Strwythurau gwellt

URN: COSVR118
Sectorau Busnes (Suites): Sgiliau Treftadaeth (Adeiladu),Galwedigaethau Toi (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 2012

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â

  1. dehongli gwybodaeth
  2. mabwysiadu arferion gweithio diogel ac iach
  3. dethol deunyddiau, cydrannau a chyfarpar
  4. rhoi to gwellt ar y prif gotwaith a ffurfio bondoeau, talcennau tai a gwaith crib

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1    dehongli'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd P2    cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a roddir a'r canllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach P3    dethol y nifer a'r ansawdd gofynnol o adnoddau ar gyfer y dulliau gweithio P4    cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal gyfagos P5    cydymffurfio â'r wybodaeth gontract a roddir i gyflawni'r gwaith yn effeithlon yn ôl y fanyleb ofynnol P6    cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd, yn unol â'r rhaglen waith

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

**Meini Prawf Perfformiad 1** **Dehongli gwybodaeth** K1        y gweithdrefnau sefydliadol a ddatblygwyd i adrodd a chywiro gwybodaeth **amhriodol** ac adnoddau **anaddas**, a sut y cânt eu gweithredu K2        y mathau o **wybodaeth**, eu ffynhonnell a sut y cânt eu dehongli K3        y gweithdrefnau sefydliadol i ddatrys **problemau** â'r **wybodaeth** a pham ei fod yn bwysig eu bod yn cael eu dilyn
**Meini Prawf Perfformiad 2** **Arferion gwaith diogel** K4        lefel y ddealltwriaeth y mae'n rhaid i weithredwyr ei chael o **wybodaeth** ar gyfer **deddfwriaeth berthnasol, gyfredol a chanllawiau swyddogol** a sut y caiff ei gweithredu K5        y mathau o **ddiffoddwyr tân** a sut a phryd y cânt eu defnyddio K6        sut y dylid ymateb i **argyfyngau** a phwy ddylai ymateb K7        y **gweithdrefnau diogelwch** sefydliadol ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol K8        beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer riportio damweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud yr adroddiad K9        pam, pryd a sut **y dylid defnyddio** **cyfarpar rheoli**iechyd a diogelwch
**Meini Prawf Perfformiad 3** **Dethol adnoddau** K10     y nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r **adnoddau** a sut y dylid cywiro diffygion K11     sut y dylid defnyddio'r **adnoddau** a sut yr adroddir am unrhyw **broblemau** sy'n gysylltiedig â'r **adnoddau** K12     y gweithdrefnau sefydliadol i ddethol **adnoddau**, pam y cawsant eu datblygu a sut y cânt eu defnyddio K13     y **peryglon** sy'n gysylltiedig â'r **adnoddau** a'r **dulliau gweithio** a sut y cânt eu goresgyn
**Meini Prawf Perfformiad 4** **Lleihau'r risg o ddifrod** K14        sut i **ddiogelu gwaith** rhag difrod a phwrpas diogelu K15        pam y dylid **gwaredu gwastraff** yn ddiogel a sut y caiff ei gyflawni
**Meini Prawf Perfformiad 5** **Diwallu manyleb y contract** K16        sut mae **dulliau gweithio**, i ddiwallu'r fanyleb, yn cael eu cyflawni a sut y dylid adrodd am **broblemau** K17        sut mae gwaith **cynnal a chadw** offer a chyfarpar yn cael ei wneud
**Meini Prawf Perfformiad 6** **Amser wedi'i ddyrannu** K18        beth yw'r **rhaglen** i'r gwaith gael ei wneud yn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig a pham y dylid cadw at derfynau amser

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1

1 dehongli lluniadau, manylebau, datganiadau dull, asesiadau risg, amserlenni a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

*
Meini Prawf Perfformiad 2
*

2 osgoi risg trwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnydd diogel o offer rheoli iechyd a diogelwch
2.3 defnydd diogel o gyfarpar mynediad
2.4 defnyddio a storio deunyddiau,offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd

*
Meini Prawf Perfformiad 3
*

3 dethol adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a ffitiadau
3.2 offer a chyfarpar

*
Meini Prawf Perfformiad 4
*

4 diogelu'r gwaith a'r ardal gyfagos rhag difrod
5 lleihau difrod a chynnal lle gweithio glân
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

*
Meini Prawf Perfformiad 5
*

7 arddangos sgiliau gwaith i fesur, amlinellu, ffitio, lleoli, sicrhau a gorffen
8 defnyddio a chynnal offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol

