Datblygu cynllun caffael a sicrhau’r perfformiad gorau posibl gan gyflenwyr a darparwyr gwasanaethau

URN: COSCCOMO15
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gweithrediadau Contractio Adeiladwaith
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â dadansoddi gwybodaeth am y prosiect er mwyn datblygu cynllun caffael sy’n bodloni ofynion y prosiect. Mae’n ymwneud â monitro a sicrhau’r perfformiad gorau posibl gan gyflenwyr a darparwyr gwasanaethau, yn unol â gofynion sefydliadol cyfredol sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt


Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol rheoli gweithrediadau contractio adeiladwaith, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Dadansoddi gofynion cyflenwi, datblygu a monitro cynllun caffael

P1  dadansoddi’r wybodaeth sydd ar gael am y prosiect, adborth gan ddefnyddwyr a gallu cyflenwyr, a chrynhoi er mwyn gallu gwneud penderfyniadau ynghylch caffael

P2  cadarnhau pa ddeunyddiau, peiriannau, cyfarpar a gwasanaethau fydd eu hangen i fodloni gofynion y prosiect

P3  ymchwilio i amseroedd ac amserlenni ar gyfer darparu deunyddiau, peiriannau, cyfarpar a gwasanaethau 

P4  nodi cyfleoedd i resymoli a safoni’r broses o gaffael deunyddiau, peiriannau, cyfarpar a gwasanaethau 

P5  datblygu cynllun caffael 

P6  datblygu a gweithredu systemau ar gyfer monitro’r cynllun caffael i sicrhau ei fod yn bodloni gofynion y prosiect 

P7  addasu’r cynllun caffael i gynnwys amgylchiadau sy’n newid er mwyn bodloni gofynion y prosiect a rhoi gwybod i randdeiliaid perthnasol


Sicrhau'r perfformiad gorau posibl gan gyflenwyr a darparwyr gwasanaethau

P8  gwerthuso perfformiad cyflenwyr a darparwyr gwasanaeth mewn perthynas â chytundebau

P9  nodi problemau gyda pherfformiad cyflenwyr a darparwyr gwasanaeth, eu cofnodi, codi’r materion, a chytuno ar gamau cywiro gyda nhw

P10  cydweithio â chyflenwyr a darparwyr gwasanaethau i wella perfformiad cyfunol, cytuno ar newidiadau ac ymgorffori camau gweithredu y cytunwyd arnynt mewn rhaglenni datblygu cyflenwyr parhaus

P11 cynnal trafodaethau a chyfarfodydd gyda chyflenwyr a darparwyr gwasanaeth mewn ffordd sy’n cynnal ewyllys da ac ymddiriedaeth



Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

*Dadansoddi gofynion cyflenwi prosiectau er mwyn datblygu cynllun caffael *

Meini Prawf Perfformiad 1
**

K1  sut a pham mae angen dadansoddi’r wybodaeth sydd ar gael am y prosiect, adborth gan ddefnyddwyr a gallu cyflenwyr, a chrynhoi er mwyn gallu gwneud penderfyniadau ynghylch caffael 


**

Meini Prawf Perfformiad 2**

K2  sut a pham mae angen cadarnhau pa ddeunyddiau, peiriannau, cyfarpar a gwasanaethau fydd eu hangen i fodloni gofynion y prosiect 

*
*

Meini Prawf Perfformiad 3

K3  sut a pham mae angen ymchwilio i amseroedd ac amserlenni ar gyfer darparu deunyddiau, peiriannau, cyfarpar a gwasanaethau


**

Meini Prawf Perfformiad 4**

K4  sut a pham mae angen nodi cyfleoedd i resymoli a safoni'r broses o gaffael deunyddiau, peiriannau, cyfarpar a gwasanaethau 

*
*

Meini Prawf Perfformiad 5

K5  sut a pham mae angen datblygu cynllun caffael


**

Meini Prawf Perfformiad 6**

K6  sut a pham mae angen datblygu a gweithredu systemau ar gyfer monitro'r cynllun caffael i sicrhau ei fod yn bodloni gofynion y prosiect 


**

Meini Prawf Perfformiad 7**

K7  sut a pham mae angen addasu'r cynllun caffael i gyd-fynd ag amgylchiadau sy'n newid er mwyn bodloni gofynion y prosiect

K8  sut, pam a pha randdeiliaid i roi gwybod iddynt am addasiadau i’r cynllun caffael


Sicrhau'r perfformiad gorau posibl gan gyflenwyr a darparwyr gwasanaethau

Meini Prawf Perfformiad 8**

K9  sut a pham mae angen gwerthuso perfformiad cyflenwyr a darparwyr gwasanaeth mewn perthynas â chytundebau 

*
*

Meini Prawf Perfformiad 9

K10  sut a pham mae angen nodi problemau gyda pherfformiad cyflenwyr a darparwyr gwasanaethau

K11  sut a pham mae angen cofnodi unrhyw broblemau gyda pherfformiad cyflenwyr a darparwyr gwasanaethau a chodi’r materion gyda nhw

K12  sut a pham mae angen negodi a chytuno ar gamau adfer mewn ffordd sy’n cynnal eu hewyllys da a’u hymddiriedaeth


**

Meini Prawf Perfformiad 10**

K13  sut a pham mae angen cydweithio â chyflenwyr a darparwyr gwasanaethau i wella perfformiad cyfunol, cytuno ar newidiadau ac ymgorffori camau gweithredu y cytunwyd arnynt mewn rhaglenni datblygu cyflenwyr sy'n mynd ymlaen


**

Meini Prawf Perfformiad 11**

K14  sut a pham mae angen cynnal trafodaethau a chyfarfodydd â chyflenwyr mewn ffordd sy'n cynnal eu hewyllys da a'u hymddiriedaeth



Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSCCOMO15

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr, Technegwyr adeiladu a pheirianneg sifil, Rheolwyr ym maes adeiladwaith, Amcangyfrifwyr, Priswyr ac aseswyr, Syrfewyr meintiau

Cod SOC

1234

Geiriau Allweddol

Prosiect; dylunio; gofynion cyflenwi