Gosod systemau cladin waliau sgrin
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar a pharatoi a gosod systemau cladin waliau sgrin law
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gosod systemau cladin waliau sgrin law, sy’n gweithio ym maes galwedigaethol galwedigaethau cladin, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod ar gyfer y gwaith a'r ardal o’i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 2 * * Dewis adnoddau K11 sut dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw Meini Prawf Perfformiad 4 Meini Prawf Perfformiad 5 Bodloni gofynion y contract Amser a neilltuwyd*
Meini Prawf Perfformiad 1*
*
Dehongli gwybodaeth**
K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â’u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i’w dehongli
* *
Arferion gwaith diogel
K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i’w chymhwyso
K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K9 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol
Meini Prawf Perfformiad 3
K10 beth yw nodweddion, ansawdd, deunyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K12 beth yw gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i’w defnyddio
K13 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r *dulliau gweithio *a sut i ddelio â’r rhain
* *
Lleihau'r risg o ddifrod
K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn
K15 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni’r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K16 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 6
K17 beth yw'r rhaglen* i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser
Cwmpas/ystod
Meini Prawf Perfformiad 1**
1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
Meini Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd
Meini Prawf Perfformiad 3
3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau arbenigol ar gyfer deunyddiau cydnaws
3.2 offer a chyfarpar
3.3 cyfarpar mynediad
Meini Prawf Perfformiad 4
4 diogelu'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas rhag difrod
5 atal difrod a chynnal lle gweithio glân
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Meini Prawf Perfformiad 5
7 dangos sgiliau mesur, marcio allan, gosod, addasu, alinio, ffitio, lleoli a sicrhau
8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer cludadwy, offerynnau lefelu a chyfarpar ategol
9 gosod cladin waliau sgrin law yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithio a roddir
Meini Prawf Perfformiad 6
10 cwblhau’ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu’r cleient
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau’r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Argyfyngau
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
2.1 tanau, gollyngiadau, anafiadau, cwympiadau a gweithdrefnau achub
2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
Peryglon
3 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
4 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a’r amgylchedd gwaith cyffredinol
4.1 mesurau diogelu ar y cyd
4.2 cyfarpar diogelu personol (PPE)
4.3 cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
Gwybodaeth
5 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud ag adeiladau a chanllawiau swyddogol sy’n gysylltiedig â gosod systemau cladin waliau sgrin law
6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario, defnyddio cyfarpar codi mecanyddol a defnyddio cyfarpar mynediad mecanyddol
Cynnal a chadw
7 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol
8 sut a phryd y dylid gwneud gwaith cynnal a chadw
Dulliau gweithio
* *
9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
9.1 nodi gofynion ansawdd ar gyfer gosod
9.2 bodloni gofynion y cytunwyd arnynt
9.3 cadarnhau meini prawf gosod y gwneuthurwyr
9.4 sicrhau bod y calibrad ar gyfer offer lefelu yn gyfredol
9.5 asesu addasrwydd deunyddiau cefndir
9.6 nodi a gweithio’n unol â llinellau grid a marciau datwm
9.7 nodi mathau a nodweddion deunyddiau cladin cyfredol ar gyfer sgrin law, gan gynnwys metel, clai, ceramig a laminiad
9.8 ffurfio onglau mewnol ac allanol
9.9 ffurfio ciliau ar gyfer agoriadau
9.10 gosod systemau cladin waliau sgrin law
9.11 lleoli a gosod bachau paneli, dripiau, stribedi gorchuddio, gosodiadau a ffitiadau
9.12 cynnal cyfanrwydd arwynebau
9.13 ffitio cydrannau o gwmpas allwthiadau a threiddiadau
9.14 lleoli a sicrhau seliau plwm a fentiau
9.15 sicrhau ansawdd ac addasrwydd y gwaith ar ôl ei gwblhau ac ar ddiwedd pob cyfnod gweithio
9.16 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol ychwanegol
9.17 gweithio o blatfformau gweithio symudol sy’n codi
9.18 gweithio gyda pheiriannau, o’u cwmpas ac yn agos iawn atynt
9.19 defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
9.20 gweithio ar uchder
9.21 defnyddio cyfarpar mynediad
10 gwaith tîm a chyfathrebu
11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod systemau cladin waliau sgrin law
Problemau
12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
Rhaglen*
13 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
14 gweithdrefnau’r sefydliad i adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
Diogelu gwaith*
*
15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
Adnoddau*
16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o
16.1 gosodiadau, caewyr, seliau plwm, ffitiadau, bachau paneli, dripiau, stribedi gorchuddio, stopwyr a systemau gwahanu
16.2 inswleiddiad, rhwystrau tân, rheoli anwedd, gwahanu a philenni anadlu
16.3 paent preimio, deunyddiau glanhau, tapiau selio, deunydd selio a llenwadau
16.4 gorchuddion metel a thryleu, systemau adeiledig, sêm sefyll, gosodiadau cudd, paneli cyfansawdd, paneli decin a phaneli sgrin law a systemau sment ffibr
16.5 cafnau dŵr ac ati
16.6 offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
17 nodi niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a’r weithdrefn ar gyfer gosod systemau cladin waliau sgrin law
Gweithdrefnau diogelwch**
18 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gorchuddion a chladin ar doeau a waliau - pilen gwrth-ddŵr (aml-haen) dros strwythur.