9 gosod gwellt ar strwythurau i ffurfio prif gotwaith, bondoeau, talcennau tai a gwaith crib, hyd at gyfarwyddiadau gweithio penodol, i ddarparu arwyneb i atal dŵr rhag treiddio trwy ddefnyddio o leiaf un o'r dilynol
9.1 amrywiadau gwellt hir (gwellt yr yd)
9.2 corsen wenith wedi'i chribo (gwellt yr yd)
9.3  corsen ddŵr,
9.4 deunyddiau arbenigol: glaswellt hesgen, grug, moresg, maeswellt, rhedyn, brwyn, llin, tywarchen neu eraill
10 paratoi esyth to, siglwyr a ligwyr

**

Meini Prawf Perfformiad 6**

11 cwblhau eich gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill ac/neu y cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff

1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau sefydliadol, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

*
Argyfyngau
*

2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol wrth ymwneud â
2.1 thanau, colledion, anafiadau
2.2 argyfyngau'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

*
Diffoddwyr tân
*

3 dŵr, CO2, ewyn, powdr a'u defnyddiau

*
Peryglon
*

4 y rhai hynny a nodir trwy asesiad risg, dull gweithio, gwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Offer rheoli iechyd a diogelwch
5 a nodir gan egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol
5.1 mesurau amddiffynnol ar y cyd
5.2 offer diogelu personol (PPE)
5.3 offer diogelu anadlol (RPE)
5.4 gwyntyllu egsôst lleol (LEV)

*
Gwybodaeth
*

6 lluniadau, manylebau, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n rheoli adeiladau ac sy'n gysylltiedig â chadwraeth hanesyddol ar gyfer strwythurau to gwellt

*
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
*

7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr ynghylch damweiniau a pheryglon iechyd posibl wrth weithio yn y gweithle, ar uchder, mewn lleoedd cyfyng, ag offer a chyfarpar, â deunyddiau a sylweddau, â symud/storio deunyddiau a thrwy trin â llaw a chodi mecanyddol

*
Cynnal a Chadw
*

8 gofal gweithredol o offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol 

Dulliau gweithio

9 cymhwyso gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach sy'n ymwneud â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i:
9.1 strwythurau gwellt ag amrywiadau gwellt hir (gwellt yr yd)
9.2 strwythurau gwellt â chorsen wenith wedi'i chribo, (gwellt yr yd)
9.3 strwythurau gwellt â chorsen ddŵr
9.4 strwythurau gwellt â deunyddiau arbenigol: glaswellt hesgen, grug, moresg, maeswellt, rhedyn, brwyn, llin a thywarchen neu ddeunyddiau addas eraill
9.5 paratoi esyth to, siglwyr a ligwyr
9.6 defnyddio deunyddiau to gwellt i ffurfio prif gotwaith, bondoeau, talcennau tai a gwaith crib
9.7 ffurfio uniadau â deunyddiau ac ategweithiau eraill
9.8 sicrhau y bydd trwch a dyfnder y deunyddiau gwellt yn darparu'r perfformiad tymor hir gorau posibl
9.9 lleoli gosodiadau i sicrhau a chynnal cyfanrwydd y to gwellt (dyfnder a bylchau)
9.10 gweithredu mesurau atal tân
9.11 gwaith ar adeiladau o arwyddocâd hanesyddol
9.12 defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
9.13 gweithio ar uchder
9.14 defnyddio cyfarpar mynediad
10 gwaith tîm a chyfathrebu
11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwneud to gwellt

*
Problemau
*

12 y rhai hynny sy'n deillio o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
12.1 eich awdurdod eich hun i unioni
12.2 gweithdrefnau adrodd sefydliadol

*
Rhaglen
*

13 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
14 gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

*
Diogelu gwaith
*

15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

*
Adnoddau
*

16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar sy'n ymwneud â mathau, nifer, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd safonol ac/neu arbenigol:
16.1 deunyddiau gwellt: gwellt yr yd (amrywiadau gwellt hir, corsen wenith wedi'i chribo), corsen ddŵr
16.2 deunyddiau arbenigol: glaswellt hesgen, grug, moresg, maeswellt, rhedyn, brwyn, llin a thywarchen neu ddeunyddiau addas eraill
16.3 deunyddiau prysgoed (esyth to, siglwyr a ligwyr)
16.4 rhwydau
16.5 plwm
16.6 mortar
16.7 gosodiadau ac eitemau ategol
16.8 offer llaw ac/neu offer pŵer cludadwy a chyfarpar

17 dulliau cyfrifo nifer, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn i roi gwellt ar strwythurau to

*
Gweithdrefnau diogelwch
*

18 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR118

Galwedigaethau Perthnasol

Towyr, Teilswyr Toeau a Gweithwyr Llechi

Cod SOC

5313

Geiriau Allweddol

Gwaith toeau gwellt; Töwr toeau gwellt; Gwellt hir, Corsen wenith wedi'i chribo, Glaswellt hesgen, Deunydd prysgoed; Grug, Moresg, Maeswellt, Rhedyn, Brwyn, Llin; Tywarchen; Esyth to, Siglwyr; Ligwyr