Tynnu ac adfer gorchuddion to
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar a thynnu ac adfer gorchuddion to i'w ddefnyddio yn y dyfodol, cael gwared ar ddeunyddiau anaddas a pharatoi arwynebau ar gyfer ail-doi.
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol toi â llechi a theilsio toeau a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a roddir a'r canllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dethol y nifer a'r ansawdd gofynnol o adnoddau ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal gyfagos
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth gontract a roddir i gyflawni'r gwaith yn effeithlon yn ôl y fanyleb ofynnol
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd, yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1 Dehongli gwybodaeth K1 y gweithdrefnau sefydliadol a ddatblygwyd i adrodd a chywiro gwybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, a sut y cânt eu gweithredu K2 y mathau o wybodaeth, eu ffynhonnell a sut y cânt eu dehongli K3 y gweithdrefnau sefydliadol i ddatrys problemau â'r wybodaeth a pham ei fod yn bwysig eu bod yn cael eu dilyn |
Meini Prawf Perfformiad 2 Arferion gwaith diogel * * K4 lefel y ddealltwriaeth y mae'n rhaid i weithredwyr ei chael o wybodaeth ar gyfer deddfwriaeth berthnasol, gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut y caiff ei gweithredu K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb K6 y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer riportio damweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud yr adroddiad K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch K9 sut i gydymffurfio ag arferion gweithio sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn diwallu deddfwriaeth gyfredol a **chanllawiau swyddogol ** |
** Meini Prawf Perfformiad 3** Dethol adnoddau * * K10 y nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut yr adroddir am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau K12 y gweithdrefnau sefydliadol i ddethol adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut y cânt eu defnyddio K13 y peryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut y cânt eu goresgyn |
Meini Prawf Perfformiad 4 Lleihau'r risg o ddifrod * * K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut y caiff ei gyflawni |
Meini Prawf Perfformiad 5 Diwallu manyleb y contract * * K16 sut mae dulliau gweithio, i ddiwallu'r fanyleb, yn cael eu cyflawni a sut y dylid adrodd am broblemau K17 sut mae gwaith cynnal a chadw offer a chyfarpar yn cael ei wneud |
Meini Prawf Perfformiad 6 Amser wedi'i ddyrannu * * K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud yn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig a pham y dylid cadw at derfynau amser |
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli cyfarwyddiadau gweithio llafar/ysgrifenedig, lluniadau, manylebau, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
Meini Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg trwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnydd diogel o offer rheoli iechyd a diogelwch
2.3 defnydd diogel o gyfarpar mynediad/platfformau gweithio
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd
Meini Prawf Perfformiad 3
3 dethol adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a ffitiadau
3.2 offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 4
4 diogelu'r gwaith a'r ardal gyfagos rhag difrod
5 lleihau difrod a chynnal lle gweithio glân
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Meini Prawf Perfformiad 5
7 arddangos sgiliau gwaith i fesur, meintio, gosod, amlinellu, graddio, tyllu, torri, ffitio, cymysgu, lleoli, sicrhau a gorffen
8 defnyddio a chynnal offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
9 gosod llechi to naturiol o faint ar hap (hyd a lled) (wedi'u hoelio ar y canol ac/neu wedi'u hoelio ar y pen) ar estyll ac/neu fyrddau a ffitiadau, gosodiadau a chydrannau cysylltiedig hyd at gyfarwyddiadau gweithio penodol, gan ddefnyddio deunyddiau newydd ac/neu wedi'u hadfer ar gyfer toeau â'r dilynol
9.1 ardaloedd cyffredinol
9.2 bondoeau a haen uchaf
9.3 ategweithiau
9.4 agoriadau (goleuadau to, ffenestri)
9.5 ymylon gosod sych ac/neu wlyb, cribau, talcendoeon a thoeon cafnog
Meini Prawf Perfformiad 6
10 cwblhau eich gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill ac/neu y cleient
Gwybodaeth Cwmpas
Argyfyngau
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol wrth ymwneud â
2.1 thanau, colledion, anafiadau
2.2 argyfyngau'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
*
Peryglon*
3 y rhai hynny a nodir trwy asesiad risg, dull gweithio (deunyddiau asbestos), gwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chyfarwyddyd swyddogol
Offer rheoli iechyd a diogelwch
4 a nodir gan egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol
4.1 mesurau amddiffynnol ar y cyd
4.2 offer diogelu personol (PPE)
4.3 offer diogelu anadlol (RPE)
4.4 gwyntyllu egsôst lleol (LEV)
Gwybodaeth
5 cyfarwyddiadau gweithio llafar/ysgrifenedig, data electronig, lluniadau, manylebau, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, gweithdrefnau sefydliadol a rheoliadau cyfredol sy'n rheoli adeiladau
*
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol*
6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr ynghylch damweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar, â deunyddiau a sylweddau, â symud/storio deunyddiau a thrwy trin â llaw a chodi mecanyddol
C*ynnal a Chadw*
7 gofal gweithredol o offer llaw,offer pŵer a chyfarpar ategol
*
Dulliau gweithio*
8 cymhwyso gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach sy'n ymwneud â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir
8.2 nodi a riportio diffygion ag is-strwythur a rhyngwynebau to
8.3 lleoli byrddau stopio dros dro wrth fondoeau
8.4 tynnu gorchuddion to presennol
8.5 clirio'r to o rwbel a hoelion mewn ceibrau a phren arall yn y to
8.6 didoli gorchuddion to sydd wedi'u tynnu a chael gwared ar ddeunyddiau diangen
8.7 adfer teils a llechi naturiol, llechi cerrig a hindreuliadau y gellir eu hailddefnyddio
8.8 asesu addasrwydd y deunyddiau i'w hadfer
8.9 pennu meintiau llechi imperialaidd a metrig
8.10 pentyrru/storio deunyddiau wedi'u hadfer i'w hailddefnyddio
8.11 paratoi deunyddiau i'w hailddefnyddio, gan gynnwys dad-hoelio, ail-dyllu ac ail-feintio
8.12 nodi pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol ac adrodd yn unol â hynny
8.13 nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol
8.14 defnyddio offer llaw, offer pŵery a chyfarpar
8.15 gweithio ar uchder
8.16 defnyddio cyfarpar mynediad/platfformau gweithio
9 cydgysylltu â chleientiaid ynghylch gweithdrefnau ar gyfer cyflawni'r gwaith ac amddiffyn eiddo a'r ardal gyfagos
10 gwaith tîm a chyfathrebu
11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â thynnu ac adfer gorchuddion to
**
Problemau**
12 y rhai hynny sy'n deillio o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
12.2 gweithdrefnau adrodd sefydliadol
Rhaglen
13 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
Diogelu gwaith
15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
Adnoddau
16 cydrannau a chyfarpar sy'n ymwneud â mathau, nifer, ansawdd a meintiau a chynaliadwyedd safonol ac/neu arbenigol
16.1 offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
17 dulliau cyfrifo nifer sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn i dynnu ac adfer gorchuddion to
Gweithdrefnau diogelwch
18 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr