Paratoi a gosod haenau gwaelodol er mwyn gosod gorchuddion lloriau LEGACY
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis deunyddiau, cydrannau a chyfarpar, paratoi deunyddiau a gosod haenau gwaelodol a chydrannau cysylltiedig er mwyn gosod gorchuddion lloriau
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol Gorchuddion Lloriau a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr adeiladu ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1Dehongli gwybodaeth
K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithreduK2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongliK3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
Meini Prawf Perfformiad 2Arferion gwaith diogel
K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwysoK5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymatebK6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personolK7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynnyK8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwchK9 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol
Meini Prawf Perfformiad 3Dewis adnoddau
K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygionK11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhwK12 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddioK13 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain
Meini Prawf Perfformiad 4*Lleihau'r risg o ddifrod*
K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogeluK15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn
Meini Prawf Perfformiad 5Bodloni gofynion y contract
K16 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemauK17 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 6*Amser a neilltuwyd*
K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 11 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
Meini Prawf Perfformiad 22 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol2.1 dulliau gweithio2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel2.3 defnyddio, storio a thrin deunyddiau'n ddiogel2.4 defnyddio a storio offer a chyfarpar yn ddiogel2.5 risgiau penodol i iechyd
Meini Prawf Perfformiad 33 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau3.2 offer a chyfarparMeini Prawf Perfformiad 44 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod5 lleihau difrod a chynnal lle gweithio glân6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredolMeini Prawf Perfformiad 57 dangos sgiliau mesur, marcio allan, torri, gosod, lleoli a sicrhau8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol9 paratoi a gosod haenau gwaelodol a ffitiadau cysylltiedig ar loriau solet a/neu bren yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddirMeini Prawf Perfformiad 610 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Gwybodaeth Cwmpas
Gwaredu gwastraff1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Argyfyngau2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
Peryglon3 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch4 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol4.1 mesurau diogelu ar y cyd4.2 cyfarpar diogelu personol4.3 cyfarpar diogelu anadlol4.4 system awyru a gwacáu leol
Gwybodaeth5 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, data electronig, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud ag adeiladau
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
Cynnal a chadw7 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol
Dulliau gweithio8 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i8.1 cadarnhau a sicrhau ei bod yn addas gosod haenau gwaelodol ar arwynebau cefndir8.2 sicrhau bod deunyddiau'n ymaddasu8.3 lleoli, gosod a sicrhau rhynghaenau, haenau gwaelodol a ffitiadau'n unol â phwyntiau gosod allan/llinellau8.4 nodi a oes system wresogi dan y llawr ac ymateb yn briodol i hynny8.5 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol8.6 nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol8.7 defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar9 gwaith tîm a chyfathrebu10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â pharatoi a gosod haenau gwaelodol
Problemau11 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio11.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
Rhaglen12 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig13 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
Diogelu gwaith14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
**
Adnoddau**15 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, addasrwydd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol o15.1 adlynion a thapiau15.2 rhynghaenau a haenau gwaelodol15.3 gosodiadau, ffitiadau a chydrannau cysylltiedig15.4 offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar16 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer paratoi a gosod haenau gwaelodol
Gweithdrefnau diogelwch17 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr