Gosod gorchuddion to ag estyll to
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar a pharatoi a gosod estyll to ar gyfer gwaith newydd ac/neu waith ail-doi
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol toi â llechi a theilsio toeau a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a roddir a'r canllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dethol y nifer a'r ansawdd gofynnol o adnoddau ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal gyfagos
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth gontract a roddir i gyflawni'r gwaith yn effeithlon yn ôl y fanyleb ofynnol
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd, yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1 Dehongli gwybodaeth K1 y gweithdrefnau sefydliadol a ddatblygwyd i adrodd a chywiro gwybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, a sut y cânt eu gweithredu K2 y mathau o wybodaeth, eu ffynhonnell a sut y cânt eu dehongli K3 y gweithdrefnau sefydliadol i ddatrys problemau â'r wybodaeth a pham ei fod yn bwysig eu bod yn cael eu dilyn |
Meini Prawf Perfformiad 2 Arferion gwaith diogel * * K4 lefel y ddealltwriaeth y mae'n rhaid i weithredwyr ei chael o wybodaeth ar gyfer deddfwriaeth berthnasol, gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut y caiff ei gweithredu K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb K6 y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer riportio damweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud yr adroddiad K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch K9 sut i gydymffurfio ag arferion gweithio sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn diwallu deddfwriaeth gyfredol a **chanllawiau swyddogol ** |
** Meini Prawf Perfformiad 3** Dethol adnoddau * * K10 y nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut yr adroddir am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau K12 y gweithdrefnau sefydliadol i ddethol adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut y cânt eu defnyddio K13 y peryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut y cânt eu goresgyn |
Meini Prawf Perfformiad 4 Lleihau'r risg o ddifrod * * K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut y caiff ei gyflawni |
Meini Prawf Perfformiad 5 Diwallu manyleb y contract * * K16 sut mae dulliau gweithio, i ddiwallu'r fanyleb, yn cael eu cyflawni a sut y dylid adrodd am broblemau K17 sut mae gwaith cynnal a chadw offer a chyfarpar yn cael ei wneud |
Meini Prawf Perfformiad 6 Amser wedi'i ddyrannu * * K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud yn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig a pham y dylid cadw at derfynau amser |
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 2
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnydd diogel o offer rheoli iechyd a diogelwch
2.3 defnydd diogel o gyfarpar mynediad/platfformau gweithio
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd
Meini Prawf Perfformiad 3
3.1 deunyddiau, cydrannau a ffitiadau
3.2 offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 4
5 lleihau difrod a chynnal lle gweithio glân
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Meini Prawf Perfformiad 5
8 defnyddio a chynnal offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
9 gosod estyll to a ffitiadau, gosodiadau a chydrannau cysylltiedig hyd at gyfarwyddiadau gweithio penodol, gan ddefnyddio deunyddiau newydd ac/neu wedi'u hadfer ar gyfer toeau â'r dilynol
9.1 ardaloedd cyffredinol
9.2 ymylon
9.3 cribau
9.4 talcendoeon
9.5 toeon cafnog
9.6 bondoeau a haen uchaf
9.7 ategweithiau
9.8 agoriadau (goleuadau to, ffenestri)
9.9 arwynebau fertigol
Meini Prawf Perfformiad 6
Gwybodaeth Cwmpas
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau sefydliadol, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Argyfyngau
2.1 thanau, colledion, anafiadau
2.2 argyfyngau'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
Peryglon
Offer rheoli iechyd a diogelwch
4.1 mesurau amddiffynnol ar y cyd
4.2 offer diogelu personol (PPE)
4.3 offer diogelu anadlol (RPE)
4.4 gwyntyllu egsôst lleol (LEV)
Gwybodaeth
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
Cynnal a Chadw
Dulliau gweithio
8.1 asesu addasrwydd yr is-strwythur
8.2 nodi a riportio diffygion ag is-strwythur a rhyngwynebau to
8.3 torri a ffitio estyll to, ffitiadau a chydrannau toi i'r maint a'r siâp gofynnol
8.4 cynllunio a gosod estyll to pren i fondoeau a haen uchaf, ymylon, cribau, talcendoeon, toeon cafnog, agoriadau (goleuadau to, ffenestri), ategweithiau ac ardaloedd cyffredinol
8.5 cynllunio a gosod estyll to pren ar arwynebau fertigol gan gynnwys talcenni, agoriadau, treiddiadau, corneli mewnol ac allanol
8.6 gosod unedau cribau/talcendoeon wedi'u ffurfio ymlaen llaw
8.7 gosod fentiau
8.8 nodi pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol ac adrodd yn unol â hynny
8.9 nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol
8.10 defnyddio offer llaw, offer pŵery a chyfarpar
8.11 gweithio ar uchder
8.12 defnyddio cyfarpar mynediad/platfformau gweithio
9 gwaith tîm a chyfathrebu
10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod gorchuddion to
Problemau
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni
11.2 gweithdrefnau adrodd sefydliadol
Rhaglen
13 gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
Diogelu gwaith
Adnoddau
15.1 estyll to pren, unedau talcendoeon a chribau wedi'u ffurfio ymlaen llaw, fentiau a gosodiadau
15.2 offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
16 dulliau cyfrifo nifer, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn i osod gorchuddion to ag estyll to
Gweithdrefnau diogelwch