Gosod gorchuddion lloriau adlamol LEGACY

URN: COSVR305L
Sectorau Busnes (Cyfresi): Galwedigaethau Gorchuddio Lloriau (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 2013

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis deunyddiau, cydrannau a chyfarpar a gosod darnau a theils llawr adlamol mewn sefyllfaoedd domestig a/neu gontract.

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol Gorchuddion Lloriau a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr adeiladu ei defnyddio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​P1  dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2  cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach

P3  dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4  cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P5  cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P6  cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1

Dehongli gwybodaeth

K1  pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2  pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3  beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2

Arferion gwaith diogel

K4  faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso

K5  sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K6  beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K7  beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K8  pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K9  sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol


Meini Prawf Perfformiad 3

Dewis adnoddau

K10  beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K11  sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K12  beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K13  pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

**

Meini Prawf Perfformiad 4**

Lleihau'r risg o ddifrod

K14  sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K15  pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 5

Bodloni gofynion y contract

K16  sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K17  sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 6

Amser a neilltuwyd

K18  beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

| --- |
|

* *

Meini Prawf Perfformiad 1

1  dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio, storio a thrin deunyddiau’n ddiogel
2.4 defnyddio a storio offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd
Meini Prawf Perfformiad 3
3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
3.2 offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 4
4 diogelu'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas rhag difrod
5 lleihau difrod a chynnal lle gweithio glân
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Meini Prawf Perfformiad 5
7 dangos sgiliau mesur, marcio allan, lleoli, ffitio, uno, rholio, lefelu a weldio
8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol
9 gosod darnau a theils llawr adlamol ar yr arwynebau neu yn y mannau dilynol mewn sefyllfaoedd domestig a/neu gontract yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithio a roddir
9.1 llorweddol
9.2 ar oleddf
9.3 grisiog
9.4 sgertins
9.5 mannau gwlyb, gan gynnwys draeniau a gylïau
10 gosod darnau a theils llawr adlamol ar y lloriau dilynol mewn sefyllfaoedd domestig a/neu gontract yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithio a roddir
10.1 solet (concrit a sgrîd)
10.2 pren
Meini Prawf Perfformiad 6

11 cwblhau’ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu’r cleient


Gwybodaeth Cwmpas

| --- |
|

Gwaredu gwastraff

1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau’r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
Peryglon

3 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
4 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a’r amgylchedd gwaith cyffredinol
4.1 mesurau diogelu ar y cyd
4.2 cyfarpar diogelu personol
4.3 cyfarpar diogelu anadlol
4.4 system awyru a gwacáu leol
Gwybodaeth

5 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, data electronig, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud ag adeiladau

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Cynnal a chadw

7 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol

| --- |
|

Dulliau gweithio
8 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
8.1 cadarnhau a sicrhau ei bod yn addas gosod gorchuddion lloriau adlamol ar arwynebau cefndir
8.2 sicrhau bod deunyddiau a chynhyrchion yn ymaddasu
8.3 lleoli, ffitio a sicrhau darnau a theils llawr adlamol ar arwynebau llorweddol, ar oleddf a grisiog mewn sefyllfaoedd domestig a /neu gontract yn unol â phwyntiau gosod allan/llinellau a siapiau y penderfynwyd arnynt ymlaen llaw, gan ddefnyddio cydrannau addas 
8.4 gosod darnau a theils llawr adlamol ar loriau solet a phren mewn sefyllfaoedd domestig a/neu gontract
8.5 nodi arwynebau gwastad ac arwynebau sy’n goleddfu i ddraeniau a gylïau mewn mannau gwlyb mewn sefyllfaoedd domestig a/neu gontract
8.6 ffurfio uwchstandiau a sgertins
8.7 weldio semau
8.8 sicrhau ymylon grisiau
8.9 ffurfio grisiau tro a syth
8.10 diogelu arwynebau lloriau a orffennwyd
8.11 nodi a oes system wresogi dan y llawr ac ymateb yn briodol i hynny
8.12 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol
8.13 nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol
8.14 defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
9 gwaith tîm a chyfathrebu
10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod gorchuddion lloriau adlamol
Problemau
11 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad


Rhaglen
12 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig 
13 gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

| --- |
|

Diogelu gwaith

14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau
15 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, addasrwydd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol o
15.1 darnau a theils llawr adlamol
15.2 adlynion a deunyddiau weldio
15.3 trimiau gorffennu, ymylon grisiau, cilfwâu a ragffurfiwyd, ffurfiwr cilfwâu, sgertins, capiau a deunyddiau diogelu
15.4 gosodiadau, ffitiadau a chydrannau cysylltiedig
15.5 offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
16 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer gosod gorchuddion lloriau adlamol
Gweithdrefnau diogelwch

17 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2018

Dilysrwydd

Etifeddiaeth

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR305

Galwedigaethau Perthnasol

Llorio a Theilsio Waliau

Cod SOC

5322

Geiriau Allweddol

Gorchuddion lloriau adlamol; Weldio semau; Trimiau gorffennu; Grisiog; Uwchstandiau; Darnau a theils llawr; Mannau gwlyb