Cydgysylltu a threfnu gwaith
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth am y prosiect a'r gwaith sydd i'w wneud, mabwysiadu arferion gwaith diogel ac iach, dewis deunyddiau, cydrannau a chyfarpar ar gyfer y gwaith, paratoi, cydgysylltu a threfnu'r gwaith a chyflawni rôl oruchwylio mewn meysydd gwaith crefft a gwaith gweithredol sy'n gysylltiedig â gwaith a wneir yn yr amgylchedd adeiledig
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol Goruchwylio Gwaith Galwedigaethol a gall goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 rhoi gwybodaeth, fel yr awdurdodwyd ac yn ôl yr angen, i bawb y bydd y gwaith yn effeithio arnynt
P2 cytuno ar amserlen arfaethedig a dulliau gweithio gyda'r gweithlu
P3 cyfathrebu a threfnu'r gwaith yn ôl yr angen ar gyfer y prosiect
P4 nodi pryd mae'r broses gyfathrebu'n methu a chymryd camau i ailsefydlu proses gyfathrebu effeithiol
P5 cyfathrebu â gweithrediadau eraill a threfnu'r gwaith sy'n cael ei wneud gyda nhw fel sy'n ofynnol gan y rhaglen waith y cytunwyd arni ac yn unol â'r awdurdodiad y penderfynwyd arno ymlaen llaw
P6 trefnu adnoddau o'r math priodol a fydd yn bodloni gofynion ac amserlen y prosiect a sicrhau bod digon ohonynt ar gael
P7 trefnu a rheoli'r gwaith a'r adnoddau er mwyn sicrhau bod amodau gwaith yn ddiogel a bod y gweithle'n daclus
P8 nodi a chofnodi unrhyw amgylchiadau heb eu cynllunio a rhoi'r wybodaeth hon i'r bobl y gallant effeithio arnynt
P9 trefnu'r man gweithio dynodedig at ddibenion gweithredol a rhoi gwybodaeth amdano i'r gweithle
P10 trefnu sut mae deunyddiau a chydrannau'n cael eu storio a'u defnyddio er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu trin a'u symud yn ddiogel ac yn effeithlon a bod cyn lleied o wastraff â phosibl
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1
Rhoi gwybod am y gwaith sydd i'w wneud
K1 sut i roi gwybodaeth, fel yr awdurdodwyd, i bawb y bydd y gwaith yn effeithio arnynt, gan gynnwys gwybodaeth am gwmpas y gwaith, pryd y bydd yn dechrau, faint o amser y bydd yn ei gymryd a phryd y bydd yn gorffen
Meini Prawf Perfformiad 2
Rhaglen waith a dulliau gweithio
K2 sut i gytuno ar amserlen arfaethedig a dulliau gweithio gyda'r gweithlu
Meini Prawf Perfformiad 3
Anghenion trefnu a chyfathrebu
K3 sut i nodi anghenion trefnu a chyfathrebu ar gyfer y prosiect
Meini Prawf Perfformiad 4
Methiant y broses gyfathrebu
K4 sut i nodi pryd mae'r broses gyfathrebu'n methu
K5 sut i gymryd camau i ailsefydlu proses gyfathrebu effeithiol
Meini Prawf Perfformiad 5
Trefnu a chydgysylltu'r gwaith
K6 sut i gyfathrebu â gweithgareddau gwaith/gweithrediadau eraill, yn ogystal â threfnu a chydgysylltu'r rhaglen waith y cytunwyd arni gyda nhw, yn unol â'r awdurdodiad y penderfynwyd arno ymlaen llaw
Meini Prawf Perfformiad 6
Cael adnoddau a chynllunio ar eu cyfer
K7 sut i drefnu adnoddau a sicrhau bod digon ohonynt ar gael
K8 sut i ddyrannu adnoddau
Meini Prawf Perfformiad 7
Trefnu'r gwaith
K9 sut i reoli'r gwaith a'r adnoddau er mwyn sicrhau bod amodau gwaith yn ddiogel a bod y gweithle'n cael ei gadw'n daclus yn unol â gofynion y sefydliad
Meini Prawf Perfformiad 8
Amgylchiadau heb eu cynllunio
K10 sut i nodi amgylchiadau heb eu cynllunio
K11 sut i gofnodi unrhyw amgylchiadau heb eu cynllunio a rhoi'r wybodaeth hon i'r bobl y byddant yn effeithio arnynt
Meini Prawf Perfformiad 9
Man gweithio dynodedig at ddibenion gweithredol
K12 sut i roi gwybodaeth am y man gweithio dynodedig i'r gweithle
K13 sut i drefnu'r man gweithio dynodedig at ddibenion gweithredol
Meini Prawf Perfformiad 10
Storio a defnyddio deunyddiau
K14 sut i drefnu bod deunyddiau a chyfarpar yn cael eu storio a'u defnyddio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1
1 rhoi gwybodaeth, fel yr awdurdodwyd, er mwyn gwneud y gwaith
1.1 cwmpas y gwaith
1.2 pryd y bydd yn dechrau
1.3 faint o amser y bydd yn ei gymryd
