Gosod llechi to naturiol i fanylion to crwm ac ysgubedig - Copy
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dethol a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar a pharatoi a gosod llechi to naturiol i fanylion to crwm ac ysgubol (ffenestri to, toeon cafnog ysgubedig a lasiedig, ardaloedd crwm a rheiddiol) ar gyfer gwaith newydd ac/neu waith ail-doi
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol toi â llechi a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a roddir a'r canllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dethol y nifer a'r ansawdd gofynnol o adnoddau ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal gyfagos
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth gontract a roddir i gyflawni'r gwaith yn effeithlon yn ôl y fanyleb ofynnol
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd, yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1 Dehongli gwybodaeth K1 y gweithdrefnau sefydliadol a ddatblygwyd i adrodd a chywiro gwybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, a sut y cânt eu gweithredu K2 y mathau o wybodaeth, eu ffynhonnell a sut y cânt eu dehongli K3 y gweithdrefnau sefydliadol i ddatrys problemau â'r wybodaeth a pham ei fod yn bwysig eu bod yn cael eu dilyn |
Meini Prawf Perfformiad 2 Arferion gwaith diogel * * K4 lefel y ddealltwriaeth y mae'n rhaid i weithredwyr ei chael o wybodaeth ar gyfer deddfwriaeth berthnasol, gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut y caiff ei gweithredu K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb K6 y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer riportio damweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud yr adroddiad K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch K9 sut i gydymffurfio ag arferion gweithio sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn diwallu deddfwriaeth gyfredol a **chanllawiau swyddogol ** |
** Meini Prawf Perfformiad 3** Dethol adnoddau * * K10 y nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut yr adroddir am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau K12 y gweithdrefnau sefydliadol i ddethol adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut y cânt eu defnyddio K13 y peryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut y cânt eu goresgyn |
Meini Prawf Perfformiad 4 Lleihau'r risg o ddifrod * * K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut y caiff ei gyflawni |
Meini Prawf Perfformiad 5 Diwallu manyleb y contract * * K16 sut mae dulliau gweithio, i ddiwallu'r fanyleb, yn cael eu cyflawni a sut y dylid adrodd am broblemau K17 sut mae gwaith cynnal a chadw offer a chyfarpar yn cael ei wneud |
Meini Prawf Perfformiad 6 Amser wedi'i ddyrannu * * K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud yn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig a pham y dylid cadw at derfynau amser |
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1 dehongli cyfarwyddiadau gweithio llafar/ysgrifenedig, lluniadau, manylebau, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
Meini Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg trwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnydd diogel o offer rheoli iechyd a diogelwch
2.3 defnydd diogel o gyfarpar mynediad/platfformau gweithio
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd
Meini Prawf Perfformiad 3
3. dethol adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a ffitiadau
3.2 offer a chyfarpar
4 diogelu'r gwaith a'r ardal gyfagos rhag difrod
5 lleihau difrod a chynnal lle gweithio glân
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Meini Prawf Perfformiad 5
7 arddangos sgiliau gwaith i fesur, gosod, amlinellu, graddio, meintio, tyllu, torri, ffitio, cymysgu, lleoli, sicrhau a gorffen
8 defnyddio a chynnal offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
9 gosod llechi naturiol ar estyll ac/neu fyrddau a ffitiadau, gosodiadau a chydrannau cysylltiedig hyd at gyfarwyddiadau gweithio penodol, gan ddefnyddio deunyddiau newydd ac/neu wedi'u hadfer ar gyfer o leiaf dau o'r manylion to dilynol
9.1 ffenestri to
9.2 toeon cafnog ysgubedig
9.3 toeon cafnog lasiedig
9.4 crwm fertigol
9.5 codiad to crwm (conau, pennau aps)
Meini Prawf Perfformiad 6
10 cwblhau eich gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill ac/neu y cleient
Gwybodaeth Cwmpas
Argyfyngau
2.1 thanau, colledion, anafiadau
2.2 argyfyngau'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
Peryglon
Offer rheoli iechyd a diogelwch
4.1 mesurau amddiffynnol ar y cyd
4.2 offer diogelu personol (PPE)
4.3 offer diogelu anadlol (RPE)
4.4 gwyntyllu egsôst lleol (LEV)
Gwybodaeth
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
Cynnal a Chadw
Dulliau gweithio
8.1 asesu addasrwydd yr is-strwythur
8.2 nodi a riportio diffygion ag is-strwythur a rhyngwynebau to
8.3 pennu dimensiynau lap a mesur
8.4 torri a ffitio llechi, ffitiadau a chydrannau toi i'r maint a'r siâp gofynnol
8.5 gosod byrddau, lletemau, ffiledi ac estyll hollt
8.6 graddio, meintio a thyllu llechi
8.7 gosod llechi ar estyll neu yn uniongyrchol ar ardaloedd astellog
8.8 cynllunio a gosod llechi a chydrannau, gan gynnwys darnau gwrthddwr i ffenestri to, toeon cafnog ysgubedig a lasiedig, ardaloedd crwm a rheiddiol
8.9 nodi lle gellir defnyddio deunyddiau wedi'u hadfer
8.10 deall yr effeithiau ar lap a mesur wrth ddefnyddio llechi maint imperialaidd wedi'u hadfer
8.11 nodi pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol ac adrodd yn unol â hynny
8.12 nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol
8.13 defnyddio offer llaw, offer pŵery a chyfarpar
8.14 gweithio ar uchder
8.15 defnyddio cyfarpar mynediad/platfformau gweithio
9 gwaith tîm a chyfathrebu
10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod llechi to naturiol
Problemau
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni
11.2 gweithdrefnau adrodd sefydliadol
Rhaglen
13 gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
Diogelu gwaith
Adnoddau
15.1 llechi, byrddau, estyll hollt, darnau gwrthddwr, pren, lletemau, ffiledi, ffitiadau a gosodiadau
15.2 offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
16 dulliau cyfrifo nifer, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn i osod llechi to naturiol i fanylion to crwm ac ysgubedig
Gweithdrefnau diogelwch