Gosod cydrannau ar gyfer adeiladu to cynnes ac oer

URN: COSVR281
Sectorau Busnes (Suites): Galwedigaethau Toi (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 31 Rhag 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dethol a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar a pharatoi a gosod gwrth-estyll, systemau awyru, inswleiddio ac inswleiddio hatsh mynediad, pren cynhaliol a chydrannau ategol i adeiladu toeau cynnes ac oer ar gyfer gwaith newydd ac/neu ail-doi

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol toi â llechi a theilsio toeau a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dehongli'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a roddir a'r canllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach

P3 dethol y nifer a'r ansawdd gofynnol o adnoddau ar gyfer y dulliau gweithio

P4 cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal gyfagos

P5 cydymffurfio â'r wybodaeth gontract a roddir i gyflawni'r gwaith yn effeithlon yn ôl y fanyleb ofynnol

P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd, yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1

Dehongli gwybodaeth

K1        y gweithdrefnau sefydliadol a ddatblygwyd i adrodd a chywiro gwybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, a sut y cânt eu gweithredu

K2        y mathau o wybodaeth, eu ffynhonnell a sut y cânt eu dehongli

K3        y gweithdrefnau sefydliadol i ddatrys problemau â'r wybodaeth a pham ei fod yn bwysig eu bod yn cael eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2

Arferion gwaith diogel

* *

K4        lefel y ddealltwriaeth y mae'n rhaid i weithredwyr ei chael o wybodaeth ar gyfer deddfwriaeth berthnasol, gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut y caiff ei gweithredu

K5        sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K6        y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K7        beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer riportio damweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud yr adroddiad

K8        pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K9        sut i gydymffurfio ag arferion gweithio sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn diwallu deddfwriaeth gyfredol a **chanllawiau swyddogol

**

**

Meini Prawf Perfformiad 3**

Dethol adnoddau

* *

K10     y nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K11     sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut yr adroddir am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau

K12     y gweithdrefnau sefydliadol i ddethol adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut y cânt eu defnyddio

K13     y peryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut y cânt eu goresgyn

Meini Prawf Perfformiad 4

Lleihau'r risg o ddifrod

* *

K14     sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K15     pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut y caiff ei gyflawni

Meini Prawf Perfformiad 5

Diwallu manyleb y contract

* *

K16     sut mae dulliau gweithio, i ddiwallu'r fanyleb, yn cael eu cyflawni a sut y dylid adrodd am broblemau

K17     sut mae gwaith cynnal a chadw offer a chyfarpar yn cael ei wneud

Meini Prawf Perfformiad 6

Amser wedi'i ddyrannu

* *

K18     beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud yn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1

1 dehongli cyfarwyddiadau gweithio llafar/ysgrifenedig, lluniadau, manylebau, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2

2 osgoi risg trwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnydd diogel o offer rheoli iechyd a diogelwch
2.3 defnydd diogel o gyfarpar mynediad/platfformau gweithio
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 3

3 dethol adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a ffitiadau
3.2 offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 4

4 diogelu'r gwaith a'r ardal gyfagos rhag difrod
5 lleihau difrod a chynnal lle gweithio glân
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5

7 arddangos sgiliau gwaith i fesur, torri, amlinellu, ffitio, lleoli a sicrhau
8 defnyddio a chynnal offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
9 gosod y cydrannau toi dilynol ar doeau â chribau, ymylon, talcendoeon, toeon cafnog, agoriadau, treiddiadau ac ategweithiau hyd at gyfarwyddiadau gweithio penodol i adeiladu to cynnes ac oer
9.1 gwrth-estyll
9.2 systemau awyru
9.3 inswleiddio dros ac/neu rhwng lefel ceibrau
9.4 inswleiddio lefel nenfwd
9.5 inswleiddio hatsh mynediad

Meini Prawf Perfformiad 6

10 cwblhau eich gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill ac/neu y cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff

1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau sefydliadol, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol wrth ymwneud â
2.1 thanau, colledion, anafiadau
2.2 argyfyngau'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon

3 y rhai hynny a nodir trwy asesiad risg, dull gweithio, gwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Offer rheoli iechyd a diogelwch

4 a nodir gan egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol
4.1 mesurau amddiffynnol ar y cyd
4.2 offer diogelu personol (PPE)
4.3 offer diogelu anadlol (RPE)
4.4 gwyntyllu egsôst lleol (LEV)

Gwybodaeth

5 cyfarwyddiadau gweithio llafar/ysgrifenedig, data electronig, lluniadau, manylebau, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, gweithdrefnau sefydliadol a rheoliadau cyfredol sy'n rheoli adeiladau

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr ynghylch damweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar, â deunyddiau a sylweddau, â symud/storio deunyddiau a thrwy trin â llaw a chodi mecanyddol

Cynnal a Chadw

7 gofal gweithredol o offer llaw,offer pŵer a chyfarpar ategol

Dulliau gweithio

8 cymhwyso gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach sy'n ymwneud â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir
8.1 asesu addasrwydd yr is-strwythur
8.2 nodi a riportio diffygion ag is-strwythur a rhyngwynebau to
8.3 torri a ffitio deunyddiau to cynnes ac oer a chydrannau toi i'r maint a'r siâp gofynnol
8.4 gosod is-haen a gwrth-estyll ar ddyluniad y to
8.5 gosod systemau awyru
8.6 gosod inswleiddio dros ac/neu rhwng lefel ceibrau
8.7 gosod inswleiddio lefel nenfwd
8.8 gosod inswleiddio hatsh mynediad
8.9 tynnu inswleiddio aneffeithiol/wedi'i ddifrodi o ardal y to
8.10 gwirio a chynnal awyru digonol
8.11 gwirio pren cynhaliol mewn talcendoeon, toeon cafnog, cribau, ategweithiau ac agoriadau
8.12 nodi egwyddorion adeiladu to cynnes/oer
8.13 nodi adeiladu nenfwd, gan gynnwys tyndra aer, haenau aer a haenau rheoli anwedd
8.14 nodi pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol ac adrodd yn unol â hynny
8.15 nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol
8.16 defnyddio offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
8.17 gweithio ar uchder
8.18 defnyddio cyfarpar mynediad
9 gwaith tîm a chyfathrebu
10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod cydrannau ar gyfer adeiladu to cynnes neu oer

Problemau

11 y rhai hynny sy'n deillio o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni
11.2 gweithdrefnau adrodd sefydliadol

**

Rhaglen**

12 mathau amseriadau gwaith/dyddiaduron, siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
13 gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau

15 deunyddiau, cydrannau ac offer sy'n ymwneud â mathau, nifer, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd
15.1 is-haenau, gwrth-estyll, inswleiddio cwilt ac anhyblyg a systemau awyru
15.2 offer llaw, offer pŵer a chyfarpar
16 dulliau cyfrifo nifer, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn i osod cydrannau ar gyfer adeiladu to cynnes ac oer

Gweithdrefnau diogelwch
17 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr



Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Rhag 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR281

Galwedigaethau Perthnasol

Towyr, Teilswyr Toeau a Gweithwyr Llechi

Cod SOC

5313

Geiriau Allweddol

Gosod-is-haenau, Gwrth-estyll; Inswleiddio cwilt ac anhyblyg; Rheoli-anwedd; Cribau; Systemau-awyru