Gweithredu a chynnal arferion iach, diogel, llesol ac amgylcheddol

URN: COSVR212
Sectorau Busnes (Suites): Goruchwyliaeth Gwaith Galwedigaethol (Adeiladu),Goruchwylio Gweithrediadau Llogi a Rhentu (Cyfarpar, Peiriannau a Chelfi)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 01 Ion 2018

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion iach, diogel, llesol ac amgylcheddol, hyrwyddo ac annog diwylliant iach, diogel, llesol ac amgylcheddol, gweithredu a monitro arferion iach, diogel, llesol ac amgylcheddol yn yr amgylchedd gwaith gweithredol a goruchwylio gwaith llaw a gweithredol sy’n cael ei wneud yn yr amgylchedd adeiledig


Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol goruchwylio gwaith galwedigaethol a gall goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1   dyrannu a chynnal a chadw adnoddau a chyfarpar sy’n ymwneud ag iechyd, diogelwch, lles a’r amgylchedd ac sy’n bodloni gofynion y prosiect a gofynion statudol

P2   annog diwylliant cadarnhaol o arferion iach, diogel, llesol ac amgylcheddol a nodi cyfleoedd ar gyfer gwella iechyd a diogelwch yn yr amgylchedd gwaith drwy ymgysylltu â’r gweithlu
 
P3   sicrhau bod aelodau’ch tîm yn cael hyfforddiant cynefino a’u bod yn gymwys ac yn cael eu monitro yn y gweithle
 

P4   monitro ac adolygu arferion iach, diogel, llesol ac amgylcheddol a systemau gwaith diogel yn unol â gofynion statudol a sefydliadol cyfredol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1

Arferion iach, diogel, llesol ac amgylcheddol

K1    sut i ddyrannu adnoddau a chyfarpar sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch, lles a'r amgylchedd

*
*

Meini Prawf Perfformiad 2

Gwella arferion iach, diogel, llesol ac amgylcheddol

K2    sut i nodi'r cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer gwella iechyd a diogelwch yn yr amgylchedd gwaith

K3    sut i annog diwylliant cadarnhaol o arferion iach, diogel, llesol ac amgylcheddol yn y gweithle

K4    sut i argymell cyfleoedd ar gyfer gwella iechyd a diogelwch yn yr amgylchedd gwaith

K5    sut i roi briffiau gwaith sy'n ceisio ac yn annog adborth

*
*

Meini Prawf Perfformiad 3

Cyflwyno arferion iach, diogel, llesol ac amgylcheddol

K6    sut i gynefino pobl a chadarnhau awdurdodiad a chymhwysedd sy'n benodol i ofynion y gwaith

K7    sut i gyfleu a rhoi gwybod am broblemau sy'n ymwneud â pherfformiad

*
*

Meini Prawf Perfformiad 4

Monitro arferion iach, diogel, llesol ac amgylcheddol

K8    sut i wirio arferion iach, diogel, llesol ac amgylcheddol yn rheolaidd yn unol â gofynion statudol a sefydliadol cyfredol a chofnodi unrhyw enghreifftiau ac amodau arbennig yn y gweithle nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheoliadau

K9    sut i nodi enghreifftiau ac amodau arbennig yn y gweithle nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheoliadau

K10   sut i adolygu systemau gwaith diogel

K11    sut i sicrhau systemau gwaith diogel
K12    sut i gadarnhau bod gan bobl yr awdurdod i fod ar y safle
K13    sut i ddelio â phobl heb awdurdod


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1

1    gwneud trefniadau i sicrhau arferion iach, diogel, llesol ac amgylcheddol sy'n cynnwys pennu cyfrifoldebau, edrych ar hysbysiadau statudol a rhybuddion, yn ogystal â'u cynnal, a dyrannu adnoddau a chyfarpar sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch, lles a'r amgylchedd

*
*

Meini Prawf Perfformiad 2

2    hyrwyddo ac annog diwylliant cadarnhaol o arferion iach, diogel, llesol ac amgylcheddol yn yr amgylchedd gwaith gweithredol drwy wneud y canlynol

