Gosod gorchuddion lloriau gweol LEGACY
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis deunyddiau, cydrannau a chyfarpar a ffitio a gosod darnau a theils llawr gweol mewn sefyllfaoedd domestig a/neu gontract.
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol Gorchuddion Lloriau a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr adeiladu ei defnyddio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
Meini Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith diogel
K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso
K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K9 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol
Meini Prawf Perfformiad 3
Dewis adnoddau
K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K12 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K13 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain
Meini Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod
K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn
Meini Prawf Perfformiad 5
Bodloni gofynion y contract
K16 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K17 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 6
Amser a neilltuwyd
K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
Meini Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio, storio a thrin deunyddiau'n ddiogel
2.4 defnyddio a storio offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd
Meini Prawf Perfformiad 3
3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
3.2 offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 4
4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
5 lleihau difrod a chynnal lle gweithio glân
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Meini Prawf Perfformiad 5
7 dangos sgiliau mesur, marcio allan, torri, uno, ymestyn, cydweddu a sicrhau
8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol
9 gosod darnau a theils llawr gweol ar yr arwynebau dilynol mewn sefyllfaoedd domestig a/neu gontract yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir
9.1 llorweddol
9.2 ar oleddf
9.3 grisiog
9.4 ffurfiedig
9.5 uwchstandiau
10 gosod darnau a theils llawr gweol ar yr arwynebau dilynol mewn sefyllfaoedd domestig a/neu gontract yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir
10.1 lloriau solet
10.2 lloriau pren
10.3 lloriau crog
10.4 grisiau
Meini Prawf Perfformiad 6
11 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Gwybodaeth Cwmpas
Gwaredu gwastraff
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Argyfyngau
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
Peryglon
3 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
4 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
4.1 mesurau diogelu ar y cyd
4.2 cyfarpar diogelu personol
4.3 cyfarpar diogelu anadlol
4.4 system awyru a gwacáu leol
Gwybodaeth
5 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, data electronig, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud ag adeiladau
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
Cynnal a chadw
7 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol
Dulliau gweithio
8 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
8.1 cadarnhau a sicrhau ei bod yn addas gosod gorchuddion lloriau gweol ar arwynebau cefndir
8.2 gwerthuso cynnwys lleithder y llawr
8.3 sicrhau bod deunyddiau a chynhyrchion yn ymaddasu
8.4 sicrhau bod y rhynghaenau cywir wedi'u gosod (sefyllfaoedd domestig)
8.5 sicrhau bod yr haenau gwaelodol cywir wedi'u gosod
8.6 gosod darnau a theils llawr gweol ar arwynebau llorweddol, ar oleddf a grisiog mewn sefyllfaoedd domestig a/neu gontract yn unol â phwyntiau gosod allan a llinellau, gan sicrhau bod cyfeiriad y peil yn gywir
8.7 gosod darnau a theils llawr gweol ar loriau solet, lloriau pren, lloriau crog a grisiau mewn sefyllfaoedd domestig a/neu gontract
8.8 gosod trimiau
8.9 gosod ymylon grisiau (sefyllfaoedd contract)
8.10 ffurfio siapiau ac uwchstandiau
8.11 ffurfio grisiau tro a syth
8.12 diogelu gorchuddion lloriau a orffennwyd
8.13 nodi a oes system wresogi dan y llawr ac ymateb yn briodol i hynny
8.14 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol
8.15 nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol
8.16 defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
9 gwaith tîm a chyfathrebu
10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod gorchuddion lloriau gweol
Problemau
11 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
Rhaglen
12 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
13 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
Diogelu gwaith
14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
Adnoddau
15 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, addasrwydd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol o
15.1 darnau a theils llawr gweol
15.2 adlynion, tapiau a hylifau
15.3 rhynghaenau (sefyllfaoedd domestig), haenau gwaelodol, trimiau gorffennu, ymylon grisiau (sefyllfaoedd contract) a deunyddiau diogelu
15.4 gosodiadau, ffitiadau a chydrannau cysylltiedig
15.5 offer llaw a/neu offer pŵer cludadwy a chyfarpar
16 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer gosod gorchuddion lloriau gweol
Gweithdrefnau diogelwch
17 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr