Torri a phlygu dur atgyfnerthu i siâp
URN: COSVR166
Sectorau Busnes (Suites): Gosod Dur (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar:
2020
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â thorri a phlygu dur atgyfnerthu concrid yn unol â'r codau siâp safonol a pherthnasol a gydnabyddir, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar. Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol gosod dur a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio. |
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â deddfwriaeth benodol a chyfredol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**Meini Prawf Perfformiad 1** **Dehongli gwybodaeth** K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am **wybodaeth** amhriodol ac **adnoddau** anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu K2 pa fathau o **wybodaeth** sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad i ddatrys **problemau** â'r **wybodaeth** a pham mae'n bwysig eu dilyn |
**Meini Prawf Perfformiad 2** **Arferion gwaith diogel** K4 faint o **wybodaeth** y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â **deddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol** a sut i'w chymhwyso K5 sut y dylid ymateb i **argyfyngau** a phwy ddylai ymateb K6 beth yw **gweithdrefnau diogelwch** y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio **cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch** K9 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â **deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol** |
**Meini Prawf Perfformiad 3** **Dewis adnoddau** K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr **adnoddau** a sut y dylid cywiro diffygion K11 sut y dylid defnyddio'r **adnoddau** a sut i adrodd am unrhyw **broblemau** sy'n gysylltiedig â nhw K12 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad i ddewis **adnoddau**, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio K13 pa **beryglon** sy'n gysylltiedig â'r **adnoddau** a'r **dulliau gweithio** a sut i ddelio â'r rhain |
**Meini Prawf Perfformiad 4** **Lleihau'r risg o ddifrod** K14 sut i **ddiogelu gwaith** rhag difrod a phwrpas diogelu K15 pam y dylid **gwaredu gwastraff** yn ddiogel a sut i wneud hyn |
**Meini Prawf Perfformiad 5** **Bodloni gofynion y contract** K16 sut i ymgymryd â **dulliau gweithio** i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am **broblemau** K17 sut i **gynnal a chadw** offer a chyfarpar |
**Meini Prawf Perfformiad 6** **Amser a neilltuwyd** K18 beth yw'r **rhaglen** i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser |
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
**Meini Prawf Perfformiad 1** 1 dehongli lluniadau, manylebau, rhestrau, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud |
** ** **Meini Prawf Perfformiad 2** 2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol 2.1 dulliau gweithio 2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel 2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel 2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau'n ddiogel 2.5 defnyddio a storio offer a chyfarpar yn ddiogel 2.6 risgiau penodol i iechyd |
** ** **Meini Prawf Perfformiad 3** 3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun 3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau 3.2 offer, peiriannau a chyfarpar |
** ** **Meini Prawf Perfformiad 4** 4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod 5 cynnal lle gweithio clir a thaclus 6 gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau cyfredol y sefydliad a chanllawiau swyddogol |
** ** **Meini Prawf Perfformiad 5** 7 dangos sgiliau rhestru, nodi, dewis, mesur, marcio allan, torri a phlygu dur atgyfnerthu 8 defnyddio a chynnal a chadw'r holl offer a chyfarpar ar gyfer y gwaith 9 rhestru, dimensiynu, plygu a thorri dur atgyfnerthu sy'n 12mm troedfedd neu fwy ar ei draws yn unol â chodau siâp safonol a gydnabyddir i ffurfio siapiau safonol sy'n gofyn eu plygu o leiaf bum gwaith drwy ddefnyddio o leiaf un o'r dilynol yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir 9.1 peiriant plygu â llaw 9.2 peiriant plygu â phŵer |
** ** **Meini Prawf Perfformiad 6** 10 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill neu'r cyflogwr |
Gwybodaeth Cwmpas
**Gwaredu gwastraff** 1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, gweithdrefnau cyfredol y sefydliad a chanllawiau swyddogol |
** ** **Argyfyngau** 2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol 2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau 2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol |
** ** **Peryglon** 3 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr a gweithdrefnau cyfredol y sefydliad ac mewn canllawiau swyddogol |
** ** **Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch** 4 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol 4.1 mesurau diogelu ar y cyd 4.2 cyfarpar diogelu personol 4.3 cyfarpar diogelu anadlol 4.4 system awyru a gwacáu leol |
** ** **Gwybodaeth** 5 lluniadau, gofynion, cyfarwyddiadau'r safle, rhestrau, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, gweithdrefnau cyfredol y sefydliad a chanllawiau swyddogol sy'n gysylltiedig â rhestru, dimensiynu, plygu a thorri dur atgyfnerthu concrit |
** ** **Gweithdrefnau'r sefydliad a chanllawiau swyddogol** 6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol |
** ** **Cynnal a chadw** 7 gofal y gweithiwr am yr holl offer a chyfarpar |
** ** **Dulliau gweithio** 8 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull gweithio, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i 8.1 tynnu manylion o restrau a lluniadau gosod dur (copïau caled neu systemau digidol) 8.2 cwblhau gwaith yn unol â'r meini prawf ansawdd y cytunwyd arnynt 8.3 nodi graddau dur yn unol â'r rhestr 8.4 rhestru, dimensiynu, plygu a thorri dur atgyfnerthu i ffurfio siapiau safonol drwy ddefnyddio codau a gydnabyddir i oddefiannau penodol yn unol â'r rhestr a pheiriant plygu â llaw neu beiriant plygu â phŵer 8.5 rhoi gwybodaeth ar gyfer systemau digidol 8.6 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol 8.7 gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt 8.8 defnyddio offer a chyfarpar ar gyfer y gwaith 9 gwaith tîm a chyfathrebu 10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â rhestru, dimensiynu, plygu a thorri dur atgyfnerthu concrit |
** ** **Problemau** 11 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio 11.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa 11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad |
** ** **Rhaglen** 12 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig 13 gweithdrefnau'r sefydliad i adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith |
** ** **Diogelu gwaith** 14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw |
** ** **Adnoddau** 15 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o 15.1 dur atgyfnerthu 15.2 peiriannau plygu â llaw a phŵer 15.3 offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar 16 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n cyd-fynd â'r rhestr 17 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull neu'r weithdrefn ar gyfer rhestru, dimensiynu, plygu a thorri dur atgyfnerthu concrit |
** ** **Gweithdrefnau diogelwch** 18 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr |
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ConstructionSkills [SgiliauAdeiladu]
URN gwreiddiol
COSVR166
Galwedigaethau Perthnasol
Crefftau Adeiladu
Cod SOC
5319
Geiriau Allweddol
Plygu â llaw; Plygu â phŵer; Peiriant plygu; Codau a gydnabyddir; Dur atgyfnerthu