Adfer cyflwr y tir

URN: COSVR172
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithrediadau Adeiladu a Gwasanaethau Peirianneg Sifil (Adeiladu),Galwedigaethau Gwaith Isadeiledd (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, ac adfer arwynebau daear ar ôl gorffen gwaith drwy ôl-lenwi â deunyddiau wedi'u cloddio sy'n addas, ôl-lenwi â deunyddiau newydd, cywasgu, ailosod: **cerrig llorio, blociau, wyneb du, ardaloedd wedi'u trin ac ardaloedd o laswellt

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethau gwaith isadeiledd yn adfer cyflwr y tir, a gall gweithredwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach

P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth

K1   pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal  â'u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2   pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
K3   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

*
Meini Prawf Perfformiad 2
*
Arferion gwaith diogel

K4   faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso
K5   sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K6   beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K7   beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K8   pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K9   sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 3
Dewis adnoddau

K10   beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro  diffygion
K11   sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K12   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K13   pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod

K14   sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K15   pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

*
Meini Prawf Perfformiad 5
*
Bodloni gofynion y contract

K16   sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K17   sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 6
Amser a neilltuwyd

K18   beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at  derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1
1   dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n  gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2
2   osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am o leiaf bedwar o'r dilynol
        2.1   dulliau gweithio
        2.2   defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
        2.3   defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
        2.4   defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
        2.5 r  isgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 3
3   dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
        3.1   deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
        3.2   offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 4
4   diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
5   cynnal lle gweithio glân
6   gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5
7   dangos sgiliau mesur, marcio allan, gosod, plannu, lleoli, sicrhau a gorffen
8   defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol
9   adfer cyflwr y tir yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir ar gyfer tri o'r canlynol o leiaf
        9.1   ôl-lenwi â deunyddiau wedi'u cloddio sy'n addas
        9.2   ôl-lenwi â deunyddiau newydd
        9.3   cywasgu
        9.4   arwynebau caled (cerrig llorio, blociau, concrit, wyneb du)
        9.5   ailblannu ardaloedd wedi'u trin ac ardaloedd o laswellt, neu ailosod tyweirch

**

Meini Prawf Perfformiad 6**
10   cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill  a/neu'r cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff
1   cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a  chanllawiau swyddogol

Argyfyngau
2   ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
        2.1   tanau, gollyngiadau ac anafiadau
        2.2   argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon
3   y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac  mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
4   y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math,  sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
        4.1   mesurau diogelu ar y cyd
        4.2   system awyru a gwacáu leol
        4.3   cyfarpar diogelu personol
        4.4   cyfarpar diogelu anadlol

Gwybodaeth
5   lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau  cyfredol sy'n ymwneud ag adeiladau, a chanllawiau swyddogol sy'n ymwneud ag adfer cyflwr y tir

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
6   mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth  weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a  sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Cynnal a chadw
7   gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol

Dulliau gweithio
8 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y  maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
        8.1   nodi gofynion ansawdd ar gyfer gosod
        8.2   bodloni gofynion y cytunwyd arnynt
        8.3   ôl-lenwi â deunyddiau wedi'u cloddio sy'n addas
        8.4   ôl-lenwi â deunyddiau newydd
        8.5   cydnabod y gofyniad i gywasgu mewn haenau
        8.6   gosod a chywasgu'r is-radd a'r is-sylfaen
        8.7   ffurfio lefelau
        8.8   ailosod arwynebau caled (cerrig llorio, blociau, concrit, wyneb du, ardaloedd o laswellt wedi'u trin)
        8.9   ailblannu ardaloedd wedi'u trin ac ardaloedd o laswellt, ac ailosod tyweirch
        8.10  gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt
        8.11  cyfarwyddo ac arwain peiriannau wrth iddynt symud a chael eu gweithredu
        8.12  nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol ychwanegol
        8.13  nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac  arwyddocâd hanesyddol
        8.14  defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
        8.15  gweithio ar uchder
        8.16  defnyddio cyfarpar mynediad
9   gwaith tîm a chyfathrebu
10  anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig ag adfer cyflwr y tir

Problemau
11   y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
        11.1   eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
        11.2   gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen
12   mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
13   gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
*
*

Diogelu gwaith
14   diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd  garw

*
Adnoddau
*
15   deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau  safonol ac arbenigol o
        15.1   gerrig llorio, blociau, ymylon, agregau, sment, wyneb du, uwchbridd, hadau
        15.2   ôl-lenwad, deunyddiau
        15.3   offer llaw, offer pŵer cludadwy, peiriannau a chyfarpar
16   nodi niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer adfer cyflwr y tir

Gweithdrefnau diogelwch
17   safle, gweithle, cwmni a gweithiwr


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

VR172

Galwedigaethau Perthnasol

Adeiladu

Cod SOC

8142, 8149

Geiriau Allweddol

Cerrig Llorio; Blociau; Wyneb Du; Ardaloedd o Laswellt; Tirlunio; Ffurfio Lefelau; Cywasgu is-sylfaen; Hadau; Pridd; Agregau