Paratoi strwythurau to ar gyfer to gwellt
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â
- dehongli gwybodaeth
- mabwysiadu arferion gweithio diogel ac iach
- dethol deunyddiau, cydrannau a chyfarpar
- tynnu gwellt cyfan neu rannol o'r strwythurau to presennol
- paratoi, atgyweirio neu ddisodli cydrannau strwythur y to i gynnal deunyddiau gwellt
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a roddir a'r canllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach P3 dethol y nifer a'r ansawdd gofynnol o adnoddau ar gyfer y dulliau gweithio P4 cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal gyfagos P5 cydymffurfio â'r wybodaeth gontract a roddir i gyflawni'r gwaith yn effeithlon yn ôl y fanyleb ofynnol P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd, yn unol â'r rhaglen waith |
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**Meini Prawf Perfformiad 1** **Dehongli gwybodaeth** K1 y gweithdrefnau sefydliadol a ddatblygwyd i adrodd a chywiro gwybodaeth **amhriodol** ac adnoddau **anaddas**, a sut y cânt eu gweithredu K2 y mathau o **wybodaeth**, eu ffynhonnell a sut y cânt eu dehongli K3 y gweithdrefnau sefydliadol i ddatrys **problemau** â'r **wybodaeth** a pham ei fod yn bwysig eu bod yn cael eu dilyn | |||
**Meini Prawf Perfformiad 2** **Arferion gwaith diogel** K4 lefel y ddealltwriaeth y mae'n rhaid i weithredwyr ei chael o **wybodaeth** ar gyfer **deddfwriaeth berthnasol, gyfredol a chanllawiau swyddogol** a sut y caiff ei gweithredu K5 y mathau o **ddiffoddwyr tân** a sut a phryd y cânt eu defnyddio K6 sut y dylid ymateb i **argyfyngau** a phwy ddylai ymateb K7 y **gweithdrefnau diogelwch** sefydliadol ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol K8 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer riportio damweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud yr adroddiad K9 pam, pryd a sut **y dylid defnyddio** **cyfarpar rheoli**iechyd a diogelwch | |||
**Meini Prawf Perfformiad 3**
**Dethol adnoddau**
K10 y nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r **adnoddau** a sut y dylid cywiro diffygion
K11 sut y dylid defnyddio'r **adnoddau** a sut yr adroddir am unrhyw **broblemau** sy'n gysylltiedig â'r **adnoddau**
K12 y gweithdrefnau sefydliadol i ddethol **adnoddau**, pam y cawsant eu datblygu a sut y cânt eu defnyddio
K13 y **peryglon** sy'n gysylltiedig â'r **adnoddau** a'r **dulliau gweithio** a sut y cânt eu goresgyn
|
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli lluniadau, manylebau, datganiadau dull, asesiadau risg, amserlenni a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr
sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
Meini Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg trwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnydd diogel o offer rheoli iechyd a diogelwch
2.3 defnydd diogel o gyfarpar mynediad
2.4 defnyddio a storio deunyddiau,offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd
Meini Prawf Perfformiad 3
3 dethol adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a ffitiadau
3.2 offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 4
4 diogelu'r gwaith a'r ardal gyfagos rhag difrod
5 lleihau difrod a chynnal lle gweithio glân
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Meini Prawf Perfformiad 5
7 arddangos sgiliau gwaith i fesur, amlinellu, tynnu ac atgyweirio
8 defnyddio a chynnal offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol
9 paratoi ar gyfer to gwellt trwy wneud y dilynol hyd at gyfarwyddiadau gweithio penodol
9.1 tynnu'r gwellt presennol (llawn ac/neu rannol)
9.2 atgyfnerthu ac unioni strwythur y to
9.3 glanhau a thrin strwythur y to
Meini Prawf Perfformiad 6
10 cwblhau eich gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig i ddiwallu anghenion galwedigaethau
Gwybodaeth Cwmpas
Gwaredu gwastraff
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau sefydliadol, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
*
Argyfyngau*
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol wrth ymwneud â
2.1 thanau, colledion, anafiadau
2.2 argyfyngau'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
Diffoddwyr Tân
3 dŵr, CO2, ewyn, powdr a'u defnyddiau
*
Peryglon*
4 y rhai hynny a nodir trwy asesiad risg, dull gweithio, gwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Offer rheoli iechyd a diogelwch
5 a nodir gan egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol
5.1 mesurau amddiffynnol ar y cyd
5.2 offer diogelu personol (PPE)
5.3 offer diogelu anadlol (RPE)
5.4 gwyntyllu egsôst lleol (LEV)
*
Gwybodaeth*
6 lluniadau, manylebau, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n rheoli adeiladau ac sy'n gysylltiedig â chadwraeth hanesyddol a pharatoi strwythurau to ar gyfer to gwellt
*
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol*
7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr ynghylch damweiniau a pheryglon iechyd posibl wrth weithio yn y gweithle, ar uchder, mewn lleoedd cyfyng, ag offer a chyfarpar, â deunyddiau a sylweddau, â symud/storio deunyddiau a thrwy trin â llaw
*
Cynnal a Chadw*
8 gofal gweithredol o offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol
*
Dulliau gweithio*
9 cymhwyso gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach sy'n ymwneud â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i:
9.1 tynnu gwellt presennol (llawn neu rannol)
9.2 asesu cyfanrwydd strwythurau to
9.3 nodi meysydd sydd angen paratoi, glanhau, trin, atgyweirio, amnewid ac atgyfnerthu
9.4 achub a storio cydrannau a deunyddiau y gellir eu hailddefnyddio
9.5 amddiffyn deunyddiau amnewid ac sydd wedi'u hachub
9.6 atgyfnerthu ac unioni strwythurau to
9.7 paratoi, trin a gosod sylweddau a thoddiadau glanhau a thrin
9.8 cadarnhau y bydd y strwythur a baratowyd yn cynnal trwch a dyfnder y deunyddiau gwellt arfaethedig i ddarparu'r perfformiad tymor hir gorau posibl
9.9 gwaith ar adeiladau o arwyddocâd hanesyddol
9.10 gweithredu mesurau atal tân
9.11 defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
9.12 gweithio ar uchder
9.13 defnyddio cyfarpar mynediad
10 gwaith tîm a chyfathrebu
11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â pharatoi strwythurau to ar gyfer to gwellt
*
Problemau*
12 y rhai hynny sy'n deillio o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
12.1 eich awdurdod eich hun i unioni
12.2 gweithdrefnau adrodd sefydliadol
*
Rhaglen*
13 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
14 gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
**
Diogelu gwaith**
15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
*
Adnoddau*
16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar sy'n ymwneud â mathau, nifer, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd safonol ac/neu arbenigol:
16.1 pren, gosodiadau
16.2 cyfryngau glanhau a thriniaethau pren
16.3 offer llaw ac/neu offer pŵer cludadwy a chyfarpar
17 dulliau cyfrifo nifer, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn i baratoi strwythurau to ar gyfer to gwellt
*
Gweithdrefnau diogelwch*
18 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr