Toi gwellt ar strwythurau gyda nodweddion arbenigol

URN: COSVR119
Sectorau Busnes (Suites): Sgiliau Treftadaeth (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â thoi gwellt ar strwythurau gyda nodweddion arbenigol, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â gofynion y sefydliad sy'n cyfateb i'r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu'n rhagori arnynt

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol sgiliau treftadaeth a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Dehongli gwybodaeth

P1 dehongli’r wybodaeth am y gwaith a’r adnoddau fel sy’n berthnasol i leoliad daearyddol a’r amodau hinsawdd i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:

• lluniadau
• manylebau
• rhestrau
• datganiadau dull
• asesiadau risg
• gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
• cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig
• rheoliadau, deddfwriaeth, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol

Arferion gwaith diogel

P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol berthnasol a chanllawiau swyddogol i wneud y gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach am y canlynol:

• dulliau gweithio
• defnyddio cyfarpar diogelu personol priodol yn ddiogel
• defnyddio cyfarpar mynediad neu godi yn ddiogel
• defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
• defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
• risgiau penodol i iechyd a diogelwch galwedigaethol gan gynnwys ymwybyddiaeth o iechyd meddwl
• risgiau penodol sy’n gysylltiedig â deunyddiau peryglus neu rai sy’n cynnwys asbestos

Dewis adnoddau

P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio ar gyfer y canlynol:

• deunyddiau a chydrannau
• offer a chyfarpar

Lleihau'r risg o ddifrod

P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas drwy:

• gymryd camau perthnasol i ddiogelu’r mannau gwaith rhag difrod damweiniol neu anfwriadol
• gweithio gydag ymwybyddiaeth o’r amgylchedd mewn cysylltiad â galwedigaethau eraill
• cadw'r man gwaith yn lân ac yn daclus
• gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Bodloni gofynion y contract

P5 cydymffurfio â'r wybodaeth yn y contract i doi gwellt ar strwythurau gyda nodweddion arbenigol yn effeithlon yn unol â’r gofynion drwy:

• ddangos sgiliau gwaith i wneud y canlynol:

• mesur
• marcio allan
• mesur gwlybaniaeth deunyddiau toi gwellt
• dewis deunyddiau toi gwellt
• ffitio
• lleoli
• diogel
• gorffeniad

* defnyddio a chynnal a chadw offer llaw neu offer pŵer a chyfarpar ategol
* paratoi strwythurau i dderbyn to gwellt
* paratoi deunyddiau toi gwellt
* codi strwythurau i ddarparu arwyneb i atal dŵr rhag treiddio, gan ddefnyddio un o’r deunyddiau canlynol:

*   gwellt hir (gwellt ŷd)
*   gwellt ŷd wedi’u cribo
*   cyrs dŵr
*   gwair hesg (cladium mariscus)
*   grug
*   moresg
*   maeswellt
*   rhedyn
*   brwyn
*   llin
*   tywyrch
*   deunyddiau arbenigol

* paratoi:

*   ceibrennau
*   rhodenni
*   prennau llorweddol

* ffurfio:

*   gwaith gorchuddio
*   bondoeau
*   talcenni
*   gwaith ar gribau
*   ymylon main
*   cafnau
*   dormerau

* darparu ar gyfer simneiau

• ffurfio nodweddion arbenigol neu strwythurau cladin i gynnwys o leiaf un o’r canlynol:

• ffenestri ael
• cyfrwyau
• ffenestri to
• gwter cefn neu flwch

**Amser a neilltuwyd** P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, gan ystyried yr amodau hinsawdd, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

P1 Dehongli gwybodaeth

K1 pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith

K2 mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:

• lluniadau
• manylebau
• rhestrau
• datganiadau dull
• asesiadau risg
• gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
• gwybodaeth gytundebol
• deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol, gan gynnwys adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt
• cynlluniau ac adroddiadau cadwraeth
• cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig

K3 pwysigrwydd gweithdrefnau sefydliadol o ran datrys problemau â gwybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn

K4 gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol, gyfredol, canllawiau swyddogol a gofynion penodol i safle a sut mae’n cael ei rhoi ar waith

P2 Arferion gwaith diogel

K5 sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:

• tanau a’r mathau o gyfarpar diffodd tân a sut a phryd y cânt eu defnyddio o ran dŵr, CO2, ewyn a phowdr
• gollyngiadau ac anafiadau
• argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
• nodi ac adrodd am sylweddau peryglus gan gynnwys deunyddiau sy’n cynnwys asbestos a charbonad plwm, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny

K6 y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol a phenodol i safle ar gyfer offer, peiriannau a chyfarpar mewn perthynas â’r canlynol:

• safle
• gweithle
• cerbydau
• cwmni
• gweithwyr
• cleientiaid
• y cyhoedd

K7 sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:

• dulliau gweithio
• asesiadau risg
• asesiad personol
• gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr
• rheoliadau statudol
• canllawiau swyddogol
• Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

K8 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio’r cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â’r canlynol:

• mesurau diogelu ar y cyd
• cyfarpar diogelu personol (PPE)
• cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
• awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth (LEV)

K10 sut mae cydymffurfio ag arferion gwaith sy’n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni’r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a’r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle mewn perthynas â’r canlynol:

• lleoedd cyfyng
• gweithio mewn mannau uchel
• offer, peiriannau a chyfarpar
• deunyddiau a sylweddau
• symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

P3 Dewis adnoddau

K11 pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd, addasrwydd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid rhoi gwybod am ddiffygion

K12 pam y dylid mabwysiadu arferion gwaith a deunyddiau cynaliadwy a moesegol

K13 y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer dewis adnoddau, pam maen nhw wedi cael eu datblygu a sut mae eu defnyddio

