Gosod a datgysylltu tyrau sgaffald symudol neu sefydlog

URN: COSVR248
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Cyrraedd a Rigio (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 30 Tach 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi, gosod a datgysylltu tyrau sgaffald symudol neu sefydlog, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol Sgaffaldiau a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio



Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1  dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2  cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach

P3  dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4  cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P5  cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P6  cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1

Dehongli gwybodaeth

K1   pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2   pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

*
Meini Prawf Perfformiad 2
*

Arferion gwaith diogel

K4   deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut cânt eu cymhwyso

K5   sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K6   beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K7   y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K8   pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K9   sut i gydymffurfio ag arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 3

Dewis adnoddau

K10   beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K11   sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K12   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K13   pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

*
Meini Prawf Perfformiad 4
*

Lleihau'r risg o ddifrod

K14   sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K15   pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 5

Bodloni gofynion y contract

K16   sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K17   sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 6

Amser a neilltuwyd

K18   beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1

1  dehongli cynlluniau, lluniadau a brasluniau, datganiadau dull, asesiadau risg, gofynion, amserlenni a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2
2   osgoi risg drwy ddilyn yr wybodaeth a roddir am y canlynol:
2.1  dulliau gweithio
2.2  defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3  defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
2.4  defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5  risgiau penodol i iechyd 

Meini Prawf Perfformiad 3
3   dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun:
3.1  deunyddiau, cydrannau, gosodiadau, angorau a chlymau
3.2  offer a chyfarpar
3.3  cyfarpar mynediad

Meini Prawf Perfformiad 4
4  diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
5  cynnal man gwaith clir a thaclus
6  gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5
7  dangos sgiliau mesur, gosod allan, cydosod, trwsio, gosod, sicrhau a symud
8   defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, cyfarpar ategol a chyfarpar mynediad
9   gosod a datgysylltu tyrau sgaffald symudol neu sefydlog yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir, gan ddefnyddio'r naill neu'r llall o'r gwneuthuriadau canlynol o ddeunyddiau a chydrannau:

9.1  tiwbiau a ffitiadau
9.2  sgaffaldiau systemau.

Meini Prawf Perfformiad 6

10  cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff

1  cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau
2  ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol pan mae'n ymwneud â'r canlynol:

2.1  tanau, gollyngiadau ac anafiadau

2.2  argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon
3  y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

*
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
*

4  y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol:

4.1  mesurau diogelu ar y cyd

4.2  system awyru a gwacáu leol

4.3  cyfarpar diogelu personol

4.4  cyfarpar diogelu anadlol

*
Gwybodaeth
*

5  cynlluniau, lluniadau a brasluniau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau a chanllawiau swyddogol sy'n ymwneud â gwaith sgaffaldiau

*
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
*

6 cyfrifoldebau gweithiwr o ran damweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

**

Cynnal a chadw**

7  gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy, cyfarpar ategol a chyfarpar mynediad

*
*

Dulliau gweithio

8  cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i wneud y canlynol:

8.1  cadarnhau'r ardal i osod y tŵr sgaffald

8.2  cadarnhau bod sefydlogrwydd y sylfaen neu'r strwythur y bydd y tŵr sgaffald symudol neu sefydlog yn cael ei osod a'i sicrhau arno wedi cael ei ystyried

8.3  cadarnhau'r deunyddiau a'r cydrannau (tiwbiau a ffitiadau, sgaffald systemau)

8.4  gosod strwythur y sgaffald allan a pharatoi ar ei gyfer

8.5  nodi cymhareb sylfaen ac uchder

8.6  defnyddio mesurau sefydlogi

8.7  gosod clymau a phrofi angorau

8.8  gosod tyrau sgaffald at ddibenion cynnal a mynediad

8.9  gosod a sicrhau'r sgaffald

8.10  datgysylltu a symud tŵr sgaffald

8.11  cynnal archwiliad gweledol o gyfarpar diogelu rhag cwympo

8.12  gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt

8.13  defnyddio offer llaw a chyfarpar ategol

8.14  gweithio ar uchder

8.15  defnyddio cyfarpar mynediad a symud

9  gwaith tîm a chyfathrebu

10  anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod a datgysylltu tyrau sgaffald symudol neu sefydlog

*
Problemau
*

11  y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

11.1  eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

11.2  gweithdrefnau adrodd y sefydliad

**

Rhaglen**

12  mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig

13  gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

*
Diogelu gwaith
*

14  diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau

15  deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o'r canlynol:

15.1  tiwbiau a ffitiadau

15.2  sgaffald systemau

15.3  deunyddiau cysylltiedig (propiau, rhaffau, angorau, clymau, byrddau, platiau, trawstiau, ysgolion, olwynion, cydrannau perchnogol)

15.4  offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar

16  cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion

17  dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd ac arwynebedd sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer gosod a datgysylltu tyrau sgaffald symudol a sefydlog

Gweithdrefnau diogelwch

18  safle, gweithle, cwmni a gweithiwr, cerbydau


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Tach 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR248

Galwedigaethau Perthnasol

Sgaffaldio

Cod SOC

8141

Geiriau Allweddol

Sgaffald; Tyrau; Gosod; Byrddau; Ysgolion; Tiwbiau a ffiriadau; Datgysylltu; Symudol; Sefydlog