Datgysylltu a/neu ddymchwel toeau a/neu gladin
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â datgysylltu a/neu ddymchwel toeau a/neu gladin drwy ddefnyddio offer a chyfarpar ar gyfer dymchwel, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, cynnal ardaloedd gwaharddedig sefydledig a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1 Dehongli gwybodaeth K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn |
Meini Prawf Perfformiad 2 Arferion gwaith diogel K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso K5 pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a sut a phryd i'w defnyddio K6 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb K7 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol K8 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch K10 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol * |
** Meini Prawf Perfformiad 3** Dewis adnoddau K11 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion K12 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw K13 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio K14 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain |
Meini Prawf Perfformiad 4 Lleihau'r risg o ddifrod K15 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu K16 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn |
Meini Prawf Perfformiad 5 Bodloni gofynion y contract K17 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau K18 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar |
Meini Prawf Perfformiad 6 Amser a neilltuwyd K19 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser |
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, trwyddedau gwaith, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a gofynion y sefydliad sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
*
Meini Prawf Perfformiad 2*
2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
2.4 defnyddio, gwahanu, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd
*
Meini Prawf Perfformiad 3*
3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau a chydrannau
3.2 offer, cyfarpar a deunyddiau traul ar gyfer dymchwel
3.3 cynwysyddion gwastraff a/neu ailgylchu
*
Meini Prawf Perfformiad 4*
4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
5 cynnal lle gweithio clir a thaclus
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
*
Meini Prawf Perfformiad 5*
7 dangos sgiliau rhyddhau, trin, gostwng, gwahanu a llwytho
8 defnyddio a chynnal a chadw offer, cyfarpar a deunyddiau traul ar gyfer dymchwel
9 cynnal ardaloedd gwaharddedig sefydledig, datgysylltu a dymchwel toeau a/neu gladin a symud a gwahanu cydrannau a deunyddiau i'w gwaredu a/neu eu hailgylchu a/neu eu hadfer yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir
*
Meini Prawf Perfformiad 6*
10 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Gwybodaeth Cwmpas
Gwaredu gwastraff (deilliannau gwastraff a rwbel)
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol sy'n ymwneud â gwahanu ac ailgylchu
*
*
Argyfyngau
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
*
*
Diffoddwyr tân
3 dŵr, CO₂, ewyn a phowdr a'u defnyddiau
*
*
Peryglon
4 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
*
*
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
5.1 mesurau diogelu ar y cyd
5.2 cyfarpar diogelu personol
5.3 cyfarpar diogelu anadlol
5.4 system awyru a gwacáu leol
*
*
Gwybodaeth
6 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, trwyddedau gwaith, hyfforddiant cynefino ar y safle, cyflwyniadau, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, data electronig, canllawiau swyddogol a rheoliadau cyfredol sy'n gysylltiedig â datgysylltu a dymchwel toeau a chladin
*
*
**
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol**
7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
*
*
Cynnal a chadw
8 dulliau'r gweithiwr o archwilio offer, cyfarpar a deunyddiau traul ar gyfer dymchwel a'i ofal amdanynt
*
*
Dulliau gweithio
9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
9.1 gosod rhwystrau a hysbysiadau rhybuddio
9.2 cynnal ardaloedd gwaharddedig sefydledig a mannau dynodedig
9.3 datgysylltu a dymchwel toeau a chladin
9.4 symud a gwahanu cydrannau a deunyddiau i'w hailgylchu, eu hadfer a'u gwaredu
9.5 storio a diogelu deunyddiau a chydrannau a symudwyd
9.6 rhoi gwybodaeth ar gyfer modelu gwybodaeth am adeiladu
9.7 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol
9.8 nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol
9.9 symud deunyddiau sy'n cynnwys asbestos
9.10 gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt
9.11 cyfarwyddo ac arwain peiriannau wrth iddynt symud a chael eu gweithredu
9.12 defnyddio offer, cyfarpar a deunyddiau traul ar gyfer dymchwel
9.13 gweithio ar uchder
9.14 defnyddio cyfarpar mynediad
10 sicrhau gwaith tîm a dulliau cyfathrebu effeithiol
11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â datgysylltu a dymchwel toeau a chladin
*
*
Problemau
12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
*
*
Rhaglen
13 mathau o dargedau cynhyrchiant ac amserlenni
14 y ffordd y mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif
15 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
*
*
Diogelu gwaith
16 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
*
*
Adnoddau
17 deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o
17.1 offer, cyfarpar a deunyddiau traul ar gyfer dymchwel
17.2 cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu
18 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion
19 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer datgysylltu a dymchwel toeau a chladin
*
*
Gweithdrefnau diogelwch
20 prosiect, safle, gweithle, cwmni, gweithiwr, cerbydau, offer a pheiriannau