Gwerthuso ymholiadau a chyflwyno tendrau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gwerthuso ymholiadau am dendrau a chyflwyno tendrau yn unol â ofynion sefydliadol cyfredol sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt  
  
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol
rheoli gweithrediadau contractio adeiladwaith a gall gweithwyr, goruchwylwyr a
rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gwerthuso dogfennau ymholi am dendrau  
P1  cynnal adolygiad cychwynnol i ganfod unrhyw bwyntiau sy’n gwrthdaro â gofynion y sefydliad mewn dogfennau ymholiadau tendro  
P2  nodi’r meini prawf ar gyfer gwerthuso ymholiadau am dendrau  
P3  gwerthuso dogfennau ymholi am dendrau mewn perthynas â’r meini prawf y cytunwyd arnynt  
P4  gofyn am eglurhad ynghylch unrhyw ymholiadau, amwysedd, gwallau neu hepgoriadau a ganfuwyd  
P5  nodi ac asesu unrhyw wrthdaro cytundebol neu gyfreithiol â gofynion sefydliadol a allai effeithio ar y penderfyniad i dendro  
P6  penderfynu neu argymell i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a ddylid cyflwyno tendr  
  
Cwblhau a chyflwyno tendr  
P7  nodi a gwerthuso’r risgiau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r tendr  
P8  nodi ac adolygu cyfleoedd ar gyfer dewisiadau neu gymwysterau eraill er mwyn optimeiddio’r tendr  
P9  adolygu ffactorau a allai effeithio ar yr amcanestyniadau costau, ac ymgorffori unrhyw lwfansau priodol  
P10  argymell elw i’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau  
P11  cynnal adolygiad llawn o’r tendr yn unol â gofynion y sefydliad  
P12  gwirio bod y tendr wedi’i gwblhau a’i fod yn cydymffurfio â gofynion y sefydliad  
P13  cyflwyno’r tendr a gwybodaeth gysylltiedig yn unol â gofynion caffael  
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwerthuso dogfennau ymholi am dendrau  
Meini Prawf Perfformiad 1  
**
K1  sut a pham mae angen cynnal adolygiad cychwynnol i ganfod unrhyw bwyntiau sy’n gwrthdaro â gofynion y sefydliad mewn dogfennau ymholiadau am dendrau  
*  
*
Meini Prawf Perfformiad 2  
K2  sut a pham mae angen nodi’r meini prawf ar gyfer gwerthuso ymholiadau tendro yn eu herbyn  
*  
*
Meini Prawf Perfformiad 3  
K3  sut a pham mae angen gwerthuso dogfennau ymholiadau tendr mewn perthynas â meini prawf y cytunwyd arnynt  
*  
*
Meini Prawf Perfformiad 4  
K4  sut, pam a phryd mae angen gofyn am eglurhad ynghylch unrhyw ymholiadau, amwysedd, gwallau neu hepgoriadau a ganfuwyd  
*  
*
Meini Prawf Perfformiad 5  
K5  sut a pham mae angen nodi ac asesu unrhyw wrthdaro cytundebol, neu gyfreithiol, â gofynion sefydliadol a allai effeithio ar y penderfyniad i dendro  
K6  sut a pham mae angen diogelu gwybodaeth ynghylch ymholiadau am dendrau a dim ond eu rhannu â’r rheini ag awdurdod i’w derbyn  
*  
*
Meini Prawf Perfformiad 6  
K7  sut a pham mae angen penderfynu neu argymell i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a ddylid cyflwyno tendr  
K8  y sail resymegol dros y penderfyniad neu’r argymhelliad i gyflwyno tendr  
  
Cwblhau a chyflwyno tendr**
Meini Prawf Perfformiad 7**
**K9 sut a pham mae angen nodi a gwerthuso'r risgiau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r tendr, gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i'r rhain:
- amgylcheddol
- amrywiadau yn y farchnad
- cymdeithasol a gwleidyddol
- technegol
- iechyd a diogelwch
- enw da
- cymhwysedd pobl
- amser ac adnoddau
- statws ariannol