K14 sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb

K15 sut dylid defnyddio’r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau ynglŷn â’r canlynol:

• deunyddiau to gwellt:

• gwellt hir (gwellt ŷd)
• gwellt ŷd wedi’u cribo
• cyrs dŵr
• deunyddiau toi gwellt arbenigol:

• gwair hesg (cladium mariscus)
• grug
• moresg
• maeswellt
• rhedyn
• brwyn
• llin
• tywyrch
• deunyddiau coedlan:

• ceibrennau
• rhodenni
• prennau llorweddol
• rhwydi

• plwm
• morter
• gosod ac eitemau ategol
• offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
• offer digidol i gynnwys mesuryddion lleithder

K16 sut mae nodi ac adrodd ar y peryglon sy'n
gysylltiedig â’r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut maent yn cael eu rheoli
mewn perthynas â datganiadau dull ac asesiadau risg

K17 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a’r weithdrefn ar gyfer toi gwellt ar strwythurau gyda nodweddion arbenigol

P4 Lleihau'r risg o ddifrod

K18 sut mae diogelu gwaith a’r ardal o’i gwmpas rhag difrod a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, gweithrediadau eraill a thywydd garw a sut mae lleihau difrod

K19 pa mor bwysig yw gwaredu gwastraff yn ddiogel, a sut mae gwneud hynny, yn unol â’r canlynol:

• cyfrifoldebau amgylcheddol
• gweithdrefnau’r sefydliad
• gwybodaeth gwneuthurwyr
• gwybodaeth cyflenwyr
• rheoliadau statudol
• canllawiau swyddogol

K20 pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus

P5 Bodloni manyleb y contract

K21 sut mae’r dulliau gweithio i fodloni’r fanyleb yn cael eu cyflawni a sut mae problemau’n cael eu nodi a’u hadrodd drwy ddefnyddio gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel, iach ac amgylcheddol sy’n ymwneud â’r canlynol:

• paratoi strwythurau i dderbyn to gwellt
• sut i baratoi a thoi gwellt gyda’r canlynol:

• gwellt hir (gwellt ŷd)
• gwellt ŷd wedi’u cribo
• cyrs dŵr
• gwair hesg (cladium mariscus)
• grug
• moresg
• maeswellt
• rhedyn
• brwyn
• llin
• tywyrch
• deunyddiau arbenigol eraill
• sut i baratoi'r canlynol:

• ceibrennau
• rhodenni
• prennau llorweddol
• sut i ffurfio:

• gwaith gorchuddio
• bondoeau
• talcenni
• gwaith ar gribau
• ymylon main
• cafnau
• dormerau
• sut i ddarparu ar gyfer simneiau

• sut i ffurfio nodweddion arbenigol i gynnwys y canlynol:

• ffenestri ael
• cyfrwyau
• paneli solar
• ffenestri to
• gwter cefn neu flwch
• capio waliau
• sut mae rhoi cladin ar strwythurau a waliau unionsyth

• pam ei bod yn bwysig nodi nodweddion deunyddiau toi gwellt pan maent yn cael eu defnyddio fel deunydd inswleiddio
• sut i ffurfio uniadau gyda deunyddiau ac ategweithiau eraill
• pam ei bod yn bwysig sicrhau bod trwch a dyfnder deunyddiau to gwellt yn sicrhau’r perfformiad hirdymor gorau posibl
• pam ei bod yn bwysig lleoli gosodiadau i sicrhau a chynnal cyfanrwydd y to gwellt (y dyfnder a’r bylchau)
• pam ei bod yn bwysig cael mesurau atal tân
• sut i weithio ar adeiladau o arwyddocâd hanesyddol
• sut i ddefnyddio pob math o offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
• sut a pham mae angen i'r gweithiwr sicrhau bod yr holl offer llaw a phŵer a chyfarpar ategol yn cael eu cynnal a’u cadw
• sut mae gweithio mewn mannau uchel gan ddefnyddio cyfarpar mynediad
• perthnasedd asesiad o arwyddocâd
• sut mae nodi gofynion penodol ar gyfer y canlynol:

• strwythurau o ddiddordeb arbennig
• adeiladwaith traddodiadol
• adeiladau anodd eu trin
• arwyddocâd hanesyddol
• sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt

K22 gweithdrefnau’r sefydliad o ran ymddygiad ar y safle, a chydnabod a sicrhau tegwch, cynhwysiant a pharch o fewn yr amgylchedd gwaith, a sut i roi sylw i ymddygiad amhriodol ar y safle a rhoi gwybod amdano

K23 pwysigrwydd dulliau gweithio, cysylltiadau rhyngbersonol a chyfathrebu ac anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â thoi gwellt ar strwythurau gyda nodweddion arbenigol

P6 Amser a neilltuwyd

K24 y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, a pham y dylid cadw at derfynau amser neu roi gwybod os ydych yn debygol o fethu cadw atynt

K25 y mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd a amcangyfrifiwyd, a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Cwmpas/ystod

Cwmpas Perfformiad

Gwybodaeth Cwmpas

Gwerthoedd

Ymddygiadau

Sgiliau

Geirfa

Dolenni I NOS Eraill

Cysylltiadau Allanol

Fersiwn rhif

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR119

Galwedigaethau Perthnasol

Towyr Gwellt

Cod SOC

1234

Geiriau Allweddol

Töwr gwellt; Toi gwellt; Gwellt hir; Cyrs gwenith cyfun; Cyrs dŵr; Gwair hesg; Grug; Moresg; Maeswellt; Rhedyn; Brwyn; Llin; Tywyrch; Cilbrennau; Rhodenni; Prennau llorweddol