Rheoli gwaith contract
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sicrhau bod gwaith yn cydymffurfio â gofynion ansawdd a chytundebol a bod rhanddeiliaid yn cydymffurfio â’u rhwymedigaethau yn unol â gofynion sefydliadol cyfredol sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol rheoli gweithrediadau contractio adeiladwaith, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Rheoli gwaith contract mewn perthynas â chanllawiau a safonau ansawdd
**
P1 nodi unrhyw fanylebau sy’n gwrthdaro â gofynion statudol a chytundebol a’u cyfeirio at y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i’w haddasu
P2 cytuno ar ddiwygiadau i ofynion ansawdd y contract a’u cofnodi’n gywir
P3 cadarnhau’r safonau ansawdd penodedig a’r canllawiau ar gyfer y gwaith contract
P4 dyrannu cyfrifoldebau ar gyfer sicrhau bod ansawdd y gwaith yn bodloni gofynion y contract
P5 sicrhau bod gofynion ansawdd yn cael eu cyfleu i’r rheini sy’n gwneud y gwaith cyn dechrau
P6 sefydlu system rheoli ansawdd ar gyfer y gwaith
P7 gweithredu’r system rheoli ansawdd a chynnal cofnodion
P8 nodi gwaith nad yw’n cydymffurfio â gofynion ansawdd a’i gofnodi
P9 ymchwilio i achosion o ddiffyg cydymffurfio er mwyn canfod y rhesymau sylfaenol a nodi camau gweithredu i atal hyn rhag digwydd eto
P10 datrys achosion o ddiffyg cydymffurfio â’r rheini sy’n gyfrifol am safonau ansawdd mewn ffordd sy’n hyrwyddo ewyllys da ac ymddiriedaeth
*Cynnal cydymffurfiaeth statudol a chontract *
P11 nodi gofynion statudol a chytundebol o’r wybodaeth sydd ar gael ac egluro unrhyw amwysedd
P12 sicrhau bod rhanddeiliaid perthnasol yn ymwybodol o’u rhwymedigaethau statudol a chytundebol
P13 gweithredu a chynnal systemau monitro a chofnodi contractau
P14 nodi unrhyw ddiffyg cydymffurfio â gofynion statudol, sefydliadol neu gytundebol
P15 ymchwilio a datrys unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio mewn ffordd sy’n hyrwyddo ewyllys da ac ymddiriedaeth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwaith rheoli mewn perthynas â chanllawiau a safonau ansawdd
Meini Prawf Perfformiad 1
**
K1 sut a pham mae angen nodi unrhyw fanylebau sy’n gwrthdaro â gofynion statudol a chytundebol a’u cyfeirio at y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i’w haddasu
**
Meini Prawf Perfformiad 2**
K2 sut a pham mae angen cytuno ar ddiwygiadau i ofynion ansawdd y contract a'u cofnodi'n gywir
**
Meini Prawf Perfformiad 3**
K3 sut a pham mae angen cadarnhau'r safonau ansawdd penodedig a'r canllawiau ar gyfer y gwaith contract
Meini Prawf Perfformiad 4
K4 sut a pham mae angen dyrannu cyfrifoldebau ar gyfer sicrhau bod ansawdd y gwaith yn bodloni gofynion y contract
*
*
Meini Prawf Perfformiad 5
K5 sut a pham mae angen sicrhau bod gofynion ansawdd yn cael eu cyfleu i'r rheini sy'n gwneud y gwaith cyn dechrau
**
Meini Prawf Perfformiad 6**
K6 sut a pham mae angen sefydlu system rheoli ansawdd ar gyfer y gwaith
**
Meini Prawf Perfformiad 7**
K7 sut a pham mae angen gweithredu'r system rheoli ansawdd a chynnal cofnodion
*
*
Meini Prawf Perfformiad 8
K8 sut a pham mae angen nodi gwaith nad yw'n cydymffurfio â gofynion ansawdd
K9 sut, pam a phryd mae angen cofnodi achosion o ddiffyg cydymffurfio
**
Meini Prawf Perfformiad 9**
K10 sut a pham mae angen ymchwilio i achosion o ddiffyg cydymffurfio er mwyn canfod y rhesymau sylfaenol a nodi camau gweithredu i atal hyn rhag digwydd eto
*
*
Meini Prawf Perfformiad 10
K11 sut a pham mae angen datrys achosion o ddiffyg cydymffurfio gyda'r rheini sy'n gyfrifol am safonau ansawdd mewn ffordd sy'n hyrwyddo ewyllys da ac ymddiriedaeth
Cynnal cydymffurfiaeth statudol a chontract
Meini Prawf Perfformiad 11**
K12 sut a pham mae angen nodi gofynion statudol a chytundebol o'r wybodaeth sydd ar gael ac egluro unrhyw amwysedd
**
Meini Prawf Perfformiad 12**
K13 sut a pham mae angen sicrhau bod rhanddeiliaid perthnasol yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau statudol a chytundebol
*
*
Meini Prawf Perfformiad 13
K14 sut a pham mae angen gweithredu a chynnal systemau monitro a chofnodi contractau
*
*
Meini Prawf Perfformiad 14
K15 sut a pham mae angen nodi unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio â gofynion statudol, y sefydliad neu'r contract
*
*
Meini Prawf Perfformiad 15
K16 sut a pham mae angen ymchwilio a datrys unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio mewn ffordd sy'n hyrwyddo ewyllys da ac ymddiriedaeth
K17 sut a pham mae angen nodi unrhyw ofynion statudol neu gontractiol newydd a allai effeithio ar y prosiect
K18 sut a pham mae angen cynnal asesiad effaith o unrhyw ofynion statudol a chytundebol newydd
K19 pa gamau i'w cymryd yn dilyn yr asesiad effaith