Cydgysylltu a chadarnhau gofynion dimensiynol y gwaith
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chydgysylltu gwybodaeth a'i chyfleu i gydweithwyr, dewis, defnyddio a chynnal a chadw cyfarpar mesur a chofnodi, cadarnhau a mesur gofynion rheolaeth ddimensiynol y gwaith a chyflawni rôl oruchwylio mewn meysydd gwaith crefft a gwaith gweithredol sy'n gysylltiedig â gwaith a wneir yn yr amgylchedd adeiledig
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol Goruchwylio Gwaith Galwedigaethol a gall goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 cydgysylltu'r wybodaeth i leoli, llinellu a lefelu'r gwaith sy'n cael ei wneud a chyfleu'r wybodaeth hon i gydweithwyr
P2 cadarnhau a mesur y rheolaethau dimensiynol, y pwyntiau gosod allan, y llinellau a'r proffiliau, yn ogystal â'u cynnal, yn unol â'r gofynion a nodwyd ar gyfer y gwaith
P3 cadarnhau a sicrhau bod cyfarpar mesur a chofnodi'n gweddu goddefiannau a nodwyd
P4 cofnodi ac adrodd am amgylchiadau ac amodau sy'n arwain at wyro oddi wrth y rheolaethau dimensiynol a sicrhau bod gwahaniaethau'n cael eu newid yn unol â gofynion y gwaith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Maen Prawf Perfformiad 1
Gwybodaeth i leoli, llinellu a lefelu
K1 sut i gydgysylltu gwybodaeth a'i chyfleu i gydweithwyr er mwyn eu galluogi i leoli, llinellu a lefelu'r gwaith
Meini Prawf Perfformiad 2
Rheolaeth ddimensiynol
K2 sut i gadarnhau a mesur rheolaethau dimensiynol, pwyntiau gosod allan, llinellau a phroffiliau, yn ogystal â'u cynnal, yn unol â'r gofynion a nodwyd ar gyfer y gwaith
Meini Prawf Perfformiad 3
Cyfarpar mesur a chofnodi
K3 sut i gadarnhau a sicrhau bod cyfarpar mesur a chofnodi'n gweddu goddefiannau a nodwyd
Meini Prawf Perfformiad 4
Gwahaniaethau mewn lleoliad, llinell a lefel
K4 sut i nodi ac adrodd am amgylchiadau ac amodau sy'n arwain at unrhyw wahaniaethau mewn lleoliad, llinell a lefel
K5 sut i adrodd am unrhyw wahaniaethau mewn lleoliad, llinell a lefel, yn ogystal â'u newid, yn unol â gofynion y gwaith
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1
1 cofnodi ac adrodd am y wybodaeth ddimensiynol a roddir i gydweithwyr
Meini Prawf Perfformiad 2
2 cofnodi ac adrodd am y rheolaethau dimensiynol, y pwyntiau gosod allan, y llinellau a'r proffiliau
Meini Prawf Perfformiad 3
3 cofnodi a rhoi gwybod pryd mae cyfarpar mesur a chofnodi wedi'i archwilio
Meini Prawf Perfformiad 4
4 cofnodi ac adrodd am yr amgylchiadau a'r amodau sy'n arwain at wyro oddi wrth y rheolaethau dimensiynol a'r newidiadau sydd eu hangen yn unol â gofynion y gwaith
Gwybodaeth Cwmpas
1 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
1.1 cadw cofnodion sy'n dangos sut mae'r wybodaeth ddimensiynol yn cael ei rhoi i gydweithwyr er mwyn eu galluogi i leoli, llinellu a lefelu'r gwaith yn unol â'r gofynion
1.2 cadw cofnodion sy'n cadarnhau'r rheolaethau dimensiynol, gan gynnwys pwyntiau gosod allan, proffiliau, llinellau, lefelau, onglau, pellteroedd, cromliniau, calibradau a goddefiannau, a'r ffordd y cawsant eu mesur a'u cynnal
1.3 cadw cofnodion sy'n nodi sut mae cyfarpar mesur a chofnodi mecanyddol, optegol neu electronig wedi'i archwilio
1.4 nodi a chofnodi unrhyw wahaniaethau am fod llinellau a lefelau wedi symud ac am fod y llinellau a'r lefelau anghywir wedi'u defnyddio
1.5 nodi a chofnodi unrhyw wyriadau oddi wrth reolaethau dimensiynol
1.6 cymryd camau i newid unrhyw wahaniaethau a chofnodi'r camau hynny
1.7 nodi a chofnodi unrhyw amgylchiadau ac amodau, gan gynnwys tir, dŵr, rhwystrau, amrywiadau hinsoddol, amgylchiadau byw (e.e. adeiladau a safleoedd sy'n cael eu defnyddio, ffyrdd, rheilffyrdd a rhedfeydd), cyfleustodau ac iechyd a diogelwch, sy'n effeithio ar y rheolaethau dimensiynol ac y byddai angen eu hadolygu