1.4 pryd y bydd yn gorffen
1.5 unrhyw beryglon cysylltiedig
Meini Prawf Perfformiad 2
2 cytuno ar raglenni gwaith a dulliau gweithio gyda'r gweithlu
Meini Prawf Perfformiad 3
3 cofnodi ac adrodd am brosesau trefnu a chyfathrebu'r prosiect
Meini Prawf Perfformiad 4
4 cofnodi a rhoi gwybod pryd mae'r broses gyfathrebu wedi methu a pha gamau a gymerwyd i ddatrys hyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
Meini Prawf Perfformiad 5
5 trefnu a chydgysylltu'r gwaith gyda galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â'r gwaith yn unol â'r awdurdodiad y penderfynwyd arno ymlaen llaw
Meini Prawf Perfformiad 6
6 sicrhau bod adnoddau'n cael eu trefnu a'u dyrannu
Meini Prawf Perfformiad 7
7 rheoli'r man gweithio dynodedig, gan gynnwys yr adnoddau, taclusrwydd y safle a'r ffordd y mae gwastraff yn cael ei waredu, yn unol â gofynion rheoleiddio, gofynion y sefydliad a'r awdurdodiad y penderfynwyd arno ymlaen llaw
Meini Prawf Perfformiad 8
8 nodi, cofnodi ac adrodd am unrhyw amgylchiadau heb eu cynllunio mewn perthynas ag o leiaf bump o'r dilynol
8.1 meddianwyr
8.2 yr amgylchedd
8.3 mynediad i gerbydau
8.4 peryglon
8.5 tresmaswyr
8.6 cymdogion agos
8.7 mynediad i'r cyhoedd
8.8 amodau gwaith
8.9 iechyd, diogelwch a lles
8.10 rheoliadau statudol a'u cyfyngiadau
8.11 codau ymarfer
Meini Prawf Perfformiad 9
9 rheoli/goruchwylio o leiaf bump o'r dilynol yn y man gweithio dynodedig at ddibenion gweithredol
9.1 dulliau storio diogel
9.2 gwaith dros dro
9.3 ystyriaethau amgylcheddol
9.4 peiriannau a/neu gyfarpar
9.5 gwasanaethau dros dro
9.6 mynedfeydd ac allanfeydd
9.7 diogelwch
9.8 defnydd parhaus meddianwyr
9.9 cyfleusterau lles
Meini Prawf Perfformiad 10
10 trefnu bod deunyddiau a chyfarpar yn cael eu storio'n ddiogel a'u defnyddio'n effeithlon er mwyn lleihau faint sy'n cael ei drin, ei symud a'i wastraffu
Gwybodaeth Cwmpas
1 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
1.1 deall eich awdurdod eich hun a rhoi gwybodaeth am gwmpas y gwaith a'r amserlen ar gyfer gwneud y gwaith i'r bobl y mae'r gwaith yn effeithio arnynt, gan gynnwys trydydd partïon a rhanddeiliaid
1.2 esbonio sut y cytunwyd ar y rhaglenni gwaith, y dulliau gweithio ac asesiadau risg dynamig gyda'r gweithlu'n unol â'r datganiad dull
1.3 monitro dulliau ar gyfer cyfleu, cofnodi, adalw ac adrodd am wybodaeth am y prosiect er mwyn sicrhau eu bod yn aros yn effeithiol
1.4 nodi a chofnodi pryd mae'r broses gyfathrebu'n methu
1.5 cymryd camau a chofnodi unrhyw gamau a gymerwyd i ddatrys problemau cyfathrebu'n effeithiol yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
1.6 rhoi gwybodaeth am y dulliau gweithio a'r ffordd y cafodd y gwaith ei drefnu a'i gydgysylltu gyda galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â'r gwaith yn unol â'r awdurdodiad y penderfynwyd arno ymlaen llaw
1.7 cadw cofnodion sy'n dangos y dulliau a ddefnyddiwyd i gynllunio a threfnu adnoddau megis y gweithlu, offer, peiriannau, cyfarpar ategol, deunyddiau a gwybodaeth
1.8 esbonio sut y cafodd y man gweithio dynodedig a'r adnoddau eu trefnu mewn ffordd ddiogel a thaclus yn unol â gofynion y sefydliad
1.9 esbonio'r dulliau a ddefnyddiwyd i nodi ac adrodd am amgylchiadau heb eu cynllunio mewn perthynas â meddianwyr, yr amgylchedd, mynediad i gerbydau, peryglon, tresmaswyr, cymdogion, mynediad i'r cyhoedd, amodau gwaith, lladrata, iechyd, diogelwch a lles, rheoliadau statudol a'u cyfyngiadau a chodau ymarfer
1.10 esbonio'r dulliau a ddefnyddiwyd i reoli'r man gweithio dynodedig ac adrodd am wybodaeth am ddulliau storio diogel, gwaith dros dro, ystyriaethau amgylcheddol, peiriannau, cyfarpar, gwasanaethau dros dro, mynedfeydd ac allanfeydd, diogelwch, defnydd parhaus meddianwyr a chyfleusterau lles
1.11 esbonio'r dulliau a ddefnyddiwyd i drefnu bod deunyddiau a chydrannau'n cael eu storio a'u defnyddio'n ddiogel