2.1    rhoi briffiau gwaith

2.2    ceisio ac annog adborth

2.3    arwain drwy esiampl

2.4    ceisio cyngor digonol

2.5    rhoi gwybod am ddamweiniau a digwyddiadau gan gynnwys sefyllfaoedd lle bu damwain bron â digwydd

*
*

Meini Prawf Perfformiad 3

3    cofnodi'r hyfforddiant cynefino a'r diweddariadau (ar ffurf briffiau a chyflwyniadau ac ati) ar iechyd a diogelwch a roddwyd i'ch tîm

4   cyfleu a rhoi gwybod i reolwyr am broblemau sy'n ymwneud â pherfformiad

*
*

Meini Prawf Perfformiad 4

5    monitro, arsylwi a chofnodi sut mae arferion iach, diogel, llesol ac amgylcheddol yn cael eu gweithredu a'u cynnal

6   adolygu systemau gwaith diogel i nodi a chael gwared ar beryglon neu leihau risgiau'n unol â'r ddeddfwriaeth a gofynion sefydliadol cyfredol, gan gynnwys rhoi gwybod am y canlyniadau

7   sicrhau cydymffurfiaeth â systemau gwaith diogel yn unol â'r ddeddfwriaeth a gofynion sefydliadol cyfredol

8    gweithredu a chofnodi a rhoi gwybod am newidiadau mewn amgylchiadau


Gwybodaeth Cwmpas

1 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a
ddefnyddir i


1.1 dyrannu adnoddau a chyfarpar sy’n ymwneud ag iechyd, diogelwch, lles a’r amgylchedd gan gynnwys dillad diogelu, cyfarpar diogelu, cyfleusterau cymorth cyntaf, cyfleusterau lles, mannau i storio a sicrhau deunyddiau a chyfarpar, cyfarpar ymladd tân, hysbysiadau statudol, rhybuddion ac arwyddion diogelwch

1.2 annog diwylliant cadarnhaol o arferion iach, diogel, llesol ac amgylcheddol drwy gyfathrebu yn ystod briffiau gwaith, ceisio ac annog adborth, ceisio cyngor digonol ac arwain drwy esiampl

1.3 gwella iechyd a diogelwch yn yr amgylchedd gwaith drwy nodi gofynion ar gyfer hyfforddiant iechyd, diogelwch, lles a’r amgylchedd, rhoi gwybod am ddamweiniau a digwyddiadau gan gynnwys sefyllfaoedd lle bu damwain bron â digwydd, monitro a rhoi gwybod am broblemau sy’n ymwneud â pherfformiad, cadarnhau awdurdodiad y gweithlu, cyflenwyr, ymwelwyr, preswylwyr a’r cyhoedd a delio â thresmaswyr

1.4 rhoi hyfforddiant cynefino’n unol â gweithdrefnau a pholisïau sefydliadol ar iechyd, diogelwch, lles a’r amgylchedd sy’n rhoi sylw i gyfrifoldebau am iechyd a diogelwch, asesiadau risg, datganiadau dull, gweithrediadau, adnoddau a chyfarpar sy’n ymwneud ag iechyd, diogelwch, lles a’r amgylchedd a threfniadau cymorth cyntaf

1.5 monitro, arsylwi a chofnodi arferion iach, diogel, llesol ac amgylcheddol yn unol â gweithdrefnau a pholisïau sefydliadol cyfredol, y ddeddfwriaeth gyffredinol a chyfredol ar iechyd, diogelwch, lles a’r amgylchedd, Codau Ymarfer cymeradwy, hysbysiadau statudol, rhybuddion ac arwyddion diogelwch a sicrhau cydymffurfiaeth â systemau gwaith diogel

1.6 adolygu systemau gwaith diogel drwy edrych ar brosesau gwaith yn systematig i nodi a chael gwared ar beryglon neu leihau risgiau’n unol â’r ddeddfwriaeth a gofynion sefydliadol cyfredol, gan gynnwys rhoi gwybod am y canlyniadau


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

VR212

Galwedigaethau Perthnasol

Goruchwylio Crefftau Adeiladu

Cod SOC

5330

Geiriau Allweddol

Cyfleusterau lles; Cymorth cyntaf; Risgiau; Sicrhau; Hyfforddiant cynefino; Systemau gwaith diogel; Codau Ymarfer; Hysbysiadau statudol