Datgysylltu a/neu ddymchwel strwythurau pren

URN: COSVR157
Sectorau Busnes (Suites): Dymchwel
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 01 Ion 2020

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â datgysylltu a/neu ddymchwel cydrannau toeau a strwythurau ffrâm bren a phren drwy ddefnyddio offer a chyfarpar dymchwel, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, cynnal ardaloedd gwaharddedig sefydledig a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar

Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol dymchwel a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​P1     dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2     cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach

P3     dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio


P4     cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas

P5     cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion

P6     cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth

K1     pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2     pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
K3     beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

*
*

Meini Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith diogel
K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso
K5 pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a sut a phryd i'w defnyddio
K6 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K7 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K8 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K10 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

*
*

Meini Prawf Perfformiad 3
Dewis adnoddau
K11   beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K12   sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K13   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K14   pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

*
*

Meini Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod
K15   sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K16   pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

*
*

Meini Prawf Perfformiad 5
Bodloni gofynion y contract
K17   sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K18   sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

*
Meini Prawf Perfformiad 6*
Amser a neilltuwyd
K19   beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1

1      dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, trwyddedau gwaith, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a gofynion y sefydliad sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

*
*

Meini Prawf Perfformiad 2

2      osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol

2.1     dulliau gweithio

2.2     defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel

2.3     defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel

2.4     defnyddio, gwahanu, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel

2.5     risgiau penodol i iechyd

*
*

Meini Prawf Perfformiad 3

3      dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun

3.1     deunyddiau a chydrannau

3.2     offer, cyfarpar a deunyddiau traul ar gyfer dymchwel

3.3     cynwysyddion gwastraff a/neu ailgylchu

*
*

Meini Prawf Perfformiad 4

4      diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod

5      cynnal lle gweithio clir a thaclus

6      gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

*
*

Meini Prawf Perfformiad 5

7      dangos sgiliau rhyddhau, trin, gostwng, gwahanu a llwytho

8      defnyddio a chynnal a chadw offer, cyfarpar a deunyddiau traul ar gyfer dymchwel

9      cynnal ardaloedd gwaharddedig sefydledig, datgysylltu a/neu ddymchwel cydrannau a strwythurau ffrâm bren a phren a gwahanu cydrannau a deunyddiau i'w gwaredu a/neu eu hailgylchu a/neu eu hadfer yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir

*
*

Meini Prawf Perfformiad 6

10    cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff (deilliannau gwastraff a rwbel)
1       cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol sy'n ymwneud â gwahanu ac ailgylchu
*
*

Argyfyngau
2       ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
2.1    tanau, gollyngiadau ac anafiadau
2.2    argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
*
*

Diffoddwyr tân
3       dŵr, CO₂, ewyn a phowdr a'u defnyddiau
*
*

Peryglon
4       y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
*
*

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
5       y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
5.1    mesurau diogelu ar y cyd
5.2    cyfarpar diogelu personol
5.3    cyfarpar diogelu anadlol
5.4    system awyru a gwacáu leol
*
*

Gwybodaeth
6       lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, hyfforddiant cynefino ar y safle, cyflwyniadau, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, data electronig, canllawiau swyddogol a rheoliadau cyfredol sy'n gysylltiedig â datgysylltu a dymchwel strwythurau pren
*
*

**

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol*
7       mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
*

**

Cynnal a chadw
8       dulliau'r gweithiwr o archwilio offer, cyfarpar a deunyddiau traul ar gyfer dymchwel a'i ofal amdanynt

**
** **Dulliau gweithio** **
**9       cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i 9.1    gosod rhwystrau a hysbysiadau rhybuddio 9.2    cynnal ardaloedd gwaharddedig sefydledig a mannau dynodedig 9.3    datgysylltu a dymchwel cydrannau a strwythurau ffrâm bren a phren 9.4    symud a gwahanu cydrannau a deunyddiau i'w hailgylchu, eu hadfer a'u gwaredu 9.5    storio a diogelu deunyddiau a chydrannau a symudwyd 9.6    rhoi gwybodaeth ar gyfer modelu gwybodaeth am adeiladu 9.7    nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol 9.8    nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol 9.9    gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt 9.10  cyfarwyddo ac arwain peiriannau wrth iddynt symud a chael eu gweithredu 9.11  defnyddio offer, cyfarpar a deunyddiau traul ar gyfer dymchwel 9.12  gweithio ar uchder 9.13  defnyddio cyfarpar mynediad 10     sicrhau gwaith tîm a dulliau cyfathrebu effeithiol 11     anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â datgysylltu a dymchwel strwythurau pren
** **
** Problemau**
12     y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio 12.1  eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa 12.2  gweithdrefnau adrodd y sefydliad
** **
**Rhaglen**
13     mathau o dargedau cynhyrchiant ac amserlenni 14     y ffordd y mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif 15     gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
** **
**Diogelu gwaith**
16     diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
** **
**Adnoddau**
17     deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o 17.1  offer, cyfarpar a deunyddiau traul ar gyfer dymchwel 17.2  cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu 18      cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion 19      dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer datgysylltu a dymchwel strwythurau pren
** **
**Gweithdrefnau diogelwch**
20     prosiect, safle, gweithle, cwmni, gweithiwr, cerbydau, offer a pheiriannau

Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

VR157

Galwedigaethau Perthnasol

Adeiladu

Cod SOC

8149

Geiriau Allweddol

Gwastraff; Gwaredu; Ailgylchu