Un bilen ‒ un haen, naill ai o ddalennau dur sinwsoidaidd (rhychiog), alwminiwm, polyfinyl clorid (PVC), plastig a atgyfnerthwyd â gwydr, polycarbonad neu orchudd sment ffibr proffil sy'n cael ei osod yn uniongyrchol ar doeau neu waliau heb ddeunydd inswleiddio. Mae hyn hefyd yn gymwys i orchudd proffil trapesoidaidd (blwch) wedi'u gwneud o unrhyw un o'r deunyddiau uchod ac eithrio sment ffibr (proffil sinwsoidaidd yn unig).
Coron ‒ rhan uchaf y proffil.
Cafn neu badell ‒ rhan isaf y proffil.
Sêm sefyll ‒ gorchuddion â sêm uchel wedi'u gwneud o ddur neu alwminiwm fel arfer.
Cysylltyddion – gosodiadau sy'n cysylltu'r dalennau â'i gilydd, wedi'u sipio, ac â'r strwythur.
Dalennau clipiau gosod ‒ ychydig yn wahanol i sêm sefyll a chysylltyddion ac wedi'u gwneud o'r un deunydd â'r gorchuddion. Defnyddir clipiau cudd gosodiadau cudd, i'w clymu'n sownd i'r strwythur.
Systemau wedi'u hinswleiddio â dwy bilen ‒ yn defnyddio dalen leinio a system wahanu i greu gwagle ar gyfer deunydd inswleiddio. Gellir defnyddio gorchuddion a chladin o bob math arall i greu'r bilen gwrth-ddŵr drwy eu gosod ar y darnau gwahanu.
Paneli cyfansawdd ‒ gelwir hefyd yn baneli haenog. Maent yn cael eu gweithgynhyrchu mewn amrywiaeth o broffiliau i gael eu gosod ar doeau a waliau mewn gwahanol ffyrdd ac yn cynnwys dwy haen o fetel â chraidd inswleiddio. Dim ond ar gyfer waliau y mae rhai systemau'n addas. Ceir gwahanol ffyrdd o osod y paneli hyn sy'n cynnwys creu sêm sefyll.
Decin ‒ dalennau neu hambyrddau wedi'u proffilio sy'n sail i system doi arall.
Paneli strwythurol ‒ gorchuddion neu hambyrddau proffil metel wedi'u dylunio i rychwantu trawstiau a cholofnau. Gellir defnyddio paneli cyfansawdd o ddyluniad penodol fel cydrannau strwythurol.
Deunyddiau cladio wedi'u gwneud o: Deunydd alwminiwm cyfansawdd, Alwminiwm, Argaenau brics, Cerameg, Copr, Sment ffibr, Concrit ffibr, Concrit a atgyfnerthwyd â ffibr gwydr, Plastig a atgyfnerthwyd â gwydr, Polycarbonad, Paneli gwydr (nad yw'n dryloyw) monolithig, Cromatig, Laminiad gwasgedd uchel, Ffotofoltäig, Rendrad, Dur gwrthstaen, Terracotta, Pren, Laminiad pren, Cerrig tenau, Estyll tywydd a Sinc