Datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith da
Trosolwg
Mae'r safon hon, yng nghyd-destun eich galwedigaeth a'ch amgylchedd gwaith, yn ymwneud â
1 dehongli gwybodaeth
2 mabwysiadu arferion gwaith diogel ac iach
3 gweithio gyda phobl, eu hysbysu a'u cefnogi
4 datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith galwedigaethol da
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 datblygu, cynnal ac annog perthnasoedd gwaith i hyrwyddo ewyllys da ac ymddiriedaeth
P2 rhoi gwybodaeth briodol i bobl berthnasol am weithgareddau gwaith a gwneud hynny o fewn amser priodol
P3 cynnig cyngor a chymorth i bobl berthnasol ar weithgareddau gwaith ac annog cwestiynau, ceisiadau am eglurhad a sylwadau
P4 trafod y cynigion ac awgrymiadau eraill gyda'r bobl berthnasol
P5 datrys gwahaniaethau barn mewn ffyrdd sy'n lleihau tramgwydd ac yn cynnal ewyllys da, ymddiriedaeth a pharch
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1
Perthnasoedd gwaith
K1 sut i gynnal perthnasoedd gwaith gyda phobl berthnasol ac annog perthnasoedd o'r fath i hyrwyddo ewyllys da ac ymddiriedaeth
K2 sut i ddatblygu perthnasoedd gwaith i hyrwyddo ewyllys da ac ymddiriedaeth
K3 sut i gymhwyso egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth
*
Meini Prawf Perfformiad* 2
Hysbysu pobl
K4 sut i roi gwybodaeth briodol i bobl berthnasol am weithgareddau gwaith a gwneud hynny o fewn amser priodol
Meini Prawf Perfformiad 3
Cynnig cyngor
K5 sut i annog cwestiynau, ceisiadau am eglurhad a sylwadau
K6 sut i gynnig cyngor i bobl ar weithgareddau gwaith a'u helpu
*
Meini Prawf Perfformiad 4*
Ymdrin â chynigion eraill
K7 sut i drafod cynigion eraill gyda'r bobl berthnasol
K8 sut i awgrymu cynigion eraill
*
Meini Prawf Perfformiad 5*
Datrys gwrthdaro
K9 sut i ddatrys gwahaniaethau barn mewn ffyrdd sy'n lleihau tramgwydd ac yn cynnal ewyllys da, ymddiriedaeth a pharch
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1
1 cofnod(ion) o wybodaeth am gyngor a roddwyd ar weithgareddau gwaith galwedigaethol a/neu alwedigaethau cysylltiedig
2 cymhwyso egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth
*
Meini Prawf Perfformiad 2*
3 cofnod(ion) o wybodaeth am wneud y gweithgareddau gwaith a'r cyngor a roddwyd ar ei wneud
3.1 amserlenni priodol
3.2 gofynion iechyd a diogelwch
3.3 cydgysylltu gweithdrefnau gwaith
*
Meini Prawf Perfformiad 3*
4 cofnod(ion) o wybodaeth am ddulliau gweithgareddau gwaith galwedigaethol i sicrhau'r canlyniad gofynnol a'r cyngor a roddwyd arnynt
*
Meini Prawf Perfformiad 4*
5 nodiadau amlinellol o drafodaethau sy'n ymwneud â'r gweithgaredd gwaith galwedigaethol a/neu alwedigaethau eraill sydd dan sylw
*
Meini Prawf Perfformiad 5*
6 nodiadau amlinellol o weithgareddau y cytunwyd arnynt sy'n bodloni'r rhai sydd dan sylw er mwyn sicrhau canlyniad gofynnol y dull gweithio arfaethedig
Gwybodaeth Cwmpas
Cydraddoldeb ac amrywiaeth
1 dangos ystyriaeth o anghenion unigolion trwy gymhwyso egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth
*
Ewyllys da ac ymddiriedaeth*
2 cadw addewidion ac ymrwymiadau
3 perthnasoedd gonest
4 perthnasoedd adeiladol 5 cydweithredu a thrafod
*
Hysbysu/Cynnig cyngor*
6 ar lafar
7 yn ysgrifenedig
8 defnyddio lluniadau/brasluniau
*
Pobl*
9 cydweithwyr
10 cyflogwyr
11 cwsmeriaid
12 contractwyr
13 cyflenwyr cynhyrchion a gwasanaethau
14 y rhai hynny y mae'r gwaith/prosiect yn effeithio arnynt
*
Gweithgareddau gwaith*
15 cynnydd
16 canlyniadau
17 cyflawniadau
18 problemau galwedigaethol
19 cyfleoedd galwedigaethol
20 gofynion iechyd a diogelwch
21 gwaith cydgysylltiedig
*
Perthnasoedd gwaith*
22 ffurfiol
23 anffurfiol