2  ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol

2.1  tanau, gollyngiadau ac anafiadau

2.2  argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon

3  y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

4  y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol

4.1  mesurau diogelu ar y cyd

4.2  cyfarpar diogelu personol

4.3  cyfarpar diogelu anadlol

4.4  system awyru a gwacáu leol

Gwybodaeth

5  lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, data electronig, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud ag adeiladau

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

6  mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau a chodi a chario


Cynnal a chadw

7  gofal y gweithiwr am gyfarpar profi a chofnodi a chyfarpar ategol

| --- |
|

Dulliau gweithio

8  cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i

8.1  calibradu cyfarpar

8.2  defnyddio cyfarpar profi a chofnodi i asesu addasrwydd lloriau

8.3  profi amodau'r aer (tymheredd a lleithder)

8.4  profi cyflwr y llawr (lleithder)

8.5  arolygu cyflwr y safle

8.6  cofnodi a gwerthuso canlyniadau profion

8.7  asesu canfyddiadau a llunio adroddiad

8.8  nodi dulliau trin

8.9  nodi a rhoi gwybod pryd mae system wresogi dan y llawr

8.10  nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol

8.11  nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol

9  gwaith tîm a chyfathrebu

10  anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig ag asesu a gwerthuso cyflyrau/amodau at ddibenion gosod gorchuddion lloriau

Problemau

11  y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

11.1  eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

11.2  gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen

12  mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig

13  gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

| --- |
|

Diogelu gwaith

14  diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau

15  deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol o

15.1  cyfarpar/offer profi a chofnodi

16  dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd ac arwynebedd sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer asesu a gwerthuso cyflyrau/amodau at ddibenion gosod gorchuddion lloriau

Gweithdrefnau diogelwch

17  safle, gweithle, cwmni a gweithiwr


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2018

Dilysrwydd

Etifeddiaeth

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR307

Galwedigaethau Perthnasol

Llorio a Theilsio Waliau

Cod SOC

5322

Geiriau Allweddol

Gorchuddion lloriau; Gwerthuso; Cofnodi; Profi