Gosod a datgysylltu trumiau toeau neu lifftiau mynediad i gerddwyr

URN: COSVR251
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Cyrraedd a Rigio (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 01 Tach 2020

Trosolwg

 

Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi, gosod a datgysylltu trumiau toeau neu lifftiau mynediad i gerddwyr, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar.

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol sgaffaldiau a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1  dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2  cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach

P3  dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4  cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P5  cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P6  cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1

Dehongli gwybodaeth

K1   pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2   pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

*
Meini Prawf Perfformiad 2
*

Arferion gwaith diogel

K4     deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut cânt eu cymhwyso
K5     sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K6     beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K7     y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K8     pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K9     sut i gydymffurfio ag arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 3

Dewis adnoddau

K10   beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K11   sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K12   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K13   pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

*
*

*
Meini Prawf Perfformiad 4
*

Lleihau'r risg o ddifrod

K14   sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K15   pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 5

Bodloni gofynion y contract

K16   sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K17   sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 6

Amser a neilltuwyd

K18   beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

*

Meini Prawf Perfformiad 1

1    dehongli cynlluniau, lluniadau a brasluniau, datganiadau dull, asesiadau risg, gofynion, amserlenni a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2

2   osgoi risg drwy ddilyn yr wybodaeth a roddir am y canlynol:

        2.1   dulliau gweithio

        2.2   defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel

        2.3   defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel

        2.4   defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn

                ddiogel

        2.5   delio â'r cyhoedd

        2.6   risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 3

3   dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun:

        3.1   deunyddiau, cydrannau, gosodiadau, angorau a chlymau

        3.2   offer a chyfarpar

        3.3   cyfarpar mynediad

Meini Prawf Perfformiad 4

4   diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod

5   cynnal man gwaith clir a thaclus

6   gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5

7   dangos sgiliau mesur, gosod allan, cydosod, trwsio, gosod, sicrhau a symud

8   defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, cyfarpar ategol a chyfarpar mynediad

9   gosod a datgysylltu trumiau toeau neu lifftiau mynediad i gerddwyr yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir, gan ddefnyddio un o'r deunyddiau a'r elfennau canlynol:

        9.1   tiwbiau a ffitiadau

        9.2   sgaffald systemau

*
*

Meini Prawf Perfformiad 6

10    cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff

1   cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

2    ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol pan mae'n ymwneud â'r canlynol:

        2.1   tanau, gollyngiadau ac anafiadau

        2.2   argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau

                galwedigaethol

Peryglon

3   y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

4   y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol:

        4.1   mesurau diogelu ar y cyd

        4.2   system awyru a gwacáu leol

        4.3   cyfarpar diogelu personol

        4.4   cyfarpar diogelu anadlol

Gwybodaeth

5   cynlluniau, lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau a chanllawiau swyddogol sy'n ymwneud â

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

6   cyfrifoldebau gweithiwr o ran damweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Cynnal a chadw

7   gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy, cyfarpar ategol a chyfarpar mynediad

Dulliau gweithio

8   cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i wneud y canlynol:

        8.1   cadarnhau'r ardal i godi nenbont dros balmant neu

                sgaffald ar y to

        8.2   cadarnhau bod sefydlogrwydd y sylfaen neu'r strwythur y

                bydd y sgaffald yn cael ei osod a'i sicrhau arno wedi cael 

                ei ystyried

        8.3   cadarnhau'r deunyddiau a'r cydrannau (tiwbiau a ffitiadau,

                sgaffald systemau)

        8.4   gosod strwythur y sgaffald allan a pharatoi ar ei gyfer

        8.5   gosod, sicrhau, datgysylltu a symud strwythur sgaffald

        8.6   gosod, sicrhau, datgysylltu a symud nenbontydd a

                thrumiau ar gyfer nenbontydd dros balmentydd a

                sgaffaldiau to

        8.7   gosod a sicrhau'r sgaffald

        8.8   delio â'r cyhoedd a thrydydd partïon

        8.9   cynnal archwiliad gweledol o gyfarpar diogelu rhag

                cwympo

        8.10  gosod clymau a phrofi angorau

        8.11  gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn

                 atynt

        8.12  defnyddio offer llaw a chyfarpar ategol

        8.13  gweithio ar uchder

        8.14  defnyddio cyfarpar mynediad

9   gwaith tîm a chyfathrebu

10  anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod a datgysylltu nenbontydd dros balmentydd neu sgaffaldiau to

Problemau

11   y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

        11.1  eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

        11.2  gweithdrefnau adrodd y sefydliad

*
*

Rhaglen

12   mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig

13   gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

14   diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau

15   deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o'r canlynol:

        15.1  tiwbiau a ffitiadau

        15.2  sgaffald systemau

        15.3  deunyddiau cysylltiedig (propiau, rhaffau, angorau,

                 clymau, byrddau, platiau, trawstiau, ysgolion, cydrannau

                 perchnogol)

        15.4  offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar

16   cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion

17   dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd ac arwynebedd sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer gosod a datgysylltu nenbontydd dros balmentydd neu sgaffaldiau to

Gweithdrefnau diogelwch

18   safle, gweithle, cwmni a gweithiwr, cerbydau


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Tach 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR251

Galwedigaethau Perthnasol

Sgaffaldio

Cod SOC

8141

Geiriau Allweddol

Sgaffald nenbont dros balmant; Sgaffaldiau to; Tiwbiau a ffitiadau; Ysgolion; Sefydlogrwydd; Trum; Nenbont