Gosod teils to lap-sengl i fesur sefydlog
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dethol a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar a gosod teils lap-sengl i fesur sefydlog ar gyfer gwaith newydd ac/neu waith ail-doi
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol teilsio toeau a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a roddir a'r canllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dethol y nifer a'r ansawdd gofynnol o adnoddau ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal gyfagos
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth gontract a roddir i gyflawni'r gwaith yn effeithlon yn ôl y fanyleb ofynnol
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd, yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1 Dehongli gwybodaeth K1 y gweithdrefnau sefydliadol a ddatblygwyd i adrodd a chywiro gwybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, a sut y cânt eu gweithredu K2 y mathau o wybodaeth, eu ffynhonnell a sut y cânt eu dehongli K3 y gweithdrefnau sefydliadol i ddatrys problemau â'r wybodaeth a pham ei fod yn bwysig eu bod yn cael eu dilyn |
Meini Prawf Perfformiad 2 Arferion gwaith diogel * * K4 lefel y ddealltwriaeth y mae'n rhaid i weithredwyr ei chael o wybodaeth ar gyfer deddfwriaeth berthnasol, gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut y caiff ei gweithredu K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb K6 y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer riportio damweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud yr adroddiad K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch K9 sut i gydymffurfio ag arferion gweithio sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn diwallu deddfwriaeth gyfredol a **chanllawiau swyddogol ** |
** Meini Prawf Perfformiad 3** Dethol adnoddau * * K10 y nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut yr adroddir am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau K12 y gweithdrefnau sefydliadol i ddethol adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut y cânt eu defnyddio K13 y peryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut y cânt eu goresgyn |
Meini Prawf Perfformiad 4 Lleihau'r risg o ddifrod * * K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut y caiff ei gyflawni |
Meini Prawf Perfformiad 5 Diwallu manyleb y contract * * K16 sut mae dulliau gweithio, i ddiwallu'r fanyleb, yn cael eu cyflawni a sut y dylid adrodd am broblemau K17 sut mae gwaith cynnal a chadw offer a chyfarpar yn cael ei wneud |
Meini Prawf Perfformiad 6 Amser wedi'i ddyrannu * * K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud yn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig a pham y dylid cadw at derfynau amser |
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli cyfarwyddiadau gweithio llafar/ysgrifenedig, lluniadau, manylebau, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
Meini Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg trwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnydd diogel o offer rheoli iechyd a diogelwch
2.3 defnydd diogel o gyfarpar mynediad/platfformau gweithio
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd
Meini Prawf Perfformiad 3
3 dethol adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a ffitiadau
3.2 offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 4
4 diogelu'r gwaith a'r ardal gyfagos rhag difrod
5 lleihau difrod a chynnal lle gweithio glân
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Meini Prawf Perfformiad 5
7 arddangos sgiliau gwaith i fesur, gosod, amlinellu, torri, ffitio, cymysgu, lleoli, sicrhau a gorffen
8 defnyddio a chynnal offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
9 gosod teils to lap-sengl i fesur sefydlog a ffitiadau, gosodiadau a chydrannau cysylltiedig hyd at gyfarwyddiadau gweithio penodol, gan ddefnyddio deunyddiau newydd ac/neu wedi'u hadfer ar gyfer toeau â'r dilynol
9.1 ardaloedd cyffredinol
9.2 bondoeau a haen uchaf
9.3 ategweithiau
9.4 agoriadau (goleuadau to, ffenestri)
9.5 ymylon gosod sych ac/neu wlyb, cribau, talcendoeon a thoeon cafnog
Meini Prawf Perfformiad 6
10 cwblhau eich gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill ac/neu y cleient
Gwybodaeth Cwmpas
Argyfyngau
2.1 thanau, colledion, anafiadau
2.2 argyfyngau'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
Peryglon
Offer rheoli iechyd a diogelwch
4.1 mesurau amddiffynnol ar y cyd
4.2 offer diogelu personol (PPE)
4.3 offer diogelu anadlol (RPE)
4.4 gwyntyllu egsôst lleol (LEV)
Gwybodaeth
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
Cynnal a Chadw
**
Dulliau gweithio
8.1 asesu addasrwydd yr is-strwythur
8.2 nodi a riportio diffygion ag is-strwythur a rhyngwynebau to
8.3 pennu dimensiynau lap a mesur
8.4 torri a ffitio teils, ffitiadau a chydrannau toi i'r maint a'r siâp gofynnol
8.5 cynllunio a gosod teils a chydrannau i fondoeau a haen uchaf, ymylon, cribau, talcendoeon, toeon cafnog, agoriadau (goleuadau to, ffenestri), ategweithiau ac ardaloedd cyffredinol
8.6 gosod fentiau, awyru crib ac awyru lefel uchel arall
8.7 cymysgu tywod, sment ac ychwanegion
8.8 cymysgu morter gradd toi priodol
8.9 ffurfio manylion gorffen gosodiad sych ac/neu wlyb
8.10 nodi lle gellir defnyddio deunyddiau wedi'u hadfer
8.11 deall yr effeithiau ar lap a mesur wrth ddefnyddio teils maint imperialaidd wedi'u hadfer
8.12 deall defnyddiau a chyfyngiadau teils clai wedi'u gwneud â llaw/wedi'u crefftio
8.13 nodi pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol ac adrodd yn unol â hynny
8.14 nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol
8.15 defnyddio offer llaw, offer pŵery a chyfarpar
8.16 gweithio ar uchder
8.17 defnyddio cyfarpar mynediad/platfformau gweithio
9 gwaith tîm a chyfathrebu
10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod teils to
*Problemau
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni
11.2 gweithdrefnau adrodd sefydliadol
Rhaglen
13 gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
*
Diogelu gwaith
**Adnoddau
15.1 teils lap-sengl, ffitiadau, gosodiadau, teils cribau a thalcendoeon, systemau gosodiad sych, systemau awyru, morter gradd toi priodol, tywod, sment ac ychwanegion
15.2 offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
16 dulliau cyfrifo nifer, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn i osod teils to lap-sengl i fesur sefydlog
Gweithdrefnau diogelwch