Gosod allan at ddibenion gosod gorchuddion lloriau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis offer a chyfarpar, trosglwyddo llinellau a datymau a gosod allan at ddibenion gosod gorchuddion lloriau ar loriau llorweddol, lloriau ar oleddf, lloriau ffurfiedig a chilfwaog a lloriau grisiog.
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol Gorchuddion Lloriau a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr adeiladu ei defnyddio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
Meini Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith diogel
K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso
K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K9 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol
Meini Prawf Perfformiad 3
Dewis adnoddau
K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K12 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K13 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain
Meini Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod
K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn
Meini Prawf Perfformiad 5
Bodloni gofynion y contract
K16 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K17 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 6
Amser a neilltuwyd
K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
**Meini Prawf Perfformiad 1** 1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud |
**Meini Prawf Perfformiad 2** 2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol 2.1 dulliau gweithio 2.2. defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel 2.3 defnyddio a storio offer a chyfarpar yn ddiogel 2.4 risgiau penodol i iechyd |
**Meini Prawf Perfformiad 3** 3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun 3.1 offer a chyfarpar |
**Meini Prawf Perfformiad 4** 4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod 5 lleihau difrod a chynnal lle gweithio glân 6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol |
**Meini Prawf Perfformiad 5** 7 dangos sgiliau mesur a marcio allan 8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw a chyfarpar gosod allan 9 gosod allan at ddibenion gosod gorchuddion lloriau ar y lloriau dilynol yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir 9.1 llorweddol 9.2 ar oleddf 9.3 grisiog 9.4 ffurfiedig/cilfwaog |
**Meini Prawf Perfformiad 6** 10 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient |
Gwybodaeth Cwmpas
Gwaredu gwastraff 1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol |
Argyfyngau 2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol 2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau 2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol |
Peryglon 3 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol |
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch 4 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol 4.1 mesurau diogelu ar y cyd 4.2 cyfarpar diogelu personol 4.3 cyfarpar diogelu anadlol 4.4 system awyru a gwacáu leol |
Gwybodaeth 5 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, data electronig, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud ag adeiladau |
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol 6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau a chodi a chario |
Cynnal a chadw 7 gofal y gweithiwr am offer llaw a chyfarpar gosod allan |
Dulliau gweithio 8 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i 8.1 gwella effeithlonrwydd deunyddiau o fewn canllawiau'r cleient 8.2 trosglwyddo llinellau a datymau 8.3 gosod pwyntiau dechrau, llinellau a systemau grid allan ar loriau llorweddol, lloriau ar oleddf, lloriau grisiog a lloriau ffurfiedig a chilfwaog 8.4 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol 8.5 nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol 8.6 defnyddio offer llaw a chyfarpar gosod allan 9 gwaith tîm a chyfathrebu 10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod allan at ddibenion gosod gorchuddion lloriau |
Problemau 11 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio 11.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa 11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad |
Rhaglen 12 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig 13 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith |
Diogelu gwaith 14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw |
**Adnoddau** 15 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol o 15.1 offer llaw (lefelau, llinellau, gosodiadau, proffiliau, tapiau mesur a laserau) 15.2 cyfarpar gosod allan 16 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd ac arwynebedd sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer gosod allan at ddibenion gosod gorchuddion lloriau |
**Gweithdrefnau diogelwch** 17 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr |