Gosod mesurau diogelwch a diogelu'r amgylchedd ar sgaffaldiau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a gosod mesurau diogelwch a diogelu'r amgylchedd ar sgaffaldiau, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar.
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym meysydd galwedigaethol Sgaffaldiau a Thechnegwyr Peirianneg a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i
gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a
chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion
waith diogel ac iach
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr
adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod
i'r waith a'r ardal o’i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y
gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen
waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1 Dehongli gwybodaeth* *wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn |
Meini Prawf Perfformiad 2 Arferion gwaith diogel* cymhwyso K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb K6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol K7 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch K9 sut i gydymffurfio ag arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni'r ddeddfwriaeth gyfredol a **chanllawiau wyddogol ** |
Meini Prawf Perfformiad 3 ** K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion |
Meini Prawf Perfformiad 4 * |
Meini Prawf Perfformiad 5 K16 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau |
Meini Prawf Perfformiad 6 K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser |
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
**Meini Prawf Perfformiad 1** 1 dehongli cynlluniau, lluniadau a brasluniau, datganiadau dull, asesiadau risg, gofynion, amserlenni a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud **Meini Prawf Perfformiad 2** 2 osgoi risg drwy ddilyn yr wybodaeth a roddir am y canlynol: 2.1 dulliau gweithio 2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel 2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel 2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel 2.5 risgiau penodol i iechyd ** ** **Meini Prawf Perfformiad 3** 3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun: 3.1 deunyddiau, cydrannau, gosodiadau, angorau a chlymau 3.2 offer a chyfarpar **Meini Prawf Perfformiad 4** 4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod 5 cynnal man gwaith clir a thaclus 6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol **Meini Prawf Perfformiad 5** 7 dangos sgiliau mesur, lleoli, gosod, sicrhau, datgysylltu a symud 8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, cyfarpar diogelu a chyfarpar mynediad 9 gosod a thynnu cyfarpar yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir mewn perthynas â'r canlynol: 9.1 diogelu'r cyhoedd 9.2 diogelu gweithwyr 9.3 diogelu'r amgylchedd **Meini Prawf Perfformiad 6** 10 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient |
Gwybodaeth Cwmpas
**Gwaredu gwastraff** 1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, wybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol **Argyfyngau** 2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol pan mae'n ymwneud â'r canlynol: 2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau 2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol **Peryglon** 3 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol **Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch** 4 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol: 4.1 mesurau diogelu ar y cyd 4.2 system awyru a gwacáu leol 4.3 cyfarpar diogelu personol 4.4 cyfarpar diogelu anadlol **Gwybodaeth** 5 cynlluniau, lluniadau a brasluniau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, safonau, rheoliadau a chanllawiau swyddogol sy'n ymwneud â darparu diogelwch a mesurau diogelu **Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol** 6 cyfrifoldebau gweithiwr o ran damweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol ** ** ** ** **Cynnal a chadw** 7 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy, cyfarpar ategol a chyfarpar mynediad ** Dulliau gweithio** 8 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i wneud y canlynol: 8.1 nodi'r gofynion a chadarnhau'r deunyddiau a'r dull ar gyfer gosod gardiau a rhwystrau er mwyn diogelu'r cyhoedd, y gweithwyr a'r amgylchedd 8.2 mesur a pharatoi ar gyfer gosod gardiau, rhwystrau a sgriniau 8.3 lleoli, gosod a sicrhau gardiau, rhwystrau a sgriniau 8.4 datgysylltu a thynnu gardiau, rhwystrau a sgriniau 8.5 gosod a phrofi angorau a chlymau 8.6 cynnal archwiliad gweledol o gyfarpar diogelu rhag cwympo 8.7 gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt 8.8 defnyddio offer llaw a chyfarpar ategol 8.9 gweithio ar uchder 8.10 defnyddio cyfarpar mynediad 9 gwaith tîm a chyfathrebu 10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig a gosod mesurau diogelwch a diogelu'r amgylchedd ar sgaffaldiau |
**Problemau** 11 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio 11.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa 11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad > ** > ** **Rhaglen** 12 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig 13 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith **Diogelu gwaith** 14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw **Adnoddau** 15 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o'r canlynol: 15.1 llieiniau a rhwydi 15.2 byrddau a dalennau pren 15.3 tiwbiau, ffitiadau, clampiau, cysylltyddion, angorau a chlymau 15.4 rhaff, cortyn a thâp 15.5 cyfarpar diogelu 15.6 offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar 16 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion 17 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd ac arwynebedd sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer gosod mesurau diogelwch a diogelu'r amgylchedd gweithredol ar sgaffaldiau **Gweithdrefnau diogelwch** 18 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr, cerbydau |