Paratoi deunyddiau to gwellt

URN: COSVR117
Sectorau Busnes (Suites): Sgiliau Treftadaeth (Adeiladu),Galwedigaethau Toi (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 31 Hyd 2012

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â

  1. dehongli gwybodaeth
  2. mabwysiadu arferion gweithio diogel ac iach
  3. dewis deunyddiau, cydrannau a chyfarpar
  4. paratoi deunyddiau to gwellt yn barod i'w defnyddio

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1    dehongli'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd P2    cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a roddir a'r canllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach P3    dethol y nifer a'r ansawdd gofynnol o adnoddau ar gyfer y dulliau gweithio P4    cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal gyfagos P5    cydymffurfio â'r wybodaeth gontract a roddir i gyflawni'r gwaith yn effeithlon yn ôl y fanyleb ofynnol P6    cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd, yn unol â'r rhaglen waith

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

**Meini Prawf Perfformiad 1** **Dehongli gwybodaeth** K1        y gweithdrefnau sefydliadol a ddatblygwyd i adrodd a chywiro gwybodaeth **amhriodol** ac adnoddau **anaddas**, a sut y cânt eu gweithredu K2        y mathau o **wybodaeth**, eu ffynhonnell a sut y cânt eu dehongli K3        y gweithdrefnau sefydliadol i ddatrys **problemau** â'r **wybodaeth** a pham ei fod yn bwysig eu bod yn cael eu dilyn
**Meini Prawf Perfformiad 2** **Arferion gwaith diogel** K4        lefel y ddealltwriaeth y mae'n rhaid i weithredwyr ei chael o **wybodaeth** ar gyfer **deddfwriaeth berthnasol, gyfredol a chanllawiau swyddogol** a sut y caiff ei gweithredu K5        y mathau o **ddiffoddwyr tân** a sut a phryd y cânt eu defnyddio K6        sut y dylid ymateb i **argyfyngau** a phwy ddylai ymateb K7        y **gweithdrefnau diogelwch** sefydliadol ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol K8        beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer riportio damweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud yr adroddiad K9        pam, pryd a sut **y dylid defnyddio** **cyfarpar rheoli**iechyd a diogelwch
**Meini Prawf Perfformiad 3** **Dethol adnoddau** K10     y nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r **adnoddau** a sut y dylid cywiro diffygion K11     sut y dylid defnyddio'r **adnoddau** a sut yr adroddir am unrhyw **broblemau** sy'n gysylltiedig â'r **adnoddau** K12     y gweithdrefnau sefydliadol i ddethol **adnoddau**, pam y cawsant eu datblygu a sut y cânt eu defnyddio K13     y **peryglon** sy'n gysylltiedig â'r **adnoddau** a'r **dulliau gweithio** a sut y cânt eu goresgyn
**Meini Prawf Perfformiad 4** **Lleihau'r risg o ddifrod** K14        sut i **ddiogelu gwaith** rhag difrod a phwrpas diogelu K15        pam y dylid **gwaredu gwastraff** yn ddiogel a sut y caiff ei gyflawni
**Meini Prawf Perfformiad 5** **Diwallu manyleb y contract** K16        sut mae **dulliau gweithio**, i ddiwallu'r fanyleb, yn cael eu cyflawni a sut y dylid adrodd am **broblemau** K17        sut mae gwaith **cynnal a chadw** offer a chyfarpar yn cael ei wneud
**Meini Prawf Perfformiad 6** **Amser wedi'i ddyrannu** K18        beth yw'r **rhaglen** i'r gwaith gael ei wneud yn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig a pham y dylid cadw at derfynau amser

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1

1 dehongli lluniadau, manylebau, datganiadau dull, asesiadau risg, amserlenni a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
* *
Meini Prawf Perfformiad 2

2 osgoi risg trwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnydd diogel o offer rheoli iechyd a diogelwch
2.3 defnydd diogel o gyfarpar mynediad
2.4 defnyddio a storio deunyddiau,offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd

*
Meini Prawf Perfformiad 3
*

3 dethol adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a ffitiadau
3.2 offer a chyfarpar 

*
Meini Prawf Perfformiad 4
*

4 diogelu'r gwaith a'r ardal gyfagos rhag difrod
5 lleihau difrod a chynnal lle gweithio glân
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

