Cael tendrau a phenodi contractwyr
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â rhoi tendrwyr ar restr fer, dewis dogfennau, cael a gwerthuso tendrwyr a phenodi contractau yn unol â ofynion sefydliadol cyfredol sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol rheoli gweithrediadau contractio adeiladwaith a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Tendrwyr ar y rhestr fer
P1 dewis proses dendro i gaffael cyflenwadau a gwasanaethau ar gyfer y prosiect sy’n bodloni amodau’r contract
P2 penderfynu faint o dendrwyr i’w gwahodd
P3 nodi a dethol meini prawf i sicrhau proses cyn-gymhwyso a thendro deg a chyson
P4 anfon ymholiadau cyn-cymhwyso at ddarpar dendrwyr
P5 gwerthuso cyflwyniadau a dderbyniwyd mewn perthynas â’r meini prawf dethol
P6 paratoi rhestr o dendrwyr posibl ar sail y meini prawf dethol, cyflwyno’r rhestr dendro i’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau a’i haddasu i adlewyrchu unrhyw newidiadau y cytunwyd arnynt
Dewis dogfennau
P7 nodi dogfennau sy’n addas ar gyfer y math o gaffael
P8 gwerthuso a dewis opsiynau dilys ar gyfer dogfennau, eu trafod a chytuno arnynt gyda rhanddeiliaid perthnasol
P9 paratoi dogfennau a disgrifiadau, gan gynnwys unrhyw newidiadau, esboniadau neu gywiriadau a nodwyd
P10 sicrhau bod unrhyw brif gostau, symiau dros dro a chynlluniau wrth gefn yn cael eu cynnwys yn y dogfennau
P11 cael y gwiriadau a'r gymeradwyaeth angenrheidiol i gadarnhau bod y dogfennau'n cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad
P12 llunio’r gwahoddiad i dendro
Cael tendrau
P13 rhoi’r gwahoddiad i dendro i dendrwyr dethol
P14 cofnodi ac ymchwilio i unrhyw ymholiadau, amwysedd, gwallau neu hepgoriadau sy’n cael eu hadrodd gan dendrwyr
P15 sicrhau bod unrhyw ymholiadau, amwysedd, camgymeriadau neu hepgoriadau ac ymatebion yn cael eu rhannu â phob tendrwr
P16 diwygio dogfennau’r tendr i gynnwys unrhyw newidiadau a sicrhau bod atodiadau’r contract yn cael eu diweddaru
P17 sicrhau bod cofnodion cywir yn cael eu cadw o’r dogfennau a gyflwynwyd a’r ymatebion a dderbyniwyd
P18 cydnabod derbyn, a gwirio bod y tendrau a dderbyniwyd yn cydymffurfio
Gwerthuso tendrau a phenodi contractwyr
P19 gwerthuso cyflwyniadau a dderbyniwyd mewn perthynas â’r meini prawf y cytunwyd arnynt
P20 holi’r tendrwyr ynghylch unrhyw anghysonderau, hepgoriadau neu wallau a geir yn y tendrau, a gwneud unrhyw newidiadau y mae’r tendrwyr yn eu hawdurdodi
P21 dewis y tendr a ffefrir sy’n bodloni’r meini prawf ac yn cyflwyno’r gwerth gorau
P22 negodi a chytuno ar unrhyw amrywiadau, addasiadau a chywiriadau gyda’r tendrwr a ffefrir, a’u cadarnhau’n ysgrifenedig, yn amodol ar gontract
P23 penodi’r tendrwr llwyddiannus yn ffurfiol yn unol â gofynion y sefydliad
P24 rhoi gwybod i dendrwyr sydd wedi bod yn aflwyddiannus, a rhoi adborth priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Tendrwyr ar y rhestr fer**
Meini Prawf Perfformiad 1**
K1 sut a pham mae angen dewis proses dendro i gaffael cyflenwadau a gwasanaethau ar gyfer y prosiect sy’n bodloni amodau’r contract
*
*
Meini Prawf Perfformiad 2
K2 sut a pham mae angen penderfynu faint o dendrwyr i’w gwahodd
K3 pa ffactorau i’w hystyried wrth benderfynu faint o dendrwyr i’w gwahodd
*
*
Meini Prawf Perfformiad 3
K4 sut a pham mae angen nodi a dethol meini prawf i sicrhau proses cyn-gymhwyso a thendro deg a chyson yn unol â gofynion y sefydliad
*
*
Meini Prawf Perfformiad 4
K5 sut a pham mae angen anfon ymholiadau cyn-cymhwyso at ddarpar dendrwyr
K6 pa gamau i'w cymryd os na cheir digon o ymateb yn unol â gofynion y sefydliad
*
*
Meini Prawf Perfformiad 5
K7 sut a pham mae angen gwerthuso cyflwyniadau a dderbyniwyd mewn perthynas â’r meini prawf dethol
*
*
Meini Prawf Perfformiad 6
K8 sut a pham mae angen paratoi rhestr o dendrwyr posibl ar sail y meini prawf dethol, cyflwyno’r rhestr dendro i’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau a’i haddasu i adlewyrchu unrhyw newidiadau y cytunwyd arnynt
Dewis dogfennau
*Meini Prawf Perfformiad 7
*
K9 sut a pham mae angen nodi dogfennau sy’n addas ar gyfer y math o gaffael
*
*
Meini Prawf Perfformiad 8
K10 sut a pham mae angen gwerthuso a dewis opsiynau dilys ar gyfer dogfennau
K11 sut a pham mae angen trafod a chytuno ar opsiynau dilys gyda rhanddeiliaid perthnasol mewn ffordd sy'n hyrwyddo ewyllys da ac ymddiriedaeth
*
*
Meini Prawf Perfformiad 9
K12 sut a pham mae angen paratoi dogfennau a disgrifiadau, gan gynnwys unrhyw newidiadau, esboniadau neu gywiriadau a nodwyd
*
*
Meini Prawf Perfformiad 10
K13 sut mae cael rhagolwg o’r prif gostau, symiau dros dro a chostau annisgwyl
K14 pam mae angen sicrhau bod unrhyw brif gostau, symiau dros dro a chostau annisgwyl yn cael eu cynnwys yn y dogfennau
*
*
Meini Prawf Perfformiad 11
K15 sut a pham mae cael y gwiriadau a'r gymeradwyaeth angenrheidiol i gadarnhau bod y dogfennau'n cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad
*
*
Meini Prawf Perfformiad 12
K16 sut a pham mae angen llunio’r Gwahoddiad i Dendro
Cael tendrau
*Meini Prawf Perfformiad 13
*
K17 sut a pham mae angen rhoi’r gwahoddiad i dendro i dendrwyr dethol
*
*
Meini Prawf Perfformiad 14
K18 sut a pham mae angen cofnodi ac ymchwilio i unrhyw ymholiadau, amwysedd, gwallau neu hepgoriadau sy’n cael eu hadrodd gan dendrwyr
*
*
Meini Prawf Perfformiad 15
K19 sut a pham mae angen sicrhau bod unrhyw ymholiadau, amwysedd, camgymeriadau neu hepgoriadau ac ymatebion yn cael eu rhannu â phob tendrwr
*
*
Meini Prawf Perfformiad 16
K20 sut a pham mae angen diwygio dogfennau’r tendr i gynnwys unrhyw newidiadau a sicrhau bod atodiadau’r contract yn cael eu diweddaru
*
*
Meini Prawf Perfformiad 17
K21 sut a pham mae angen sicrhau bod cofnodion cywir yn cael eu cadw o’r dogfennau a gyflwynwyd a’r ymatebion a dderbyniwyd
K22 sut a pham mae angen cytuno ar unrhyw gamau gweithredu angenrheidiol a’u rhoi ar waith os bydd tendrwyr yn tynnu’n ôl o’r broses
Meini Prawf Perfformiad 18
K23 sut a pham mae angen cydnabod derbyn, a gwirio bod y tendrau a dderbyniwyd yn cydymffurfio
Gwerthuso tendrau a phenodi contractwyr**
Meini Prawf Perfformiad 19**
K24 sut a pham mae angen gwerthuso’r tendrau mewn perthynas â meini prawf y cytunwyd arnynt
*
*
Meini Prawf Perfformiad 20
K25 sut a pham mae angen holi’r tendrwyr ynghylch unrhyw anghysonderau, hepgoriadau neu wallau a geir yn y tendrau, a gwneud unrhyw newidiadau y mae’r tendrwyr yn eu hawdurdodi
*
*
Meini Prawf Perfformiad 21
K26 sut a pham mae angen dewis y tendr a ffefrir sy’n bodloni’r meini prawf ac yn cyflwyno’r gwerth gorau
*
*
Meini Prawf Perfformiad 22
K27 sut a pham mae angen negodi a chytuno ar unrhyw amrywiadau, addasiadau a chywiriadau gyda’r tendrwr a ffefrir, a’u cadarnhau’n ysgrifenedig, yn amodol ar gontract
*
*
Meini Prawf Perfformiad 23
K28 sut a pham mae angen penodi’r tendrwr llwyddiannus yn ffurfiol yn unol â gofynion y sefydliad
*
*
Meini Prawf Perfformiad 24
K29 sut a pham mae angen rhoi gwybod i dendrwyr sydd wedi bod yn aflwyddiannus, a rhoi adborth priodol