Gosod a symud lloriau mynediad uchel

URN: COSVR133
Sectorau Busnes (Cyfresi): Systemau Mewnol (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar a pharatoi, gosod a symud lloriau mynediad uchel.

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol Systemau Mewnol (llorio a theilsio waliau) a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
  2. cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
  3. dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
  4. cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas
  5. cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion
  6. cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1

Dehongli gwybodaeth

K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

*
Meini Prawf Perfformiad 2
*

Arferion gwaith diogel

K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso

K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K9 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r *ddeddfwriaeth* gyfredol a chanllawiau swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 3

Dewis adnoddau

K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K12 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K13 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 4

Lleihau'r risg o ddifrod

K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 5

Bodloni gofynion y contract

K16 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K17 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 6

Amser a neilltuwyd

K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

**Meini Prawf Perfformiad 1** 1      dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
** ** **Meini Prawf Perfformiad 2** 2      osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol
        2.1  dulliau gweithio
        2.2  defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel         2.3  defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
        2.4  defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn 
               ddiogel
        2.5  risgiau penodol i iechyd
** ** **Meini Prawf Perfformiad 3** 3      dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
        3.1  deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
        3.2  offer a chyfarpar 
** ** **Meini Prawf Perfformiad 4** 4      diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod 5      cynnal lle gweithio glân 6      gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** **Meini Prawf Perfformiad 5** 7      dangos sgiliau mesur, marcio allan, symud, ffitio, gorffen, gosod a sicrhau 8      defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol 9      gosod a symud y dilynol yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir
        9.1  lloriau mynediad uchel perchnogol (gan gynnwys rhwystrau 
               tân, rampiau, grisiau a chanllawiau)
        9.2  mowldinau
** ** **Meini Prawf Perfformiad 6** 10   cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient

Gwybodaeth Cwmpas

**Gwaredu gwastraff** 1      cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
** ** **Argyfyngau** 2      ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
        2.1  tanau, gollyngiadau ac anafiadau
        2.2  argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
**Peryglon** 3      y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
** ** **Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch** 4      y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
        4.1  mesurau diogelu ar y cyd
        4.2  cyfarpar diogelu personol         4.3  cyfarpar diogelu anadlol         4.4  system awyru a gwacáu leol
** ** **Gwybodaeth** 5      lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chanllawiau/rheoliadau cyfredol sy'n gysylltiedig â gosod a symud lloriau mynediad uchel
** ** **Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol** 6      mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
** ** **Cynnal a chadw** 7      gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol 

Dulliau gweithio

8      cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i

        8.1   nodi a bodloni gofynion ansawdd ar gyfer gosod
        8.2   cadarnhau bod yr is-haen bresennol yn addas
        8.3   cadarnhau datwm fertigol a llorweddol
        8.4   paratoi'r arwyneb cefndir (defnyddio deunyddiau 
                selio, pilenni atal lleithder, deunyddiau tancio a byndiau)
        8.5   gwneud unrhyw waith atgyweirio ac addasu
        8.6   nodi lleoliad gwasanaethau mecanyddol a thrydanol 
                a gweithio o'u cwmpas
        8.7   sicrhau bod deunyddiau'n cael eu gosod mewn ffordd addas
        8.8   ffurfio agoriadau ar gyfer delltiau awyru a blychau trydan
        8.9   gosod lloriau mynediad uchel â rhwystrau tân, rampiau, 
                grisiau a chanllawiau
        8.10  symud ac ailosod lloriau mynediad uchel â rhwystrau tân, 
                 rampiau, grisiau a chanllawiau ac ailffurfio agoriadau ar 
                 gyfer delltiau awyru a blychau trydan
        8.11  gosod sgertins plastig a phren
        8.12  gorchuddio siafftiau, rampiau, grisiau ac uwchstandiau
        8.13  nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a
                 gwybodaeth arbenigol
        8.14  gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos 
                 iawn atynt
        8.15  defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar

        8.16  defnyddio cyfarpar mynediad

9      gwaith tîm a chyfathrebu

10   anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod a symud lloriau mynediad uchel

*
*

*
*

*
*

*
*

*
*

*
*

Problemau

11   y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

        11.1  eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
        11.2  gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen

12   mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig

13   gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

*
*

Diogelu gwaith

14   diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

*
*

Adnoddau

15   deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol o

        15.1  cydrannau lloriau, sgertins, stribedi perimedr, pren, 
                 dalennau pren, rhwystrau tân, gosodiadau a ffitiadau
        15.2  adlynion, deunyddiau selio a gorchuddion lloriau
        15.3  offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar

16   dewis yr adnoddau a'r deunyddiau cywir i fodloni'r gofynion

17   dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer gosod a symud lloriau mynediad uchel

*
*

Gweithdrefnau diogelwch

18   safle, gweithle, cwmni a gweithiwr


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR133

Galwedigaethau Perthnasol

Llorio a Theilsio Waliau

Cod SOC

5322

Geiriau Allweddol

Lloriau uchel; Lloriau mynediad uchel; Rhwystrau tân; Grisiau; Lloriau mynediad; Canllawiau