Cadarnhau'r dull gweithio galwedigaethol
URN: COSVR211
Sectorau Busnes (Suites): Galwedigaethau Trywel (Adeiladu),Plastro (Adeiladu),Ffurfwaith (Adeiladu),Sgiliau Treftadaeth (Adeiladu),Systemau Mewnol (Adeiladu),Galwedigaethau Toi (Adeiladu),Gwaith Saer Maen (Adeiladu),Teilsio Waliau a Lloriau (Adeiladu),Galwedigaethau Coed (Adeiladu),Goruchwylio Gwaith Galwedigaethol (Adeiladu),Gweithrediadau Cynnal a Chadw Adeiladau (Aml-grefft),Gweithrediadau Cyrraedd a Rigio (Adeiladu),Galwedigaethau Cladio (Adeiladu),Galwedigaethau Gorffen Addurniadol a Phaentio Diwydiannol (Adeiladu),Galwedigaethau Gorchuddion Lloriau (Adeiladu),Asffalt Mastig (Adeiladu),Galwedigaethau Gosod Arbenigol (Adeiladu),Galwedigaethau Gwaith Isadeiledd (Adeiladu),Saernïo Coed â Pheiriannau (Adeiladu/Allwthiadau Melin Lifio/Dodrefn),Gwaredu Gwastraff Peryglus a Gwastraff nad yw’n Beryglus (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2011
Trosolwg
Mae'r safon hon, yng nghyd-destun eich galwedigaeth a'ch amgylchedd gwaith, yn ymwneud â
- asesu data'r prosiect i bennu dulliau gweithio galwedigaethol
- mabwysiadu arferion gwaith diogel ac iach
- dethol y dulliau gweithio
- cadarnhau'r dulliau gweithio i'r bobl berthnasol sy'n gysylltiedig â'r alwedigaeth
- dod o hyd i wybodaeth ychwanegol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 asesu data'r prosiect sydd ar gael yn gywir er mwyn pennu'r dull gweithio galwedigaethol
P2 cael gwybodaeth ychwanegol o ffynonellau eraill mewn achosion lle nad yw data'r prosiect sydd ar gael yn ddigonol
P3 nodi dulliau gweithio a fydd yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau ac yn bodloni gofynion y prosiect, gofynion statudol a gofynion contractiol
P4 cadarnhau a chyfleu'r dull gweithio a ddetholwyd i bersonél perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**Meini Prawf Perfformiad 1** **Asesu data'r prosiect** K1 sut i grynhoi **data'r prosiect** K2 sut i asesu **data'r prosiect** sydd ar gael a dehongli'r **dull gweithio** |
**Meini Prawf Perfformiad 2** **Ffynonellau gwybodaeth ar gyfer data'r prosiect** K3 sut i gael gwybodaeth ychwanegol o **ffynonellau eraill** pan nad yw **data'r prosiect** sydd ar gael yn ddigonol |
**Meini Prawf Perfformiad 3** **Nodi dulliau gweithio** K4 sut i nodi **dulliau gweithio** yn ôl y **meini prawf** **technegol** a **meini prawf y prosiect** i wneud y defnydd gorau o adnoddau a bodloni gofynion y prosiect, gofynion statudol a gofynion contractiol K5 sut y gall dulliau gweithio sicrhau canlyniadau di-garbon neu garbon isel |
**Meini Prawf Perfformiad 4** **Cyfleu'r dull gweithio** K6 sut i gadarnhau a chyfleu'r **dull gweithio** i bobl berthnasol K7 sut i gymhwyso egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth gyfathrebu |
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
**Meini Prawf Perfformiad 1** 1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, gwybodaeth y gweithgynhyrchydd, y dull gweithio, asesiadau risg a'r rhaglen waith |
**Meini Prawf Perfformiad 2** 2 nodiadau amlinellol o wybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill am y gwaith sydd i'w wneud |
**Meini Prawf Perfformiad 3** 3 cofnod(ion) o ddulliau gweithio posibl i wneud y gweithgaredd gwaith galwedigaethol a bodloni gofynion iechyd a diogelwch sy'n ymwneud â'r meini prawf technegol a/neu feini prawf y prosiect |
**Meini Prawf Perfformiad 4** 4 nodiadau amlinellol i gadarnhau a chyfleu'r dull gweithio galwedigaethol a ddetholwyd |
Gwybodaeth Cwmpas
**Ffynonellau eraill** 1 y cwsmer(iaid) neu gynrychiolydd y cwsmer(iaid) 2 cyflenwyr 3 awdurdodau rheoleiddio 4 llenyddiaeth y gweithgynhyrchydd |
**Cyfathrebu** 5 gwrando, ysgrifenedig, ar lafar, gweledol ac electronig 6 dangos ystyriaeth o anghenion unigolion trwy gymhwyso egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth |
**Meini prawf y prosiect** 7 cydymffurfio â gofynion statudol 8 anghenion cwsmeriaid a defnyddwyr 9 gofynion contractiol o ran amser, nifer ac ansawdd 10 ystyriaethau amgylcheddol |
**Data'r prosiect** 11 niferoedd sy'n ofynnol 12 gofynion 13 lluniadau manwl 14 gofynion iechyd a diogelwch 15 amserlenni 16 cwmpas y gwaith |
**Meini prawf technegol** 17 deunyddiau 18 iechyd, diogelwch a lles (egwyddorion diogelu) 19 diogelwch tân 20 mynedfeydd ac allanfeydd 21 argaeledd cyfarpar 22 argaeledd gweithlu cymwys 23 perygl llygru 24 gwastraff a'r broses o'i waredu 25 canlyniadau di-garbon a charbon isel 26 tywydd |
**Dull gweithio** 27 gweithdrefnau gwaith safonol 28 trefn y gwaith 29 trefnu adnoddau (pobl, cyfarpar, deunyddiau) 30 technegau gweithio 31 amodau gwaith (iechyd, diogelwch a lles) 32 asesiadau risg |
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2016
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
CITB
URN gwreiddiol
COSVR211
Galwedigaethau Perthnasol
Crefftau Adeiladu, Goruchwylwyr y Crefftau Adeiladu
Cod SOC
5319
Geiriau Allweddol
Cyfathrebu; Rheoliadau; Asesiadau risg; Rhaglen; Di-garbon/carbon isel