Gosod llechi to naturiol i fanylion to meitrog a fertigol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dethol a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar a gosod gorchuddion to â llechi naturiol ar ardaloedd to meitrog a fertigol ar gyfer gwaith newydd ac/neu waith ail-doi
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol toi â llechi a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a roddir a'r canllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach P3 dethol y nifer a'r ansawdd gofynnol o adnoddau ar gyfer y dulliau gweithio P4 cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal gyfagos P5 cydymffurfio â'r wybodaeth gontract a roddir i gyflawni'r gwaith yn effeithlon yn ôl y fanyleb ofynnol P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd, yn unol â'r rhaglen waith |
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
K1 y gweithdrefnau sefydliadol a ddatblygwyd i adrodd a chywiro gwybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, a sut y cânt eu gweithredu
K2 y mathau o wybodaeth, eu ffynhonnell a sut y cânt eu dehongli
K3 y gweithdrefnau sefydliadol i ddatrys problemau â'r wybodaeth a pham ei fod yn bwysig eu bod yn cael eu dilyn
Meini Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith diogel
K4 lefel y ddealltwriaeth y mae'n rhaid i weithredwyr ei chael o wybodaeth ar gyfer deddfwriaeth berthnasol, gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut y caiff ei gweithredu
K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K6 y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer riportio damweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud yr adroddiad
K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K9 sut i gydymffurfio ag arferion gweithio sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn diwallu deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol
Meini Prawf Perfformiad 3
Dethol adnoddau
K10 y nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut yr adroddir am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau
K12 y gweithdrefnau sefydliadol i ddethol adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut y cânt eu defnyddio
K13 y peryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut y cânt eu goresgyn
*
Meini Prawf Perfformiad 4*
Lleihau'r risg o ddifrod
K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut y caiff ei gyflawni
Meini Prawf Perfformiad 5
Diwallu manyleb y contract
K16 sut mae dulliau gweithio, i ddiwallu'r fanyleb, yn cael eu cyflawni a sut y dylid adrodd am broblemau
K17 sut mae gwaith cynnal a chadw offer a chyfarpar yn cael ei wneud
Meini Prawf Perfformiad 6
Amser wedi'i ddyrannu
K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud yn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig a pham y dylid cadw at derfynau amser
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli cyfarwyddiadau gweithio llafar/ysgrifenedig, lluniadau, manylebau, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
Meini Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg trwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnydd diogel o offer rheoli iechyd a diogelwch
2.3 defnydd diogel o gyfarpar mynediad/platfformau gweithio
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd
Meini Prawf Perfformiad 3
3 dethol adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a ffitiadau
3.2 offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 4
4 diogelu'r gwaith a'r ardal gyfagos rhag difrod
5 lleihau difrod a chynnal lle gweithio glân
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
**
**
Meini Prawf Perfformiad 5**
7 arddangos sgiliau gwaith i fesur, gosod, amlinellu, graddio, tyllu, torri, ffitio, cymysgu, lleoli, sicrhau a gorffen
8 defnyddio a chynnal offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
9 gosod llechi to naturiol ar estyll ac/neu fyrddau a ffitiadau, gosodiadau a chydrannau cysylltiedig hyd at gyfarwyddiadau gweithio penodol, gan ddefnyddio deunyddiau newydd ac/neu wedi'u hadfer ar gyfer toeau â'r dilynol
9.1 ardaloedd cyffredinol
9.2 talcendoeon meitrog
9.3 toeon cafnog meitrog
9.4 arwynebau fertigol
9.5 bondoeau a haen uchaf
9.6 ategweithiau
9.7 agoriadau (goleuadau to, ffenestri)
9.8 ymylon a chribau gosodiad sych ac/neu wlyb
Meini Prawf Perfformiad 6
10 cwblhau eich gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill ac/neu y cleient
Gwybodaeth Cwmpas
Gwaredu gwastraff
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau sefydliadol, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Argyfyngau
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol wrth ymwneud â
2.1 thanau, colledion, anafiadau
2.2 argyfyngau'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
Peryglon
3 y rhai hynny a nodir trwy asesiad risg, dull gweithio, gwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Offer rheoli iechyd a diogelwch
4 a nodir gan egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol
4.1 mesurau amddiffynnol ar y cyd
4.2 offer diogelu personol (PPE)
4.3 offer diogelu anadlol (RPE)
4.4 gwyntyllu egsôst lleol (LEV)
Gwybodaeth
5 cyfarwyddiadau gweithio llafar/ysgrifenedig, data electronig, lluniadau, manylebau, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, gweithdrefnau sefydliadol a rheoliadau cyfredol sy'n rheoli adeiladau
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr ynghylch damweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar, â deunyddiau a sylweddau, â symud/storio deunyddiau a thrwy trin â llaw a chodi mecanyddol
Cynnal a Chadw
7 gofal gweithredol o offer llaw,offer pŵer a chyfarpar ategol
Dulliau gweithio
8 cymhwyso gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach sy'n ymwneud â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir
8.1 asesu addasrwydd yr is-strwythur
8.2 nodi a riportio diffygion ag is-strwythur a rhyngwynebau to
8.3 pennu dimensiynau lap a mesur
8.4 torri a ffitio llechi, ffitiadau a chydrannau toi i'r maint a'r siâp gofynnol
8.5 graddio a thyllu llechi
8.6 gosod llechi ar estyll neu yn uniongyrchol ar ardaloedd astellog
8.7 cynllunio a gosod teils a chydrannau i fondoeau a haen uchaf, ymylon, cribau, talcendoeon, toeon cafnog, agoriadau (goleuadau to, ffenestri), ategweithiau ac ardaloedd cyffredinol
8.8 ffurfio talcendoeon meitrog a thoeon cafnog meitrog gan gynnwys mesur, torri a gosod darnau gwrthddwr
8.9 cynllunio a gosod llechi to naturiol ar arwynebau fertigol gan gynnwys talcenni, agoriadau, treiddiadau, corneli mewnol ac allanol
8.10 gosod fentiau, awyru crib ac awyru lefel uchel arall
8.11 cymysgu tywod, sment ac ychwanegion
8.12 cymysgu morter gradd toi priodol
8.13 ffurfio manylion gorffen gosodiad sych ac/neu wlyb
8.14 nodi lle gellir defnyddio deunyddiau wedi'u hadfer
8.15 deall yr effeithiau ar lap a mesur wrth ddefnyddio llechi maint imperialaidd wedi'u hadfer
8.16 nodi pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol ac adrodd yn unol â hynny
8.17 nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol
8.18 defnyddio offer llaw, offer pŵery a chyfarpar
8.19 gweithio ar uchder
8.20 defnyddio cyfarpar mynediad/platfformau gweithio
9 gwaith tîm a chyfathrebu
10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod llechi to naturiol
Problemau
11 y rhai hynny sy'n deillio o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni
11.2 gweithdrefnau adrodd sefydliadol
Rhaglen
12 mathau amseriadau gwaith/dyddiaduron, siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
13 gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
Diogelu gwaith
14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
Adnoddau
15 deunyddiau, cydrannau ac offer sy'n ymwneud â mathau, nifer, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd
15.1 llechi naturiol, ffitiadau, gosodiadau, darnau gwrthddwr, teils cribau a thalcendoeon, systemau gosodiad sych, systemau awyru, morter gradd toi priodol, tywod, sment ac ychwanegion
15.2 offer llaw, offer pŵer a chyfarpar
16 dulliau cyfrifo nifer, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn i osod llechi to naturiol i fanylion meitrog a fertigol y to
Gweithdrefnau diogelwch
17 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr