Gosod llechi to naturiol ar hap ag ymylon sy'n lleihau

URN: COSVR279
Sectorau Busnes (Suites): Sgiliau Treftadaeth (Adeiladu),Galwedigaethau Toi (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 31 Rhag 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dethol a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar a gosod gorchuddion to â llechi naturiol ar hap (wedi'u hoelio ar y canol ac/neu wedi'u hoelio ar y pen) ag ymylon yn lleihau ar gyfer gwaith newydd ac/neu waith ail-doi

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol toi â llechi a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1    dehongli'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd P2    cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a roddir a'r canllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach P3    dethol y nifer a'r ansawdd gofynnol o adnoddau ar gyfer y dulliau gweithio P4    cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal gyfagos P5    cydymffurfio â'r wybodaeth gontract a roddir i gyflawni'r gwaith yn effeithlon yn ôl y fanyleb ofynnol P6    cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd, yn unol â'r rhaglen waith

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1

Dehongli gwybodaeth

K1        y gweithdrefnau sefydliadol a ddatblygwyd i adrodd a chywiro gwybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, a sut y cânt eu gweithredu

K2        y mathau o wybodaeth, eu ffynhonnell a sut y cânt eu dehongli

K3        y gweithdrefnau sefydliadol i ddatrys problemau â'r wybodaeth a pham ei fod yn bwysig eu bod yn cael eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2

Arferion gwaith diogel

* *

K4        lefel y ddealltwriaeth y mae'n rhaid i weithredwyr ei chael o wybodaeth ar gyfer deddfwriaeth berthnasol, gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut y caiff ei gweithredu

K5        sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K6        y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K7        beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer riportio damweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud yr adroddiad

K8        pam, pryd a sut y dylid defnyddio offer rheoli iechyd a diogelwch

K9        sut i gydymffurfio ag arferion gweithio sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn diwallu deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

**

Meini Prawf Perfformiad 3**

Dethol adnoddau

* *

K10     y nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K11     sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut yr adroddir am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau

K12     y gweithdrefnau sefydliadol i ddethol adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut y cânt eu defnyddio

K13     y peryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut y cânt eu goresgyn

Meini Prawf Perfformiad 4

Lleihau'r risg o ddifrod

* *

K14     sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K15     pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut y caiff ei gyflawni

Meini Prawf Perfformiad 5

Diwallu manyleb y contract

* *

K16     sut mae dulliau gweithio, i ddiwallu'r fanyleb, yn cael eu cyflawni a sut y dylid adrodd am broblemau

K17     sut mae gwaith cynnal a chadw offer a chyfarpar yn cael ei wneud

Meini Prawf Perfformiad 6

Amser wedi'i ddyrannu

* *

K18     beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud yn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1

1 dehongli cyfarwyddiadau gweithio llafar/ysgrifenedig, lluniadau, manylebau, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2

2 osgoi risg trwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnydd diogel o offer rheoli iechyd a diogelwch
2.3 defnydd diogel o gyfarpar mynediad/platfformau gweithio
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 3

3 dethol adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a ffitiadau
3.2 offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 4

4 diogelu'r gwaith a'r ardal gyfagos rhag difrod
5 lleihau difrod a chynnal lle gweithio glân
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5

7 arddangos sgiliau gwaith i fesur, meintio, gosod, amlinellu, graddio, tyllu, torri, ffitio, cymysgu, lleoli, sicrhau a gorffen
8 defnyddio a chynnal offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
9 gosod llechi to naturiol o faint ar hap (hyd a lled) (wedi'u hoelio ar y canol ac/neu wedi'u hoelio ar y pen) ar estyll ac/neu fyrddau a ffitiadau, gosodiadau a chydrannau cysylltiedig hyd at gyfarwyddiadau gweithio penodol, gan ddefnyddio deunyddiau newydd ac/neu wedi'u hadfer ar gyfer toeau â'r dilynol
9.1 ardaloedd cyffredinol
9.2 bondoeau a haen uchaf
9.3 ategweithiau
9.4 agoriadau (goleuadau to, ffenestri)
9.5 ymylon gosod sych ac/neu wlyb, cribau, talcendoeon a thoeon cafnog

Meini Prawf Perfformiad 6

10 cwblhau eich gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill ac/neu y cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff

