Gosod rhwystrau yng ngheudodau lloriau a nenfydau

URN: COSVR126
Sectorau Busnes (Suites): Systemau Mewnol (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 01 Tach 2015

Trosolwg

​​Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar a pharatoi a gosod rhwystrau sy'n atal tân, mwg a sŵn yng ngheudodau lloriau a nenfydau

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol systemau mewnol a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
  2. cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
  3. dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
  4. cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas
  5. cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion
  6. cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​​​​​

Meini Prawf Perfformiad 1

Dehongli gwybodaeth

K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

**

Meini Prawf Perfformiad 2**

Arferion gwaith diogel

K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso

K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K9 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r *ddeddfwriaeth* gyfredol a chanllawiau swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 3

Dewis adnoddau

K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K12 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K13 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 4

Lleihau'r risg o ddifrod

K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 5

Bodloni gofynion y contract

K16 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K17 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 6

Amser a neilltuwyd

K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1

1  dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2

2  osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol

2.1  dulliau gweithio

2.2  defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel

2.3  defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel

2.4  defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel

2.5  risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 3

3  dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun

3.1  deunyddiau, cydrannau a gosodiadau

3.2  offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 4

4  diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod

5  cynnal lle gweithio glân

6  gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5

7  dangos sgiliau mesur, marcio allan, ffitio, gorffen, gosod a sicrhau

8  defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol

9  gosod rhwystrau sy'n atal y dilynol yng ngheudodau lloriau a nenfydau, gan gynnwys selio o gwmpas gwasanaethau sy'n mynd drwyddynt, yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir

9.1  tân, mwg a sŵn

Meini Prawf Perfformiad 6

10  cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth Cwmpas

​​​

**Gwaredu gwastraff** 1  cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
** Argyfyngau** 2  ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol 2.1  tanau, gollyngiadau ac anafiadau 2.2  argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
** Peryglon** 3  y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
** Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch** 4  y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol 4.1  mesurau diogelu ar y cyd 4.2  cyfarpar diogelu personol 4.3  cyfarpar diogelu anadlol 4.4  system awyru a gwacáu leol
** Gwybodaeth** 5  lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chanllawiau/rheoliadau cyfredol sy'n gysylltiedig â gosod rhwystrau ceudod
** Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol** 6  mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
** Cynnal a chadw** 7  gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol 
** ** ** ** ** ** **Dulliau gweithio** 8  cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i 8.1  nodi a bodloni gofynion ansawdd ar gyfer gosod 8.2  cadarnhau bod yr is-haen bresennol yn addas 8.3  cadarnhau datwm fertigol a llorweddol 8.4  sicrhau bod deunyddiau'n cael eu gosod mewn ffordd addas 8.5  nodi lleoliad gwasanaethau mecanyddol a thrydanol a gweithio o'u cwmpas 8.6  gosod rhwystrau sy'n atal tân, mwg a sŵn yng ngheudodau lloriau a nenfydau 8.7  selio o gwmpas cwndidau, estyll ceblau, damperau a pheipiau 8.8  nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol 8.9  gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt 8.10  defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar 8.11  gweithio ar uchder 8.12  defnyddio cyfarpar mynediad 9  gwaith tîm a chyfathrebu 10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod rhwystrau ceudod
** Problemau** 11  y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio 11.1  eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa 11.2  gweithdrefnau adrodd y sefydliad
** Rhaglen** 12  mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig 13  gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
** Diogelu gwaith** 14  diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
** ** ** ** **Adnoddau** 15  deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol o 15.1  deunydd inswleiddio, deunyddiau selio, rhannau metel, gosodiadau a ffitiadau 15.2  offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar 16  dewis yr adnoddau a'r deunyddiau cywir i fodloni'r gofynion 17  dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer gosod rhwystrau ceudod
** Gweithdrefnau diogelwch** 18  safle, gweithle, cwmni a gweithiwr

*
*

 
 
 
 
 
 

Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Tach 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR126

Galwedigaethau Perthnasol

Adeiladu

Cod SOC

8149

Geiriau Allweddol

Rhwystrau ceudod; Ceudodau lloriau; Atal tân; Atal mwg; Cwndidau; Atal sŵn; Rhannau metel; Ceudodau nenfydau