Gosod gorffeniadau ffrâm ddur atodol

URN: COSVR296
Sectorau Busnes (Suites): Adeiladu gan ddefnyddio Darnau a Weithgynhyrchwyd Oddi ar y Safle
Datblygwyd gan: CITB
Cymeradwy ar: 02 Mai 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, gosod gorffeniadau ffrâm ddur atodol gan gynnwys; strwythur mewnol, deunyddiau atal tân, inswleiddio, haenau rheoli anwedd, eitemau gwaith coed, systemau clymu brics, pilenni anadlu

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes adeiladu gan ddefnyddio darnau a weithgynhyrchwyd oddi ar y safle a gellir ei defnyddio gan weithredwyr, goruchwylwyr a rheolwyr


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dehongli'r wybodaeth benodol sy'n ymwneud â'r gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei bod yn berthnasol
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol benodol a'r canllawiau swyddogol, i gyflawni eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis nifer ac ansawdd angenrheidiol yr adnoddau ar gyfer y dulliau gwaith
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal gyfagos
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth benodol ar gyfer y contract i gyflawni'r gwaith yn effeithlon yn unol â'r fanyleb ofynnol
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd, yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
K1 gweithdrefnau’r sefydliad a ddatblygwyd i adrodd a chywiro gwybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, a sut y cânt eu gweithredu
K2 y mathau o wybodaeth, eu ffynhonnell a sut y cânt eu dehongli
K3 gweithdrefnau’r sefydliad i ddatrys problemau gyda'r wybodaeth a pham ei bod yn bwysig eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith diogel
K4 lefel y ddealltwriaeth y mae’n rhaid i weithredwyr ei chael o wybodaeth am ddeddfwriaeth a chanllawiau swyddogol perthnasol, cyfredol a sut y cânt eu cymhwyso
K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K6 gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K7 beth yw'r gweithdrefnau adrodd ynghylch damweiniau a phwy sy'n gyfrifol am baratoi’r adroddiad
K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio offer rheoli iechyd a diogelwch
K9 sut i gydymffurfio ag arferion gwaith amgylcheddol gyfrifol i fodloni deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 3
Dewis adnoddau
K1 y nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K2 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut mae unrhyw broblemau
yn gysylltiedig â'r adnoddau yn cael eu hadrodd
K3 gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut y cânt eu defnyddio
K4 y peryglon sy'n gysylltiedig ag adnoddau a dulliau gwaith
a sut y cânt eu goresgyn

Meini Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod
K5 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K6 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut y caiff ei gyflawni

Meini Prawf Perfformiad 5
Bodloni manyleb y contract
K7 sut mae dulliau gweithio, i fodloni'r fanyleb, yn cael eu cyflawni a phroblemau yn cael eu hadrodd
K8 sut y caiff offer a chyfarpar eu cynnal a’u cadw

Meini Prawf Perfformiad 6
Amser a neilltuwyd
K9 beth yw'r rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith o fewn yr amcangyfrif o’r amser a neilltuwyd a pham y dylid cadw at ddyddiadau cau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli lluniadau, manylebau, gwybodaeth ddigidol, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gan y gweithgynhyrchwr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth benodol sy'n ymwneud â'r canlynol
2.1 dulliau gwaith
2.2 defnyddio offer rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio offer mynediad yn ddiogel
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 3
3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â’ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
3.2 offer a chyfarpar
3.3 nwyddau traul

Meini Prawf Perfformiad 4
4 diogelu'r gwaith a'r ardal gyfagos rhag difrod
5 cadw’r ardal waith yn glir a thaclus
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5
7 dangos sgiliau gwaith i fesur, marcio allan, gosod, gorffen, ei roi yn ei le a’i wneud yn ddiogel
8 defnyddio a chynnal offer llaw, offer pŵer cludadwy ac offer ategol
9 gosod o leiaf un o'r canlynol yn unol â chyfarwyddiadau gwaith penodol
9.1 systemau clymu brics
9.2 pilen anadlu
9.3 haenau rheoli anwedd
9.4 deunydd atal tân
9.5 inswleiddio
9.6 leinin mewnol
9.7 bordiau allanol
9.8 gosodiadau cynnal y cladin

Meini Prawf Perfformiad 6
10 cwblhau eich gwaith eich hun o fewn yr amcangyfrif o’r amser a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau a/neu gleientiaid eraill


Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau’r sefydliad, gwybodaeth gan y gweithgynhyrchwr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau
2 ymateb gweithredwr i sefyllfaoedd yn unol â chymeradwyaeth y sefydliad a sgiliau personol pan fydd yn ymwneud â
2.1 thanau, gollyngiadau, anafiadau
2.2 argyfyngau yn ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon
3 y rhai a nodwyd drwy asesiad risg, dulliau gwaith, gwybodaeth dechnegol gan y gweithgynhyrchwr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Offer rheoli iechyd a diogelwch
4 a nodwyd drwy egwyddorion atal at ddefnydd galwedigaethol, mathau a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol
4.1 mesurau diogelu cyfunol
4.2 awyru a gwacáu lleol (LEV)
4.3 cyfarpar diogelu personol (PPE)
4.4 cyfarpar diogelu resbiradol (RPE)

Hysbysrwydd
5 lluniadau, manylebau, amserlenni, gwybodaeth ddigidol a modelu 3D, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth dechnegol gan y gweithgynhyrchwr, canllawiau swyddogol a rheoliadau cyfredol sy'n llywodraethu adeiladau mewn perthynas â gosod gorffeniadau ffrâm ddur atodol

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
6 mae’n ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, islaw lefel y ddaear, mewn mannau cyfyng, ar uchder, gydag offer a chyfarpar, gyda deunyddiau a sylweddau, wrth symud a storio deunyddiau trwy godi â llaw a chodi mecanyddol

Cynnal a chadw
7 gofal gan weithredwyr am offer llaw, offer pŵer cludadwy ac offer ategol

Dulliau gwaith
8 cymhwyso gwybodaeth ar gyfer arferion gwaith diogel ac iach, gweithdrefnau a sgiliau sy'n ymwneud â'r dull a'r maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir
8.1 ddarparu gwybodaeth ar gyfer Modelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM)
8.2 gosod systemau clymu brics, pilenni anadlu, haenau rheoli anwedd, deunydd atal tân, inswleiddio, strwythur mewnol, bordiau allanol a gosodiadau cynnal y cladin
8.3 ffurfio’r cysylltiadau sy'n gysylltiedig ag adeiladu ffrâm ddur
8.4 gosod deunydd inswleiddio i sicrhau’r perfformiad ynni a charbon penodedig
8.5 osgoi pwyntiau sy’n colli gwres ac anweddu
8.6 cymhwyso egwyddorion awyru a bod yn aerdyn
8.7 ffurfio uniadau sy'n gysylltiedig â gosod strwythur mewnol
8.8 nodi a phenderfynu pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol ac adrodd yn unol â hynny
8.9 nodi a dilyn y gofynion o ran ansawdd y gwaith gosod
8.10 gweithio gyda, o gwmpas ac yn agos at beiriannau a pheiriannau
8.11 cyfarwyddo ac arwain y gwaith o ddefnyddio a symud peiriannau ac offer
8.12 defnyddio offer llaw, offer a chyfarpar pŵer cludadwy
8.13 gwaith ar uchder
8.14 defnyddio offer mynediad
8.15 defnyddio dŵr yn ddarbodus, adrodd ynghylch gollyngiadau a chau’r tapiau
9 gwaith tîm a chyfathrebu
10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod gorffeniadau ffrâm ddur atodol

Problemau
11 y rhai sy'n deillio o wybodaeth, adnoddau a dulliau gwaith
11.1 awdurdod ei hun i gywiro
11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen
12 math o dargedau cynhyrchiant ac amserlenni
13 sut mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif
14 gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer adrodd ynghylch amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith
15 diogelu’r gwaith rhag difrod yn sgil gwaith cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau
16 deunyddiau, cydrannau ac offer sy'n ymwneud â mathau, nifer, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd y safon a/neu arbenigedd
16.1 systemau clymu brics, pilen anadlu, haenau rheoli anwedd, deunydd atal tân, inswleiddio, leinin mewnol, bordiau allanol ac eitemau cysylltiedig
16.2 ffitiadau a gosodiadau (gosodiadau cynnal y cladin)
16.3 nwyddau traul
16.4 offer llaw, offer a chyfarpar pŵer cludadwy
17 cadarnhau bod adnoddau a deunyddiau yn cydymffurfio â'r fanyleb
18 dull o gyfrifo nifer, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer gosod gorffeniadau ffrâm ddur atodol

Gweithdrefnau diogelwch
19 safle, gweithle, cwmni, gweithredwr a cherbydau


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

03 Meh 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR296

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithredwyr Adeiladu

Cod SOC

5319

Geiriau Allweddol

Deunydd atal tân; Clymau brics; Pilen anadlu; Bordiau allanol; Haen rheoli anwedd