*
Meini Prawf Perfformiad 5
*

7 arddangos sgiliau gwaith i fesur, gwelyo, tampio, ysgwyd, bytio, bwndelu, clystyru, tynnu, paratoi, clymu, hollti a chordeddu
8 defnyddio a chynnal offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol
9 paratoi deunyddiau to gwellt, hyd at gyfarwyddiadau gweithio penodol, ar gyfer o leiaf dau o'r dilynol
9.1 gwellt yr yd
9.2 corsen ddŵr
9.3 glaswellt hesgen
9.4 grug
9.5 moresg
9.6 maeswellt
9.7 rhedyn
9.8 brwyn
9.9 llin
9.10 tywarchen
9.11 deunyddiau arbenigol amgen
9.12 esyth to, siglwyr a ligwyr

*
Meini Prawf Perfformiad 6
*

10 cwblhau eich gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill ac/neu y cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff

1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau sefydliadol, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol wrth ymwneud â
2.1 thanau, colledion, anafiadau
2.2 argyfyngau'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

*
Diffoddwyr tân
*

3 dŵr, CO2, ewyn, powdr a'u defnyddiau

*
Peryglon
*

4 y rhai hynny a nodir trwy asesiad risg, dull gweithio, gwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

*
Offer rheoli iechyd a diogelwch
*

5 a nodir gan egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol
5.1 mesurau amddiffynnol ar y cyd
5.2 offer diogelu personol (PPE)
5.3 offer diogelu anadlol (RPE)
5.4 gwyntyllu egsôst lleol (LEV)

*
Gwybodaeth
*

6 lluniadau, manylebau, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n rheoli adeiladau ac sy'n gysylltiedig â chadwraeth hanesyddol a pharatoi deunyddiau to gwellt

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr ynghylch damweiniau a pheryglon iechyd posibl wrth weithio yn y gweithle, ar uchder, mewn lleoedd cyfyng, ag offer a chyfarpar, â deunyddiau a sylweddau, â symud/storio deunyddiau a thrwy trin â llaw a chodi mecanyddol

*
Cynnal a Chadw
*

8 gofal gweithredol o offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol 

Dulliau gweithio

9 cymhwyso gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach sy'n ymwneud â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i:
9.1 adnabod deunyddiau to gwellt
9.2 paratoi i'w ddefnyddio, gwellt yr yd (gwellt hir, corsen wenith wedi'i chribo), corsen ddŵr, glaswellt hesgen, grug, moresg, maeswellt, rhedyn, brwyn, llin, tywarchen neu ddeunyddiau arbenigol amgen
9.3 cynhyrchu paratoadau gwellt, clystyrau, bwndeli, cilfachau a wadiau
9.4 gwneud esyth to, siglwyr a ligwyr
9.5 gwneud dolïau neu roliau crib a rhwymau gwellt
9.6 casglu/cynaeafu deunydd to gwellt
9.7 gwaith ar adeiladau o arwyddocâd hanesyddol
9.8 defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
9.9 gweithio ar uchder
9.10 defnyddio cyfarpar mynediad
10 gwaith tîm a chyfathrebu
11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gwneud to gwellt

*
Problemau
*

12 y rhai hynny sy'n deillio o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
12.1 eich awdurdod eich hun i unioni
12.2 gweithdrefnau adrodd sefydliadol

*
Rhaglen
*

13 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
14 gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

*
Diogelu gwaith
*

15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

*
Adnoddau
*

16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar sy'n ymwneud â mathau, maint, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd safonol ac/neu arbenigol:
16.1 gwellt yr yd, corsen ddŵr, glaswellt hesgen, grug, moresg, maeswellt, rhedyn, brwyn, llin, a thywarchen (deunydd addas arall)
16.2 deunyddiau prysgoed (esyth to, siglwyr a ligwyr)
16.3 offer llaw ac/neu offer pŵer cludadwy a chyfarpar

17 dulliau cyfrifo maint, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn i baratoi deunyddiau to gwellt

*
Gweithdrefnau diogelwch
*

18 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Hyd 2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR117

Galwedigaethau Perthnasol

Towyr, Teilswyr Toeau a Gweithwyr Llechi

Cod SOC

5313

Geiriau Allweddol

Töwr toeau gwellt; Gwaith toeau gwellt; Gwellt yr yd, Corsen ddŵr, Glaswellt hesgen, Grug, Moresg, Maeswellt, Rhedyn, Brwyn, Llin; Tywarchen; Esyth to, Siglwyr; Ligwyr