Datgysylltu a/neu ddymchwel strwythurau metel

URN: COSVR158
Sectorau Busnes (Cyfresi): Dymchwel
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 2020

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â datgysylltu a/neu ddymchwel strwythurau ffrâm fetel a metel, rhyddhau a gwahanu cydrannau drwy ddefnyddio cyfarpar torri poeth ac oer, defnyddio offer a chyfarpar ar gyfer dymchwel, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, cynnal ardaloedd gwaharddedig sefydledig a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar

Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol dymchwel a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​P1     dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2     cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach


P3     dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4     cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas

P5     cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion

P6     cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth

K1     pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2     pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
K3     beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith diogel
K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso
K5 pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a sut a phryd i'w defnyddio
K6 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K7 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K8 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K10 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol *a chanllawiau swyddogol *

*
Meini Prawf Perfformiad 3
*

Dewis adnoddau
K11   beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K12   sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K13   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K14   pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 4

Lleihau'r risg o ddifrod
K15   sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K16   pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 5

Bodloni gofynion y contract
K17   sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K18   sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 6

Amser a neilltuwyd
K19   beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

**Meini Prawf Perfformiad 1** 1      dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, trwyddedau gwaith, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a gofynion y sefydliad sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud ** ** **Meini Prawf Perfformiad 2** 2      osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol 2.1     dulliau gweithio 2.2     defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel 2.3     defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel 2.4     defnyddio, gwahanu, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel 2.5     risgiau penodol i iechyd ** ** **Meini Prawf Perfformiad 3** 3      dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun 3.1     deunyddiau a chydrannau 3.2     offer, cyfarpar a deunyddiau traul ar gyfer dymchwel 3.3     cynwysyddion gwastraff a/neu ailgylchu ** ** **Meini Prawf Perfformiad 4** 4      diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod 5      cynnal lle gweithio clir a thaclus 6      gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol ** ** **Meini Prawf Perfformiad 5** 7      dangos sgiliau cynnal, rhyddhau, torri oer, torri poeth a gwahanu 8      defnyddio a chynnal a chadw offer, cyfarpar, cyfarpar torri poeth ac oer a deunyddiau traul ar gyfer dymchwel 9      cynnal ardaloedd gwaharddedig sefydledig, datgysylltu a/neu ddymchwel cydrannau a strwythurau ffrâm fetel a metel a gwahanu cydrannau i'w gwaredu a/neu eu hailgylchu a/neu eu hadfer yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir ** ** **Meini Prawf Perfformiad 6** 10    cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient

Gwybodaeth Cwmpas

**Gwaredu gwastraff (deilliannau gwastraff a rwbel)** 1       cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol ** ** **Argyfyngau** 2       ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol 2.1    tanau, gollyngiadau ac anafiadau 2.2    argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol ** ** **Diffoddwyr tân** 3       dŵr, CO₂, ewyn a phowdr a'u defnyddiau ** ** **Peryglon** 4       y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol ** ** **Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch** 5       y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol 5.1    mesurau diogelu ar y cyd 5.2    cyfarpar diogelu personol 5.3    cyfarpar diogelu anadlol 5.4    system awyru a gwacáu leol ** ** **Gwybodaeth** 6       lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, trwyddedau gwaith, hyfforddiant cynefino ar y safle, cyflwyniadau, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, data electronig, canllawiau swyddogol a rheoliadau cyfredol sy'n gysylltiedig â datgysylltu a dymchwel strwythurau metel ** ** ** Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol** 7       mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol ** ** **Cynnal a chadw** 8       dulliau'r gweithiwr o archwilio offer, cyfarpar, cyfarpar torri poeth ac oer a deunyddiau traul ar gyfer dymchwel a'i ofal amdanynt

*
*

Dulliau gweithio

9        cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i

9.1    gosod rhwystrau a hysbysiadau rhybuddio

9.2    cynnal ardaloedd gwaharddedig sefydledig a mannau dynodedig

9.3    nodi mathau o gynheiliaid a systemau cynnal

9.4    cadarnhau cyfanrwydd a safle systemau cynnal a chynheiliaid a nodwyd

9.5    nodi pwyntiau cywasgu, tynnu a dirdro

9.6    defnyddio cyfarpar torri poeth ac oer i dorri, rhyddhau, dal, colfachu a gwanhau cydrannau metel a deunyddiau

9.7     datgysylltu a dymchwel cydrannau a strwythurau ffrâm fetel a metel

9.8     symud a gwahanu cydrannau metel a deunyddiau i'w hailgylchu, eu hadfer a'u gwaredu

9.9     storio a diogelu deunyddiau a chydrannau a symudwyd

9.10  rhoi gwybodaeth ar gyfer modelu gwybodaeth am adeiladu

9.11  nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol

9.12  nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol

9.13  gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt

9.14  cyfarwyddo ac arwain peiriannau wrth iddynt symud a chael eu gweithredu

9.15  defnyddio offer, cyfarpar a deunyddiau traul ar gyfer dymchwel

9.16  gweithio ar uchder

9.17  defnyddio cyfarpar mynediad

10     sicrhau gwaith tîm a dulliau cyfathrebu effeithiol

11     anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â datgysylltu a dymchwel strwythurau metel

*
*

Problemau

12     y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

12.1  eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

12.2  gweithdrefnau adrodd y sefydliad

*
*

Rhaglen

13     mathau o dargedau cynhyrchiant ac amserlenni

14     y ffordd y mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif

15     gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

*
*

Diogelu gwaith

16     diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

*
*

Adnoddau

17     deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o

17.1  offer, cyfarpar a deunyddiau traul ar gyfer dymchwel

17.2  cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu

18      cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion

19      dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer datgysylltu a dymchwel strwythurau metel

*
*

Gweithdrefnau diogelwch

20     prosiect, safle, gweithle, cwmni, gweithiwr, cerbydau, offer a pheiriannau


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

VR158

Galwedigaethau Perthnasol

Adeiladu

Cod SOC

8149

Geiriau Allweddol

Cyfarpar torri poeth; Datgysylltu; Gwahanu; Gwaredu; Ailgylchu