Gwneud y gorau o gynnydd contractau a rheoli costau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gwneud y gorau o gynnydd contractau a rheoli costau contractau drwy ddatblygu systemau i fonitro a chofnodi cynnydd a chostau er mwyn nodi, cytuno a gweithredu camau cywiro yn unol â ofynion
sefydliadol cyfredol sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol rheoli gweithrediadau contractio adeiladwaith, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Sicrhau’r cynnydd gorau posibl i gontractau
P1 nodi a chytuno ar systemau i fonitro a chofnodi cynnydd contractau
P2 adolygu a gwneud y defnydd gorau o adnoddau
P3 nodi ac ymchwilio i unrhyw wyro oddi wrth gynnydd y contract
P4 hysbysu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau am ganlyniadau’r ymchwiliad a chynnig camau cywiro posibl
P5 rhoi camau cywiro y cytunwyd arnynt ar waith
P6 nodi gwelliannau pellach o’r adborth a gafwyd a’u hargymell i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau
*
*
Rheoli costau contractau
P7 nodi a chytuno ar systemau cofnodi a rheoli costau sy’n gallu rhoi rhybudd cynnar am broblemau posibl
P8 dadansoddi data a gasglwyd am ddefnyddio adnoddau a’r costau, gan ei gyflwyno mewn fformat a fydd yn helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau
P9 nodi amrywiadau a thueddiadau o ran defnyddio adnoddau a data costau
P10 ymchwilio i amrywiadau a thueddiadau o ran defnyddio adnoddau a data costau
P11 nodi a chytuno ar gamau cywiro gyda’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau a’u rhoi ar waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Optimeiddio cynnydd contractau
Meini Prawf Perfformiad 1
**
K1 sut a pham mae angen nodi a chytuno ar systemau i fonitro a chofnodi cynnydd contractau
**
Meini Prawf Perfformiad 2**
K2 sut a pham mae angen adolygu ac optimeiddio'r defnydd a wneir o adnoddau
*
*
Meini Prawf Perfformiad 3
K3 sut i nodi unrhyw wyro oddi wrth gynnydd y contract
K4 sut a pham mae angen ymchwilio i unrhyw wyro oddi wrth gynnydd y contract
*
*
Meini Prawf Perfformiad 4
K5 sut a pham mae angen rhoi gwybod i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau am ganlyniadau'r ymchwiliad
K6 sut i nodi camau cywiro perthnasol
**
Meini Prawf Perfformiad 5**
K7 sut a pham mae angen rhoi camau cywiro y cytunwyd arnynt ar waith
*
*
Meini Prawf Perfformiad 6
K8 sut a pham mae angen nodi gwelliannau pellach o'r adborth a gafwyd
K9 sut a pham mae angen argymell gwelliannau a nodwyd i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau
Rheoli costau contractau
Meini Prawf Perfformiad 7
K10 sut a pham mae angen nodi a chytuno ar systemau cofnodi a rheoli costau sy'n gallu rhoi rhybudd cynnar am broblemau posibl
K11 sut gellir defnyddio systemau cofnodi a rheoli costau i roi rhybudd cynnar am broblemau posibl
**
Meini Prawf Perfformiad 8
K12 sut a pham mae angen dadansoddi data a gasglwyd am ddefnyddio adnoddau a'r costau, gan ei gyflwyno mewn fformat a fydd yn helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
*
*
Meini Prawf Perfformiad 9
K13 sut a pham mae angen nodi amrywiadau a thueddiadau o ran defnyddio adnoddau a data costau
**
Meini Prawf Perfformiad 10**
K14 sut a pham mae angen ymchwilio i amrywiadau a thueddiadau o ran defnyddio adnoddau a data costau
**
Meini Prawf Perfformiad 11**
K15 sut i nodi camau cywiro perthnasol
K16 sut a pham mae angen cytuno ar gamau cywiro a’u rhoi ar waith gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau