Cymryd mesuriadau a gwneud gwerthusiadau safle

URN: COSVR120
Sectorau Busnes (Suites): Asffalt Mastig (Adeiladu)
Datblygwyd gan: CITB
Cymeradwy ar: 30 Tach 2023

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chymryd mesuriadau a gwneud gwerthusiadau safle. Mae’n cynnwys archwilio, cofnodi a dosbarthu gwybodaeth am amodau’r safle sy’n ymwneud â gwaith adeiladu a gweithgareddau gwaith galwedigaethol cysylltiedig.
 
Bydd y safon hon hefyd yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, gwneud cyn lleied o ddifrod â phosibl, a gweithio o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â gofynion y sefydliad sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt
 
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu a gall gweithwyr, goruchwylwyr, a rheolwyr ei defnyddio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Dehongli gwybodaeth
P1 dehongli’r wybodaeth am y gwaith a’r adnoddau i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:
• lluniadau
• manylebau
• rhestrau
• asesiadau risg
• datganiadau dull
• cyfarwyddiadau llafar ac ysgrifenedig
• gwybodaeth y gwneuthurwr

Arferion gwaith diogel
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth bresennol a chanllawiau swyddogol i wneud y gwaith, a chynnal systemau gwaith diogel yn ymwneud â’r canlynol:
• datganiadau dull
• defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
• defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
• defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer, a chyfarpar yn ddiogel
• risgiau penodol a nodwyd drwy asesiad risg neu yn ystod y gwaith
• risgiau penodol i iechyd gan gynnwys iechyd meddwl a llesiant

Dewis adnoddau
P3 dewis y maint cywir o adnoddau ac ansawdd gofynnol yr adnoddau canlynol ar gyfer y dulliau gweithio:
• deunyddiau
• offer mesur a chofnodi, a chyfarpar

Lleihau'r risg o ddifrod
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod posibl i'r gwaith, yr ardal o’i gwmpas, a’r amgylchedd drwy wneud y canlynol:
• diogelu'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas
• cadw'r ardal waith yn ddiogel, yn glir ac yn daclus
• cael gwared â deunyddiau gwastraff yn unol â gweithdrefnau’r safle a'r ddeddfwriaeth gyfredol.

Bodloni manyleb y contract
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth yn y contract i gymryd mesuriadau a gwneud gwerthusiadau safle yn effeithlon yn unol â’r gofynion drwy wneud y canlynol:
• dangos sgiliau gwaith i wneud y canlynol:

  • mesur a marcio’r ardal
  • gwerthuso ac adrodd y wybodaeth yn ôl
  • cyfathrebu’n glir (ar lafar ac ar bapur)
    • defnyddio a chynnal a chadw offer a chyfarpar mesur
    • cymryd mesuriadau a gwneud gwerthusiadau safle sy’n ymwneud ag adeiladu a gweithgareddau cysylltiedig yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithio i wneud y canlynol:
  • mesur a gwirio dimensiynau
  • cadarnhau bod cefndiroedd strwythurol yn gyflawn ac yn dderbyniol ar gyfer gofynion gwaith
  • rhoi gwybod i'r person priodol beth yw canlyniadau’r canfyddiadau

Dull gweithio
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion pobl eraill ac anghenion y cleient


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

P1 Dehongli gwybodaeth
K1 pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith

K2 mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:
• lluniadau
• manylebau
• rhestrau
• datganiadau dull
• asesiadau risg
• gwybodaeth y gwneuthurwr
• gweithdrefnau llafar ac ysgrifenedig ar gyfer delio â deunyddiau ac adnoddau sydd wedi’u difrodi ac sy’n anaddas
• deddfwriaeth a rheoliadau cyfredol sy’n rheoli adeiladau a chanllawiau swyddogol

K3 pwysigrwydd rhoi gwybod am wybodaeth amhriodol a'i chywiro

K4 yr amrywiaeth o wasanaethau, offer a systemau digidol perthnasol a sut maent yn cael eu defnyddio

P2 Arferion gwaith diogel
K5 gwybodaeth ar gyfer deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut mae’n cael ei chymhwyso

K6 y gwahanol fathau o gyfarpar diffodd tân a sut a pha bryd mae defnyddio'r rhain mewn perthynas â:
• dŵr
• CO2
• ewyn
• powdr

K7 sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:
• tanau, gollyngiadau ac anafiadau
• argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
• nodi deunyddiau sy’n cynnwys asbestos a rhoi gwybod amdanynt

K8 gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol, mewn perthynas â’r canlynol:
• gweithiwr
• safle
• gweithle
• cerbydau
• cwmni
• cwsmer
• y cyhoedd

K9 sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:
• dulliau gweithio
• asesiad risg
• asesiad personol
• gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr
• rheoliadau statudol
• canllawiau swyddogol
• Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

K10 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a damweiniau a fu bron a digwydd a phwy sy'n gyfrifol am lunio’r adroddiad

K11 pam, pryd, a sut dylid defnyddio’r cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â’r canlynol:
• mesurau diogelu ar y cyd
• cyfarpar diogelu personol (PPE)
• cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
• awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth (LEV)

K12 sut mae cydymffurfio ag arferion gweithio sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol cyfredol

K13 gweithdrefnau’r sefydliad wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r effaith ar yr amgylchedd wrth weithio:
• yn y gweithle
• dan lefel y ddaear
• mewn mannau cyfyng
• mewn mannau uchel
• ar y briffordd
• gydag offer a chyfarpar
• gyda deunyddiau a sylweddau peryglus
• wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

P3 Dewis adnoddau
K14 pam mae cyfyngiadau, cynaliadwyedd, a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid cywiro diffygion

K15 pam dewiswyd yr adnoddau a sut maen nhw’n cael eu defnyddio

K16 sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cyd-fynd â’r dasg benodol

K17 sut dylid defnyddio’r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau mewn perthynas â’r canlynol:
• tâp mesur
• lefelau
• dogfennau
• deunyddiau
• cydrannau
• offer a chyfarpar mesur a chofnodi, gan gynnwys cyfarpar calibradu
• cyfarpar digidol
• offer rheoli traffig dros dro

K18 sut mae nodi’r peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut mae goresgyn y rhain

K19 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd a gwastraff posibl sy'n gysylltiedig â'r dull a’r weithdrefn i wneud mesuriadau a gwerthusiadau safle

P4 Lleihau'r risg o ddifrod
K20 sut mae diogelu gwaith, yr ardal o’i gwmpas a’r amgylchedd rhag difrod posibl, a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, crefftau eraill a thywydd garw

K21 sut mae lleihau’r difrod i adeiledd presennol yr adeilad

K22 pam a sut mae’n rhaid gwaredu gwastraff yn ddiogel yn unol â’r canlynol:
• cyfrifoldebau amgylcheddol
• gweithdrefnau’r sefydliad
• gwybodaeth y gwneuthurwr
• canllawiau safle

K23 pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus

P5 Bodloni manyleb y contract
K24 sut i fodloni manyleb y contract mewn perthynas â’r canlynol:
• sut mae mesur a gwirio dimensiynau yn erbyn pwyntiau datwm a manylebau
• pam ei bod yn bwysig cadarnhau bod cefndiroedd strwythurol yn gyflawn ac yn dderbyniol yn unol â manylebau a lluniadau o’r safle
• pam ei bod yn bwysig ailwirio mesuriadau a dimensiynau a chadarnhau gofynion gwaith
• pam ei bod yn bwysig rhoi gwybod i’r person priodol am unrhyw ganfyddiadau
• pwysigrwydd cyfyngiadau sy'n ymwneud â chynnal mesuriadau safle a gwerthusiadau ar adeiladau hanesyddol ac adeiladau rhestredig
• pryd i ofyn am gyngor arbenigol
• terfynau eich awdurdod eich hun
• sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o’u cwmpas ac yn agos iawn atynt
• sut mae gweithio mewn mannau uchel
• sut i ddefnyddio cyfarpar a systemau sicrhau mynediad a diogelwch
• pwysigrwydd diogelu ymylon, gweithdrefnau ymyl flaen, rhwydi diogelwch, a deciau gwrthdaro
• pryd a sut i ddefnyddio harneisiau diogelwch
• sut i ddefnyddio offer a chyfarpar mesur a chofnodi
• pam ei bod yn bwysig gwirio calibrad cyfarpar mesur
• sut a pham mae angen i'r gweithiwr sicrhau bod yr offer a’r cyfarpar mesur a chofnodi yn cael eu cynnal a’u cadw
• sut mae defnyddio systemau a chyfarpar rheoli traffig dros dro

K25 pwysigrwydd gwaith tîm a chyfathrebu

K26 pwysigrwydd ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a lles

K27 pwysigrwydd defnyddio tegwch, cynhwysiant a pharch wrth ddelio ag eraill

K28 anghenion crefftau eraill sy'n gysylltiedig â gwneud mesuriadau a chynnal gwerthusiadau safle

P6 Dull gweithio
K29 y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser

K30 y mathau o siartiau cynnydd, amserlenni, ac amseroedd a amcangyfrifwyd, a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith



Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Tach 2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR120

Galwedigaethau Perthnasol

Crefftau Adeiladu

Cod SOC

8519 yn flaenorol 8149

Geiriau Allweddol

Mesur safle; Cyfarpar mesur; Calibradu;