Cynnal a chadw cydrannau anstrwythurol a strwythurol

URN: COSVR25
Sectorau Busnes (Suites): Galwedigaethau Coed (Adeiladu),Gweithrediadau Cynnal a Chadw Adeiladau (Aml-grefft),Adeiladu gan Ddefnyddio Cydosodiadau wedi’u Gweithgynhyrchu oddi ar y Safle,Atgyweirio ac Adnewyddu
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 29 Ebr 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag atgyweirio cydrannau anstrwythurol a/neu strwythurol wedi'u gwneud o bren a/neu gynhyrchion pren a/neu ddeunyddiau cyfansawdd a/neu fetel, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar.

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol Coed a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis nifer yr adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr
adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Maen Prawf Perfformiad 1

Dehongli gwybodaeth
K1  pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2  pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3  beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r    wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

Maen Prawf Perfformiad 2

Arferion gwaith diogel
K4  faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso

K5  pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a sut a phryd i'w defnyddio

K6  sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K7  beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K8   beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K9   pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K10  sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

Maen Prawf Perfformiad 3

Dewis adnoddau
K11  beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K12  sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K13  beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K14  pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

Maen Prawf Perfformiad 4

Lleihau'r risg o ddifrod
K15  sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K16  pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Maen Prawf Perfformiad 5


Bodloni gofynion y contract
K17  sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K18  sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Maen Prawf Perfformiad 6

Amser a *neilltuwyd*
K19  beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

​Maen Prawf Perfformiad 1
1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Maen Prawf Perfformiad 2

2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am o leiaf bedwar o'r dilynol

2.1 dulliau gweithio

2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel

2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel

2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel

2.5 risgiau penodol i iechyd

Maen Prawf Perfformiad 3

3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun

3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau

3.2 offer a chyfarpar

Maen Prawf Perfformiad 4

4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod

5 cynnal lle gweithio clir a thaclus

6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Maen Prawf Perfformiad 5

7 dangos sgiliau mesur, marcio allan, ffitio, sbleisio, gorffen, lleoli a sicrhau

8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw a phŵer

9 atgyweirio a/neu newid o leiaf dri o'r cydrannau anstrwythurol dilynol sydd wedi'u gwneud o bren, cynhyrchion pren, deunyddiau cyfansawdd a metel yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir

9.1 fframiau (gan gynnwys preimio'r atgyweiriad)

9.2 mowldinau (gan gynnwys preimio'r atgyweiriad)

9.3 gorchuddion distiau llawr (neu do gwastad)

9.4 cortynnau ffenestr

9.5 gwydr ffenestri

9.6 ffasgiâu, soffitiau ac estyll tywydd

9.7 cydrannau grisiau anstrwythurol

9.8 nenfydau ffug

10 atgyweirio a/neu newid o leiaf ddau o'r cydrannau strwythurol dilynol sydd wedi'u gwneud o bren, cynhyrchion pren, deunyddiau cyfansawdd a metel yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir

10.1 paneli o dan ffenestri siopau

10.2 distiau strwythurol (gan gynnwys yr hyn sy'n eu cynnal)

10.3 ceibrennau strwythurol (gan gynnwys yr hyn sy'n eu cynnal)

10.4 cydrannau grisiau strwythurol

10.5 partisiynau sy'n cynnal llwythi

10.6 agoriadau ffurfwaith

Maen Prawf Perfformiad 6

11 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff

1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol

2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau

2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Diffoddwyr tân

3 dŵr, CO2, ewyn a phowdr a'u defnyddiau

Peryglon

4 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol

5.1 mesurau diogelu ar y cyd

5.2 cyfarpar diogelu personol

5.3 cyfarpar diogelu anadlol

5.4 system awyru a gwacáu leol

Gwybodaeth

6 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, cyfarwyddiadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, brasluniau, data electronig, canllawiau swyddogol a rheoliadau adeiladu cyfredol sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw cydrannau anstrwythurol a strwythurol

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Cynnal-a-chadw
8 miniogi offer llaw a phŵer a gofal y gweithiwr am offer o'r fath

*
Dulliau gweithio
*

9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i

9.1 newid ac atgyweirio'r cydrannau anstrwythurol dilynol sydd wedi'u gwneud o bren, cynhyrchion pren, deunyddiau cyfansawdd a metel: fframiau, mowldinau, gorchuddion distiau llawr, gorchuddion to gwastad, cortynnau ffenestr, ffenestri a'r gwydr, ffasgiâu, soffitiau, estyll tywydd, cydrannau grisiau anstrwythurol a nenfydau ffug, ailosod brics a gwaith blociau a thacluso gwaith paent, gwaith plastro, gwaith brics a gwaith teilsio waliau

9.2 newid ac atgyweirio'r cydrannau strwythurol dilynol sydd wedi'u gwneud o bren, cynhyrchion pren, deunyddiau cyfansawdd a metel: paneli o dan ffenestri siopau, distiau strwythurol (gan gynnwys yr hyn sy'n eu cynnal), ceibrennau strwythurol (gan gynnwys yr hyn sy'n eu cynnal), cydrannau grisiau strwythurol, partisiynau sy'n cynnal llwythi ac agoriadau ffurfwaith

9.3 nodi pwyntiau sy'n cynnal llwythi

9.4 propio a chynnal strwythurau presennol

9.5 newid fframiau a mowldinau

9.6 atgyweirio a newid gwaith haearn ar ddrysau a ffenestri

9.7 atgyweirio a newid cafnau a pheipiau glaw

9.8 atgyweirio a newid ffasgiâu, soffitiau ac estyll tywydd

9.9 ffurfio uniadau sy'n gysylltiedig ag atgyweiriadau

9.10 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol

9.11 nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol

9.12 nodi a bodloni gofynion ansawdd ar gyfer gosod

9.13 gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt

9.14 defnyddio offer llaw a phŵer

9.15 gweithio ar uchder

9.16 defnyddio cyfarpar mynediad

10 gwaith tîm a chyfathrebu

11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw cydrannau anstrwythurol a strwythurol

*
Problemau
*

12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen
13 mathau o dargedau cynhyrchiant ac amserlenni

14 y ffordd y mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif

15 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

*
Diogelu gwaith
*

16 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau
17 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol o

17.1 pren, cynhyrchion pren, deunyddiau cyfansawdd, metel, mowldinau, cortynnau ffenestr, paent, brics, teils, sment, plastr, deunyddiau cadw, adlynion, deunyddiau selio a gwaith haearn

17.2 ffitiadau a gosodiadau

17.3 offer llaw a phŵer

18 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n cydymffurfio â'r gofynion gan gynnwys gofynion sy'n ymwneud ag addasrwydd, lleithder a pharhad

19 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer cynnal a chadw cydrannau anstrwythurol a strwythurol

*
Gweithdrefnau diogelwch
*

20 safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ConstructionSkills / SgiliauAdeiladu

URN gwreiddiol

COSVR25

Galwedigaethau Perthnasol

Gwaith Coed a Saernïaeth

Cod SOC

5315

Geiriau Allweddol

Cynnal a chadw; Atgyweirio; Newid; Gwaith coed; Coed; Fframiau; Mowldinau; Gwaith haearn; Gwydr; Cortynnau ffenestr; Distiau; Ceibrennau