Defnyddio systemau diogelu rhag cwympo a ddarperir

URN: COSVR252
Sectorau Busnes (Suites): Galwedigaethau Toi (Adeiladu),Gweithrediadau Cyrraedd a Rigio (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a defnyddio systemau diogelu rhag cwympo a ddarperir, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar.

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym meysydd galwedigaethol Sgaffaldiau, Llwyfannu a Rigio, Adeiladu a Chrefftau Adeiladu a Thechnegwyr Peirianneg, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1  dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2  cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach

P3  dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4  cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P5  cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P6  cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1

Dehongli gwybodaeth

K1   pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2   pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

*
Meini Prawf Perfformiad 2
*

Arferion gwaith diogel

K4     deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut cânt eu cymhwyso
K5     sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K6     beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K7     y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K8     pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K9     sut i gydymffurfio ag arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 3

Dewis adnoddau

K10   beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K11   sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K12   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K13   pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

*
*

*
Meini Prawf Perfformiad 4
*

Lleihau'r risg o ddifrod

K14   sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K15   pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 5

Bodloni gofynion y contract

K16   sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K17   sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 6

Amser a neilltuwyd

K18   beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

*

Meini Prawf Perfformiad 1

1   dehongli cynlluniau, lluniadau a brasluniau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyfarwyddiadau defnyddwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

*
*

Meini Prawf Perfformiad 2

2   osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y

     canlynol:

        2.1   dulliau gweithio

        2.2   defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel a

                defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel

        2.3   defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel

        2.4   defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn

                ddiogel

        2.5   risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 3

3   dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun:

        3.1   deunyddiau a chydrannau

        3.2   offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 4

4   diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod

5   cynnal man gwaith clir a thaclus

6   gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5

7   dangos sgiliau gwisgo, atodi, gosod allan, gosod, sicrhau, archwilio a symud

8   defnyddio a chynnal a chadw offer llaw a systemau a chyfarpar diogelu rhag cwympo

9   defnyddio systemau a chyfarpar diogelu rhag cwympo yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir gan ddefnyddio a phwyntiau angori cydnabyddedig ar gyfer o leiaf ddau o'r canlynol:

        9.1   sgaffald a/neu rigio

        9.2   strwythurau durwaith wedi'u gosod yn sownd

        9.3   systemau rhaff wifrau

        9.4   pwyntiau angori wedi'u gosod yn barhaol

        9.5   pwyntiau angori dros dro

        9.6   systemau trac

        9.7   systemau perchnogol

*
*

Meini Prawf Perfformiad 6

10    cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff

1   cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau’r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

2   ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol:

        2.1   tanau, gollyngiadau ac anafiadau

        2.2   argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau

                galwedigaethol

Peryglon

3   y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

4   y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol:

        4.1   mesurau diogelu ar y cyd

        4.2   system awyru a gwacáu leol

        4.3   cyfarpar diogelu personol

        4.4   cyfarpar diogelu anadlol

Gwybodaeth

5   cynlluniau, lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, canllawiau swyddogol a rheoliadau sy’n gysylltiedig â darparu systemau diogelu rhag cwympo

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

6   cyfrifoldebau gweithiwr o ran damweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Cynnal a chadw

7   gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy, cyfarpar a systemau diogelu rhag cwympo

Dulliau gweithio

8   cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i wneud y canlynol:

        8.1   lleoli a gosod systemau diogelu rhag cwympo

        8.2   gwisgo harneisiau diogelwch, eu hatodi i systemau

                diogelu rhag cwympo a'u clymu'n dynn

        8.3   nodi'r gwahaniaethau rhwng stopio cwymp, atal cwymp,

                lleoli mynediad rhaff, systemau mynediad a harneisiau yn

                y gwaith

        8.4   nodi'r gwahaniaethau rhwng rheffynnau lleddfu sioc a

                rheffynnau atal

        8.5   archwilio diogelwch a symudiad gweithredol systemau a

                chyfarpar diogelu rhag cwympo'n weledol

        8.6   nodi'r meini prawf ar gyfer archwilio a phrofi cyfarpar

               diogelu rhag cwympo'n drylwyr (riliau dirwyn, llygadfolltiau

               a phwyntiau angori)

        8.7   cymhwyso hierarchaeth o fesurau rheoli ar gyfer gweithio

                ar uchder

        8.8   datgysylltu a thynnu cyfarpar a dillad diogelu rhag

                cwympo

        8.9   cydymffurfio â chynllun achub

        8.10   gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn

                  atynt

        8.11  defnyddio offer llaw

        8.12  defnyddio cyfarpar mynediad

9   gwaith tîm a chyfathrebu

10  anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â defnyddio systemau diogelu rhag cwympo a ddarperir

Problemau

11  y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

        11.1  eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

        11.12  gweithdrefnau adrodd y sefydliad

*
*

Rhaglen

12  mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig

13  gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

14  diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau

15  deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o'r canlynol:

        15.1  cyfarpar diogelu ar y cyd

        15.2  harnais corff llawn a chyfarpar personol cysylltiedig

        15.3  rheffyn sy'n lleddfu sioc ac nad yw'n lleddfu sioc

        15.4  bachau, cylchoedd a byclau cysylltiedig

        15.5  offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar

16  cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion

17  dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd ac arwynebedd sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer defnyddio darpariaeth diogelu rhag cwympo

Gweithdrefnau diogelwch

18   safle, gweithle, cwmni a gweithiwr, cerbydau


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR252

Galwedigaethau Perthnasol

Crefftau Adeiladu, Sgaffaldio, Llwyfannu a Rigio, Technegwyr Peirianneg

Cod SOC

8141

Geiriau Allweddol

Diogelu rhag cwympo; Sgaffaldiau; Rigin; Rhaff wifrau; Harneisiau diogelwch; Rheffyn; Cylchoedd a byclau; Pwyntiau angori