Gosod a chywasgu concrit

URN: COSVR225
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Deifio Adeiladu,Dulliau Adeiladu Arloesol/Modern ,Galwedigaethau Gwaith Isadeiledd (Adeiladu),Gwasanaethau Adeiladu a Pheirianneg Sifil (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar a gosod a chywasgu concrit

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gwneud gwaith adeiladu a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach

P3 dewis nifer yr adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

**Meini Prawf Perfformiad 1


Dehongli gwybodaeth
**
K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
**
Meini Prawf Perfformiad 2


Arferion gwaith diogel
**
K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso

K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K9 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol **a chanllawiau swyddogol


Meini Prawf Perfformiad 3


Dewis adnoddau
**
K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw

broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K12 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K13 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 4

Lleihau'r risg o ddifrod

K14 sut i ddiogelu gwaith **rhag difrod a phwrpas diogelu

K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn
*
Meini Prawf Perfformiad 5
*

**Bodloni gofynion y contract

K16 sut i ymgymryd â **dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K17 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar
*
Meini Prawf Perfformiad 6
*

**Amser a neilltuwyd

K18 beth yw'r **rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod

Meini Prawf Perfformiad 1

1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2

2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol

2.1 dulliau gweithio

2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel

2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel

2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel

2.5 risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 3

3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun

3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau

3.2 offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 4

4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod

5 cynnal lle gweithio glân

6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5

7 dangos sgiliau mesur, marcio allan, archwilio, derbyn, trin, cludo, gosod, taenu, lefelu, dirgrynu, cywasgu, profi a diogelu

8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer cludadwy, peiriannau a chyfarpar ategol

9 gosod a chywasgu concrit drwy ddefnyddio o leiaf dri o'r dulliau gosod dilynol yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir

9.1 cafn llithro

9.2 trwnc eliffant

9.3 sgip

9.4 pwmp

9.5 trên un gledren

9.6 â llaw

Meini Prawf Perfformiad 6

10 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff

1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol

2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau

2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon

3 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

4 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol

4.1 mesurau diogelu ar y cyd

4.2 system awyru a gwacáu leol

4.3 cyfarpar diogelu personol

4.4 cyfarpar diogelu anadlol

Gwybodaeth

5 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, cyfarwyddiadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, canllawiau swyddogol a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud ag adeiladau ac yn gysylltiedig â gosod a chywasgu concrit

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Cynnal a chadw

7 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol

Dulliau gweithio

8 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i

8.1 nodi gofynion ansawdd ar gyfer gosod

8.2 bodloni gofynion y cytunwyd arnynt

8.3 cadarnhau cyfanrwydd ffurfwaith a chynheiliaid dros dro

8.4 trin a chludo concrit

8.5 gosod concrit â llaw a thrwy ddefnyddio cafnau llithro, trynciau eliffant, sgipiau, pympiau a threnau un gledren

8.6 asesu ansawdd y concrit yn weledol cyn ac yn ystod y broses o'i arllwys a'i osod

8.7 echdynnu samplau i'w profi

8.8 gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt

8.9 cyfarwyddo ac arwain peiriannau wrth iddynt symud a chael eu gweithredu

8.10 cywasgu a gorffen concrit

8.11 diogelu concrit i'w helpu i galedu

8.12 defnyddio catalyddion a chymhorthion caledu

8.13 nodi gofynion gweithio gyda choncrit sy'n cynnwys ychwanegion i wneud iddo ddal dŵr ac arafyddion

8.14 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol ychwanegol

8.15 nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol

8.16 defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy, peiriannau a chyfarpar

8.17 gweithio ar uchder

8.18 defnyddio cyfarpar mynediad

9 gwaith tîm a chyfathrebu

10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod a chywasgu concrit ar gyfer gwaith isadeiledd

Problemau

11 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

11.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen

12 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig

13 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau

15 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o

15.1 agregau, smentiau, concrit, atgyfnerthiadau, pilenni, cyfryngau rhyddhau, deunyddiau gwrth-chwyddo, mowldiau, ychwanegion ac arafyddion

15.2 offer llaw, offer pŵer cludadwy, cyfarpar, cyfarpar prawf cwympo, sgipiau, cyfarpar cywasgu, proceri dirgrynol, tampwyr, tryweli llyfnu a thryweli

16 nodi niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer gosod a chywasgu concrit ar gyfer gwaith isadeiledd

Gweithdrefnau diogelwch

19 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Construction Skills

URN gwreiddiol

COSVR225

Galwedigaethau Perthnasol

Gwaith Adeiladu

Cod SOC

8149

Geiriau Allweddol

Caledu; Prawf cwympo; Proceri dirgrynol; Tampwyr; Tryweli llyfnu; Tryweli; Agregau; Cafn; Trwnc eliffant; Sgip; Pwmp; Trên un gledren; Cyfarpar cywasgu