1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau sefydliadol, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol wrth ymwneud â
2.1 thanau, colledion, anafiadau
2.2 argyfyngau'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon

3 y rhai hynny a nodir trwy asesiad risg, dull gweithio, gwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Offer rheoli iechyd a diogelwch

4 a nodir gan egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol
4.1 mesurau amddiffynnol ar y cyd
4.2 offer diogelu personol (PPE)
4.3 offer diogelu anadlol (RPE)
4.4 gwyntyllu egsôst lleol (LEV)

Gwybodaeth

5 cyfarwyddiadau gweithio llafar/ysgrifenedig, data electronig, lluniadau, manylebau, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, gweithdrefnau sefydliadol a rheoliadau cyfredol sy'n rheoli adeiladau

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr ynghylch damweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar, â deunyddiau a sylweddau, â symud/storio deunyddiau a thrwy trin â llaw a chodi mecanyddol

Cynnal a Chadw

7 gofal gweithredol o offer llaw,offer pŵer a chyfarpar ategol


Dulliau gweithio

8 cymhwyso gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach sy'n ymwneud â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir
8.1 asesu addasrwydd yr is-strwythur
8.2 nodi a riportio diffygion ag is-strwythur a rhyngwynebau to
8.3 pennu dimensiynau lap a mesur
8.4 torri a ffitio llechi, ffitiadau a chydrannau toi i'r maint a'r siâp gofynnol
8.5 graddio, meintio a thyllu llechi
8.6 gosod llechi ar estyll neu yn uniongyrchol ar ardaloedd astellog
8.7 cynnal lapiau pen ar gyfer haenau sy'n lleihau
8.8 cynnal lapiau ochr ar gyfer llechi â lled ar hap
8.9 nodi'r berthynas rhwng lap pen ac ochr, ongl y to a lleoliad daearyddol
8.10 cynllunio a gosod llechi to naturiol o faint ar hap (hyd a lled) (wedi'u hoelio ar y canol ac/neu wedi'u hoelio ar y pen), i estyll ac/neu fyrddau, ffitiadau a chydrannau i fondoeau a haen uchaf, ymylon, cribau, talcendoeon, toeon cafnog, agoriadau (goleuadau to, ffenestri), ategweithiau ac ardaloedd cyffredinol
8.11 gosod fentiau, awyru crib ac awyru lefel uchel arall
8.12 cymysgu tywod, sment ac ychwanegion
8.13 cymysgu morter gradd toi priodol
8.14 ffurfio manylion gorffen gosodiad sych ac/neu wlyb
8.15 nodi lle gellir defnyddio deunyddiau wedi'u hadfer
8.16 deall yr effeithiau ar lap a mesur wrth ddefnyddio llechi maint imperialaidd wedi'u hadfer
8.17 nodi pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol ac adrodd yn unol â hynny
8.18 nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol
8.19 defnyddio offer llaw, offer pŵery a chyfarpar
8.20 gweithio ar uchder
8.21 defnyddio cyfarpar mynediad/platfformau gweithio
9 gwaith tîm a chyfathrebu
10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod llechi to naturiol

Problemau

11 y rhai hynny sy'n deillio o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni
11.2 gweithdrefnau adrodd sefydliadol

Rhaglen

12 mathau amseriadau gwaith/dyddiaduron, siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
13 gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau

15 deunyddiau, cydrannau ac offer sy'n ymwneud â mathau, nifer, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd
15.1 llechi naturiol o faint rheolaidd, ffitiadau, gosodiadau, teils cribau a thalcendoeon, systemau gosodiad sych, systemau awyru, morter gradd toi priodol, tywod, sment ac ychwanegion
15.2 offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
16 dulliau cyfrifo nifer, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn i osod llechi to naturiol ar hap ag ymylon sy'n lleihau

Gweithdrefnau diogelwch

17 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Rhag 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR279

Galwedigaethau Perthnasol

Towyr, Teilswyr Toeau a Gweithwyr Llechi

Cod SOC

5313

Geiriau Allweddol

Gorchuddion-to; Wedi'u-hoelio-ar-y-pen; Wedi'i hoelio ar y canol; Estyll; Byrddau; Toi; Töwr; Ymylon; Bondoeau; Crib; Talcendoeon; Mortar; Ymylon-sy'n-lleihau; Llechi-naturiol