Gosod a datgysylltu sgaffaldiau annibynnol a sgaffaldiau cawell
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi, gosod a datgysylltu sgaffaldiau annibynnol a sgaffaldiau cawell, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol Sgaffaldiau a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
*
Meini Prawf Perfformiad 2*
Arferion gwaith diogel
K4 deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut cânt eu cymhwyso
K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K9 sut i gydymffurfio ag arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol
Meini Prawf Perfformiad 3
Dewis adnoddau
K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K12 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K13 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain
*
Meini Prawf Perfformiad 4*
Lleihau'r risg o ddifrod
K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn
Meini Prawf Perfformiad 5
Bodloni gofynion y contract
K16 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K17 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 6
Amser a neilltuwyd
K18 beth yw'r rhaglen ar gyfer cyflawni'r gwaith o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli cynlluniau, lluniadau a brasluniau, datganiadau dull, asesiadau risg, gofynion, amserlenni a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
Meini Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg drwy ddilyn yr wybodaeth a roddir am y canlynol:
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd
Meini Prawf Perfformiad 3
3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun:
3.1 deunyddiau, cydrannau, gosodiadau, angorau a chlymau
3.2 offer a chyfarpar
3.3 cyfarpar mynediad
Meini Prawf Perfformiad 4
4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
5 cynnal man gwaith clir a thaclus
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Meini Prawf Perfformiad 5
7 dangos sgiliau mesur, gosod allan, cydosod, trwsio, gosod, sicrhau a symud
8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar mynediad
9 gosod a datgysylltu sgaffaldiau annibynnol a sgaffaldiau cawell yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir ar gyfer un o'r canlynol:
9.1 tiwbiau a ffitiadau
9.2 sgaffald systemau
10 gosod a datgysylltu gwaith trawstiau pontio, naill ai mewn sgaffald annibynnol neu sgaffald cawell
**
Meini Prawf Perfformiad 6**
11 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Gwybodaeth Cwmpas
Gwaredu gwastraff
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Argyfyngau
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
Peryglon* *
3 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
4 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol
4.1 mesurau diogelu ar y cyd
4.2 system awyru a gwacáu leol
4.3 cyfarpar diogelu personol
4.4 cyfarpar diogelu anadlol
Gwybodaeth
5 cynlluniau, lluniadau a brasluniau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr, rheoliadau a chanllawiau swyddogol sy'n ymwneud â gwaith sgaffaldiau
*
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol*
6 cyfrifoldebau o ran damweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
**
Cynnal a chadw**
7 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy, cyfarpar ategol a chyfarpar mynediad
Dulliau gweithio
8 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i wneud y canlynol:
8.1 cadarnhau'r ardal i osod y sgaffaldau annibynnol a'r sgaffaldau cawell
8.2 cadarnhau bod sefydlogrwydd y sylfaen neu'r strwythur y bydd y sgaffald yn cael ei osod a'i sicrhau arno wedi cael ei ystyried
8.3 nodi'r gwahaniaethau technegol rhwng sgaffaldiau annibynnol a sgaffaldiau cawell
8.4 cadarnhau'r deunyddiau a'r cydrannau (tiwbiau a ffitiadau, sgaffaldiau systemau)
8.5 gosod sgaffaldiau annibynnol a sgaffaldiau cawell a pharatoi ar eu cyfer
8.6 gosod sgaffaldiau a'u sicrhau'n ddiogel
8.7 datgysylltu a symud sgaffaldiau annibynnol a sgaffaldiau cawell
8.8 cynnal archwiliad gweledol o gyfarpar diogelu rhag cwympo
8.9 gosod clymau a phrofi angorau
8.10 gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt
8.11 defnyddio offer llaw a chyfarpar ategol
8.12 gweithio ar uchder
8.13 defnyddio cyfarpar mynediad
9 gwaith tîm a chyfathrebu
10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod a datgysylltu sgaffaldiau annibynnol a sgaffaldiau cawell
**
Problemau**
11 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
**
Rhaglen**
12 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
13 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
**
Diogelu gwaith**
14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
Adnoddau
15 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o'r canlynol:
15.1 tiwbiau a ffitiadau
15.2 sgaffald systemau
15.3 deunyddiau cysylltiedig (propiau, rhaffau, angorau, clymau, byrddau, platiau, trawstiau, ysgolion, cydrannau perchnogol)
15.4 offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol
16 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion
17 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd ac arwynebedd sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer gosod a datgysylltu sgaffaldiau annibynnol a sgaffaldiau cawell
Gweithdrefnau diogelwch
18 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr, cerbydau