Monitro cynnydd mewn perthynas ag amserlenni gwaith
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth i bennu cynnydd y gwaith, adnabod deunyddiau, cydrannau a chyfarpar a ddefnyddiwyd gyda’r gwaith, cymryd camau gweithredu er mwyn i’r gwaith fynd rhagddo a chyflawni rôl oruchwylio mewn meysydd gwaith gweithredol a chrefft fel sy’n gysylltiedig â’r gwaith a wneir yn yr amgylchedd adeiledig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- monitro cynnydd rhaglen a gynlluniwyd mewn perthynas â’r amserlenni gwaith
2. nodi adnoddau penodedig amhriodol, eu cofnodi ac adrodd amdanynt ac awgrymu adnoddau amgen addas
nodi a mesur unrhyw wyriadau sydd wedi digwydd, neu a allai ddigwydd, oddi wrth y cynnydd a fwriadwyd, ac a allai newid y rhaglen
cadarnhau amgylchiadau unrhyw wyriadau, ceisio cyngor a chymryd camau cywiro priodol
5. nodi ac adrodd am opsiynau sy’n debygol o helpu’r contract i fynd rhagddo
6. adrodd am gynnydd, newidiadau i’r rhaglen weithredol ac anghenion adnodd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Maen Prawf Perfformiad 1
Monitro cynnydd *
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Maen Prawf Perfformiad 1
1.1 trafod1.2 arsylwi1.3 cyfrifo1.4 mesur
Maen Prawf Perfformiad 2 *
2. cofnodi ac adrodd am unrhyw adnoddau amhriodol ac annigonol ac awgrymu rhai amgen
Maen Prawf Perfformiad 3
3. cofnodi ac adrodd am wyriadau a nodwyd ac a fesurwyd neu gadarnhau bod y rhaglen yn mynd rhagddo’n unol â’r amserlen
Maen Prawf Perfformiad 4
4. cofnodi, adrodd a chymhwyso unrhyw gamau cywiro a gymerwyd
Maen Prawf Perfformiad 5
5. cofnodi ac adrodd am wybodaeth ac argymhellion sy’n cynnwys opsiynau sy’n debygol o leihau cynnydd cost ac amser
Maen Prawf Perfformiad 6*
6. adrodd a chadarnhau cynnydd a allai gynnwys opsiynau am newidiadau ac anghenion adnodd y dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
1, cymhwyso gwybodaeth ar gyfer sgiliau, gweithdrefnau ac arferion gwaith diogel ac iach, mewn perthynas â’r dull/maes gwaith a’r deunyddiau a ddefnyddir, er mwyn
1.1 monitro ac adrodd am gynnydd mewn perthynas ag amserlenni gwaith drwy drafod, arsylwi, cyfrifo a mesur1.2 nodi, llunio cofnodion ac adrodd am adnoddau annigonol ac amhriodol mewn perthynas â phobl, offer a chyfarpar, deunyddiau, amser a gwybodaeth ategol
1.3 adrodd i’r cwsmer a/neu gynrychiolwyr, contractwyr, cyflenwyr a rheolwyr llinell er mwyn esbonio’n fanwl pam mae’r adnoddau’n anaddas, awgrymu rhai amgen a nodi sut byddent yn well ar gyfer y gwaith
1.4 llunio cofnodion ac adrodd am achosion o unrhyw wyriadau a nodwyd ac a fesurwyd mewn perthynas â diffygion adnodd, problemau a rhwystrau dylunio, diffyg gwybodaeth adeiladu hanfodol, gwallau adeiladu, tywydd garw a rhwystrau ffisegol (gweithle) a allai effeithio ar y rhaglen waith o ran rhestri camau gweithredu, datganiadau dull a chostau gwaith1.5 cadarnhau amgylchiadau’r gwyriad ac egluro’r broses o gymryd y cam cywiro o ran adfer y cynnydd yn unol â’r rhaglen y cytunwyd arni, gan newid y gwaith a gynlluniwyd, cytuno ar ddyddiadau cwblhau newydd a sicrhau adnoddau ychwanegol1.6 cofnodi ac adrodd i’r cwsmer a/neu gynrychiolwyr, contractwyr, cyflenwyr a rheolwyr llinell ynghylch cynnydd y prosiect
1.7 trafod yr argymhellion ac unrhyw newidiadau posibl i’r rhaglen weithredu gan gynnwys adnoddau ychwanegol gyda’r cwsmer a/neu gynrychiolwyr, contractwyr, cyflenwyr a rheolwyr llinell1.8 adrodd i’r cwsmer a/neu gynrychiolwyr, contractwyr, cyflenwyr a rheolwyr llinell ynghylch cynnydd y prosiect gan gynnwys argymhellion am newidiadau ac anghenion adnodd mewn perthynas â phobl, offer a chyfarpar, deunyddiau, amser a gwybodaeth atebol gan gynnwys y rheini a allai gyflymu cynnydd y contract