Gosod a datgysylltu platfformau mynediad/gweithio

URN: COSVR250
Sectorau Busnes (Suites): Peirianneg Simneiau (Adeiladu),Gweithrediadau Adeiladu a Gwasanaethau Peirianneg Sifil,Galwedigaethau Gorffen Addurnol a Pheintio Diwydiannol (Adeiladu),Dulliau Adeiladu Arloesol/Modern ,Galwedigaethau Toi (Adeiladu),Galwedigaethau Concrid Arbenigol (Adeiladu),Ffensio,Dymchwel,Gweithrediadau Cynnal a Chadw Adeiladau (Aml-grefft),Gweithrediadau Cyrraedd a Rigio (Adeiladu),Galwedigaethau Gwasanaethau Diwydiannol Cysylltiedig (Adeiladu),Triniaethau Inswleiddio ac Adeiladu (Adeiladu),Galwedigaethau Gosod Arbenigol (Adeiladu),Galwedigaethau Gwaith Uwchadeiledd (Adeiladu),Inswleiddio Thermol (Adeiladu),Gwaredu Gwastraff Peryglus a Gwastraff nad yw’n Beryglus (Adeiladu),Atgyweirio ac Adnewyddu,Systemau Adeiladu Diwydiannol (Adeiladu),Gweithrediadau Logisteg Safleoedd (Adeiladu),Gwaith Coedwig
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 30 Medi 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi, gosod a datgysylltu cyfarpar mynediad sy’n addas ar gyfer y gwaith, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar.

 

Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym meysydd galwedigaethol Sgaffaldiau, Llwyfannu, Rigio a’r rhan fwyaf o Grefftau Adeiladu, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1  dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2  cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach

P3  dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4  cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P5  cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P6  cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1

Dehongli gwybodaeth

K1   pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2   pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

*
Meini Prawf Perfformiad 2
*

Arferion gwaith diogel

K4   deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut cânt eu cymhwyso

K5   pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a sut a phryd i'w defnyddio

K6     sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K7     beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K8     beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K9     pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K10      sut i gydymffurfio ag arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 3

Dewis adnoddau

K11   beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K12   sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K13   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K14   pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

*
Meini Prawf Perfformiad 4
*

Lleihau'r risg o ddifrod

K15   sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K16   pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 5

Bodloni gofynion y contract

K17   sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K18   sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 6

Amser a neilltuwyd

K19   beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1

1   dehongli cynlluniau, lluniadau a brasluniau, datganiadau dull, asesiadau risg, gofynion a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud 

*
*

Meini Prawf Perfformiad 2

2   osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y canlynol

        2.1   dulliau gweithio

        2.2   defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel

        2.3   defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel

        2.4   defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn

                ddiogel

        2.5   risgiau penodol i iechyd

**

Meini Prawf Perfformiad 3**

3   dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun

        3.1   deunyddiau a chydrannau

        3.2   offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 4

4   diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod

5   cynnal man gwaith clir a thaclus

6   gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5

7   dangos sgiliau symud, lleoli/gosod, sicrhau, gwirio, datgysylltu a symud

8   defnyddio a chynnal a chadw offer llaw a chyfarpar ategol

9   gosod, datgysylltu a storio o leiaf ddau o'r mathau canlynol o gyfarpar mynediad yn unol â rheoliadau mynediad penodol

         9.1   ysgolion/byrddau ymlusgo

         9.2   ysgolion bach/ysgolion platfform

         9.3   tyrau perchnogol

         9.4   platfformau trestl

        9.5   tyrau sgaffald symudol

        9.6 llwyfannau/podia perchnogol

Meini Prawf Perfformiad 6

10  cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Argyfyngau

1   ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol

        1.1   tanau, gollyngiadau ac anafiadau

        1.2   argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau

                galwedigaethol

Peryglon

2   y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

3   y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol

        3.1   mesurau diogelu ar y cyd

        3.2   system awyru a gwacáu leol

        3.3   cyfarpar diogelu personol

        3.4   cyfarpar diogelu anadlol

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

4   cyfrifoldebau gweithiwr o ran damweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

*
*

Cynnal a chadw

5   gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol

Dulliau gweithio

6   cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i

        6.1   diogelu'r man gweithio

        6.2   gosod sylfaen ar gyfer y cyfarpar

        6.3   gosod cyfarpar mynediad perchnogol sy'n addas ar gyfer

                y gwaith yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd

        6.4   gosod cyfarpar mynediad amherchnogol sy'n addas ar

                gyfer y gwaith

        6.5   gosod sgriniau diogelu a rhybuddion

        6.6   monitro/cadw llygad ar y cyfarpar tra bydd yn cael ei

                ddefnyddio

        6.7   datgysylltu a storio cyfarpar mynediad

        6.8   gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn

                atynt

        6.9   defnyddio offer a chyfarpar

        6.10  gweithio ar uchder

        6.11  defnyddio cyfarpar mynediad

7   gwaith tîm a chyfathrebu

8   anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod a datgysylltu platfformau mynediad/gweithio

Problemau

9   y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

        9.1   eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

        9.2   gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen

10  mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig

11  gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

12  diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau

13  deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol o

        13.1  ysgolion/byrddau ymlusgo

        13.2  ysgolion bach/ysgolion platfform

        13.3  trestlau

        13.4  llwyfannau/podia perchnogol

        13.5  tyrau perchnogol

        13.6  tyrau sgaffald symudol

        13.7  cyfarpar diogelu a rhybuddion

        13.8  offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol

14  dulliau o gyfrifo faint o gyfarpar sydd ei angen ar gyfer y dull/gweithdrefn i osod a datgysylltu platfformau mynediad/gweithio

15  cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion

Gweithdrefnau diogelwch

16  safle, gweithle, cwmni a gweithiwr, cerbydau


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Hyd 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR250

Galwedigaethau Perthnasol

Sgaffaldio, Llwyfannu a Rigio, Adeiladu a Chrefftau Adeiladu

Cod SOC

8141

Geiriau Allweddol

Gosod platfformau mynediad; Datgysylltu platfformau mynediad; Sgaffald; Platfformau mynediad; Ysgolion; Platfformau gweithio; Ysgolion bach; Tyrau perchnogol; Platfformau trestl; Tyrau symudol; Sgriniau diogelu