Gosod haen waelodol, estyll a chydrannau toi

URN: COSVR272
Sectorau Busnes (Suites): Sgiliau Treftadaeth (Adeiladu),Galwedigaethau Toi (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 31 Rhag 2012

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dethol a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar a pharatoi a gosod estyll, haen waelodol, gwrth-estyll, tan-orchuddion, systemau awyru bondoeau, hambyrddau cynnal yr haen waelodol a bylchau tân ar gyfer gwaith newydd ac/neu ail-doi

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol toi â llechi a theilsio toeau a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1    dehongli'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd P2    cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a roddir a'r canllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach P3    dethol y nifer a'r ansawdd gofynnol o adnoddau ar gyfer y dulliau gweithio P4    cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal gyfagos P5    cydymffurfio â'r wybodaeth gontract a roddir i gyflawni'r gwaith yn effeithlon yn ôl y fanyleb ofynnol P6    cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd, yn unol â'r rhaglen waith

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth

K1 y gweithdrefnau sefydliadol a ddatblygwyd i adrodd a chywiro gwybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, a sut y cânt eu gweithredu
K2 y mathau o wybodaeth, eu ffynhonnell a sut y cânt eu dehongli
K3 y gweithdrefnau sefydliadol i ddatrys problemau â'r wybodaeth a pham ei fod yn bwysig eu bod yn cael eu dilyn

*
Meini Prawf Perfformiad 2
*
Arferion gwaith diogel

K4 lefel y ddealltwriaeth y mae'n rhaid i weithredwyr ei chael o wybodaeth ar gyfer deddfwriaeth berthnasol, gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut y caiff ei gweithredu
K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K6 y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer riportio damweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud yr adroddiad
K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K9 sut i gydymffurfio ag arferion gweithio sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn diwallu deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

*
Meini Prawf Perfformiad 3
*
Dethol adnoddau

K10 y nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut yr adroddir am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau
K12 y gweithdrefnau sefydliadol i ddethol adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut y cânt eu defnyddio
K13 y peryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut y cânt eu goresgyn

*
Meini Prawf Perfformiad 4
*
Lleihau'r risg o ddifrod

K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut y caiff ei gyflawni

*
Meini Prawf Perfformiad 5
*
Diwallu manyleb y contract

K16 sut mae dulliau gweithio, i ddiwallu'r fanyleb, yn cael eu cyflawni a sut y dylid adrodd am broblemau
K17 sut mae gwaith cynnal a chadw offer a chyfarpar yn cael ei wneud

*
Meini Prawf Perfformiad 6
*
Amser wedi'i ddyrannu

K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud yn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1

1 dehongli cyfarwyddiadau gweithio llafar/ysgrifenedig, lluniadau, manylebau, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

*
Meini Prawf Perfformiad 2
*

2 osgoi risg trwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnydd diogel o offer rheoli iechyd a diogelwch
2.3 defnydd diogel o gyfarpar mynediad/platfformau gweithio
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd

*
Meini Prawf Perfformiad 3
*

3 dethol adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a ffitiadau
3.2 offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 4

4 diogelu'r gwaith a'r ardal gyfagos rhag difrod
5 lleihau difrod a chynnal lle gweithio glân
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5

7 arddangos sgiliau gwaith i fesur, torri, amlinellu, lleoli a gosod
8 defnyddio a chynnal offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
9 gosod estyll i bwyntiau datwm a mesur
10 gosod deunyddiau a chydrannau ar fondoeau, ymylon, talcendoeon, cribau, toeon cafnog, ategweithiau, agoriadau, treiddiadau, ardaloedd cyffredinol ac arwynebau fertigol hyd at gyfarwyddiadau gweithio penodol sy'n ymwneud â'r dilynol
10.1 haen waelodol
10.2 estyll
10.3 gwrth-estyll
10.4 tan-orchuddion
10.5 systemau awyru bondoeau
10.6 hambyrddau cynnal haen waelodol
10.7 bylchau tân

Meini Prawf Perfformiad 6

11 cwblhau eich gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill ac/neu y cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau sefydliadol, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
* *
Argyfyngau

2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol wrth ymwneud â
2.1 thanau, colledion, anafiadau
2.2 argyfyngau'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

*
Peryglon
*

3 y rhai hynny a nodir trwy asesiad risg, dull gweithio, gwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Offer rheoli iechyd a diogelwch
4 a nodir gan egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol
4.1 mesurau amddiffynnol ar y cyd
4.2 offer diogelu personol (PPE)
4.3 offer diogelu anadlol (RPE)
4.4 gwyntyllu egsôst lleol (LEV)

*
Gwybodaeth
*

5 cyfarwyddiadau gweithio llafar/ysgrifenedig, data electronig, lluniadau, manylebau, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, gweithdrefnau sefydliadol a rheoliadau cyfredol sy'n rheoli adeiladau

*
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
*

6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr ynghylch damweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar, â deunyddiau a sylweddau, â symud/storio deunyddiau a thrwy trin â llaw a chodi mecanyddol

*
Cynnal a Chadw
*

7 gofal gweithredol o offer llaw,offer pŵer a chyfarpar ategol
* *
Dulliau gweithio

8 cymhwyso gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach sy'n ymwneud â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir
8.1 asesu addasrwydd yr is-strwythur
8.2 nodi a riportio diffygion ag is-strwythur a rhyngwyneb to
8.3 sefydlu pwyntiau sefydlog a phenderfynu ar y mesur i osod a dodi safleoedd estyll
8.4 torri haen waelodol, estyll a chydrannau toi i'r maint a'r siâp gofynnol
8.5 gosod haen waelodol, estyll a gwrth-estyll, clipiau ymylon a thalcendoeon heyrn
8.6 gosod a phennu bargodion ar gyfer systemau gosod gwlyb ac/neu sych
8.7 gosod tan-orchudd ar gyfer ymylon gwelyol ac/neu systemau gosod sych
8.8 gosod haen waelodol i agoriadau (goleuadau to, ffenestri) a threiddiadau
8.9 gosod hambyrddau cynnal yr haen waelodol a systemau awyru bondoeau
8.10 ffurfio bylchau tân
8.11 nodi pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol ac adrodd yn unol â hynny
8.12 nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol
8.13 defnyddio offer llaw, offer pŵery a chyfarpar
8.14 gweithio ar uchder
8.15 defnyddio cyfarpar mynediad/platfformau gweithio
9 gwaith tîm a chyfathrebu
10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod haen waelodol, estyll a chydrannau toi

*
Problemau
*

11 y rhai hynny sy'n deillio o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni
11.2 gweithdrefnau adrodd sefydliadol

**

Rhaglen**

12 mathau amseriadau gwaith/dyddiaduron, siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
13 gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

*
Diogelu gwaith
*

14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

*
Adnoddau
*

15 deunyddiau, cydrannau ac offer sy'n ymwneud â mathau, nifer, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd
15.1 haen waelodol, estyll, gwrth-estyll, tan-orchudd, clipiau ymylon, systemau awyru bargodion a thalcendoeon heyrn
15.2 offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
16 dulliau cyfrifo nifer, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn i osod cydrannau plastr ffibrog cymhleth

*
Gweithdrefnau diogelwch
*

17 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Rhag 2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR272

Galwedigaethau Perthnasol

Towyr, Teilswyr Toeau a Gweithwyr Llechi

Cod SOC

5313

Geiriau Allweddol

Haen waelodol; Estyll toi; Gwrth-estyll; Tan-orchudd; Bylchau tân; Leinwyr toeon cafnog; Talcendoeon heyrn; Töwr; Toeon cafnog; Awyru