Gosod systemau leinio sych
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar a pharatoi, gosod ac atgyweirio systemau leinio sych perchnogol
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol Systemau Mewnol a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
- cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
- dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
- cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas
- cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion
- cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
**
Meini Prawf Perfformiad 2**
Arferion gwaith diogel
K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso
K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K9 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r *ddeddfwriaeth* gyfredol a chanllawiau swyddogol
Meini Prawf Perfformiad 3
Dewis adnoddau
K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K12 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K13 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain
Meini Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod
K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn
Meini Prawf Perfformiad 5
Bodloni gofynion y contract
K16 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K17 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 6
Amser a neilltuwyd
K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1 1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud |
* Meini Prawf Perfformiad 2 2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol 2.1 dulliau gweithio 2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel 2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel 2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel 2.5 risgiau penodol i iechyd
|
Meini Prawf Perfformiad 3 3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun 3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau 3.2 offer a chyfarpar
|
Meini Prawf Perfformiad 4 4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod 5 cynnal lle gweithio glân 6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol |
* * * * * * * * * * * * * * Meini Prawf Perfformiad 5 7 dangos sgiliau mesur, marcio allan, ffitio, gosod a sicrhau 8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol 9 gosod y dilynol, gan gynnwys gosod pennau allwyro, ffurfio agoriadau a chysylltau a gwneud gwaith atgyweirio, yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir 9.1 partisiynau metel 9.2 nenfydau stribedi metel 9.3 leininau waliau fframiog 9.4 systemau ffrâm a di-ffrâm ar gyfer blychu trawstiau a cholofnau
10 gosod o leiaf ddwy o'r systemau dilynol, gan gynnwys gosod pennau allwyro, ffurfio agoriadau a chysylltau a gwneud gwaith atgyweirio, yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir 10.1 waliau dwbl 10.2 stydiau wedi'u gosod am yn ail 10.3 siafftiau gwasanaeth 10.4 waliau crwm 10.5 waliau dros dri metr o uchder |
Meini Prawf Perfformiad 6 11 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient |
Gwybodaeth Cwmpas
**Gwaredu gwastraff** 1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol |
**
**
**Argyfyngau**
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
|
**Peryglon** 3 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol |
** ** **Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch** 4 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol 4.1 mesurau diogelu ar y cyd 4.2 cyfarpar diogelu personol 4.3 cyfarpar diogelu anadlol 4.4 system awyru a gwacáu leol |
**Gwybodaeth** 5 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chanllawiau/rheoliadau cyfredol sy'n gysylltiedig â gosod systemau leinio sych |
** ** **Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol** 6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol |
** ** ** ** **Cynnal a chadw** 7 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol |
** **
**Dulliau gweithio**
8 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
8.1 nodi a bodloni gofynion ansawdd ar gyfer gosod
8.2 cadarnhau datwm fertigol a llorweddol
8.3 cadarnhau bod yr is-haen bresennol yn addas
8.4 sicrhau bod deunyddiau'n cael eu gosod mewn ffordd addas
8.5 nodi lleoliad gwasanaethau mecanyddol a thrydanol a gweithio o'u cwmpas
8.6 gosod pennau allwyro
8.7 gosod systemau leinio sych, gan gynnwys partisiynau metel, nenfydau stribedi metel, leininau waliau a systemau ffrâm a di-ffrâm ar gyfer blychu trawstiau a cholofnau
8.8 ffurfio agoriadau a chysylltau
8.9 atgyweirio partisiynau a nenfydau sydd wedi'u difrodi
8.10 gosod waliau dwbl a siafftiau gwasanaeth a gosod stydiau am yn ail
8.11 ffurfio a gosod waliau crwm
8.12 gosod waliau dros dri metr o uchder
8.13 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol
8.14 gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt
8.15 defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
8.16 gweithio ar uchder
8.17 defnyddio cyfarpar mynediad
9 gwaith tîm a chyfathrebu
10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod systemau leinio sych
|
**
**
**
**
**
**
**
**
**Problemau**
11 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
|
** ** **Rhaglen** 12 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig 13 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith |
** ** **Diogelu gwaith** 14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw |
**
**
**Adnoddau**
15 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol o
15.1 paneli, plastrfwrdd, rhannau metel, estyll pren, gosodiadau a ffitiadau
15.2 offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
16 dewis yr adnoddau a'r deunyddiau cywir i fodloni'r gofynion
17 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer gosod systemau leinio sych
|
** ** **Gweithdrefnau diogelwch** 18 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr |