Gweithredu partneriaethau strategol ac integredig ar gyfer rheoli a chyrchu’r gadwyni gyflenwi
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithredu partneriaethau strategol ac integredig ar gyfer rheoli a chyrchu’r gadwyn gyflenwi. Mae’n ymwneud â dewis meini prawf i werthuso manteision ffynonellau strategol, pennu a chytuno ar sut bydd y gadwyn gyflenwi a’r systemau’n cael eu rheoli a’u halinio, a monitro perfformiad y gadwyn gyflenwi yn unol â ofynion sefydliadol cyfredol sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol rheoli gweithrediadau contractio adeiladwaith a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gwerthuso a chytuno ar fanteision a risgiau cyrchu strategol
P1 dewis meini prawf perthnasol i’w defnyddio wrth wneud gwerthusiadau a phenderfyniadau
P2 gwerthuso effaith cyrchu strategol, cymharu’r gwerthusiad â’r trefniadau presennol ac asesu’r manteision a’r anfanteision
P3 gwerthuso effaith newid i gyflenwyr newydd
P4 argymell newidiadau gan ddefnyddio tystiolaeth o werthuso a’r goblygiadau strategol ar gyflenwi adnoddau
P5 negodi a chytuno ar argymhellion gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a rhanddeiliaid perthnasol
Cytuno ar systemau a'u rhoi ar waith
P6 pennu a chytuno gyda’r gadwyn gyflenwi ar y ffyrdd y bydd systemau’n cael eu sefydlu a’u halinio
P7 nodi a chytuno gyda rhanddeiliaid perthnasol ar y newidiadau sy’n ofynnol i systemau cyfredol er mwyn bodloni gofynion technegol ac ansawdd
P8 dyfeisio a chynnal treialon priodol, adolygu’r canlyniadau a gwneud addasiadau priodol cyn eu rhoi ar waith yn llawn
P9 gwirio bod y modd y mae systemau wedi’u halinio yn cydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth diogelu data gyfredol
P10 negodi a chytuno ar drefniadau cytundebol ffurfiol sy’n nodi’r gofynion ar gyfer gweithredu, a gweithredu partneriaethau cyrchu strategol mewn modd sy’n hyrwyddo ewyllys da ac ymddiriedaeth
Monitro a rheoli trefniadau'r gadwyn gyflenwi
P11 adolygu telerau’r contract o bryd i’w gilydd, ac asesu a oes manteision i’r naill ochr a’r llall o hyd o ran cyflenwi adnoddau
P12 monitro perfformiad y gadwyn gyflenwi mewn perthynas â gofynion y contract, a mesur unrhyw amrywiadau mewn perfformiad
P13 rhoi gwybod i’r gadwyn gyflenwi am amrywiadau mewn perfformiad o delerau contract, negodi a chytuno ar y newidiadau sydd eu hangen a’r amser a ganiateir i wneud y newidiadau hynny
P14 rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid perthnasol am berfformiad trefniadau’r gadwyn gyflenwi
P15 adolygu’r trefniadau cyrchu presennol o bryd i’w gilydd er mwyn sicrhau bod manteision y trefniadau presennol i’r naill ochr a’r llall yn cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwerthuso a chytuno ar fanteision a risgiau cyrchu strategol
Meini Prawf Perfformiad 1
**
K1 sut a pham mae angen dewis meini prawf perthnasol i’w defnyddio wrth wneud gwerthusiadau a phenderfyniadau
*
*
Meini Prawf Perfformiad 2
K2 sut a pham mae angen gwerthuso effaith cyrchu strategol
K3 sut a pham mae angen cymharu’r gwerthusiad â’r trefniadau presennol
K4 sut mae asesu manteision ac anfanteision cyrchu strategol
*
*
Meini Prawf Perfformiad 3
K5 sut a pham mae angen gwerthuso effaith newid i gyflenwyr newydd
*
*
Meini Prawf Perfformiad 4
K6 sut mae nodi'r goblygiadau strategol o ran cyflenwi adnoddau
K7 sut a pham mae angen argymell newidiadau gan ddefnyddio tystiolaeth o werthuso a’r goblygiadau strategol ar gyflenwi adnoddau
*
*
Meini Prawf Perfformiad 5
K8 sut a pham mae angen negodi a chytuno ar argymhellion gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a rhanddeiliaid perthnasol
Cytuno ar systemau a'u rhoi ar waith
*Meini Prawf Perfformiad 6
*
K9 sut a pham mae angen pennu a chytuno gyda’r gadwyn gyflenwi ar y ffyrdd y bydd systemau’n cael eu sefydlu a’u halinio
*
*
Meini Prawf Perfformiad 7
K10 sut a pham mae angen nodi a chytuno gyda rhanddeiliaid perthnasol ar y newidiadau sy’n ofynnol i systemau cyfredol er mwyn bodloni gofynion technegol ac ansawdd
*
*
Meini Prawf Perfformiad 8
K11 sut a pham mae angen dyfeisio a chynnal treialon priodol
K12 sut a pham mae angen adolygu’r canlyniadau a gwneud addasiadau priodol cyn eu rhoi ar waith yn llawn
*
*
Meini Prawf Perfformiad 9
K13 sut a pham mae angen gwirio bod y modd y mae systemau wedi’u halinio yn cydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth diogelu data gyfredol
*
*
Meini Prawf Perfformiad 10
K14 sut a pham mae angen negodi a chytuno ar drefniadau cytundebol ffurfiol sy’n nodi’r gofynion ar gyfer gweithredu, a gweithredu partneriaethau cyrchu strategol mewn modd sy’n hyrwyddo ewyllys da ac ymddiriedaeth
Monitro a rheoli trefniadau'r gadwyn gyflenwi
*Meini Prawf Perfformiad 11
*
K15 sut a pham mae angen adolygu telerau’r contract o bryd i’w gilydd, ac asesu a oes manteision i’r naill ochr a’r llall o hyd o ran cyflenwi adnoddau
*
*
Meini Prawf Perfformiad 12
K16 sut a pham mae angen monitro perfformiad y gadwyn gyflenwi mewn perthynas â gofynion y contract
K17 sut mae meintioli unrhyw amrywiadau mewn perfformiad
*
*
Meini Prawf Perfformiad 13**
K18 sut mae rhoi gwybod i’r gadwyn gyflenwi am amrywiadau mewn perfformiad o delerau contract mewn ffordd sy’n hyrwyddo ewyllys da ac ymddiriedaeth
K19 sut a pham mae angen negodi a chytuno ar y newidiadau sydd eu hangen a’r amser a ganiateir i wneud y newidiadau hynny
K20 sut a pham mae angen ymchwilio i amrywiadau cyson mewn perfformiad a materion arwyddocaol er mwyn canfod achosion tebygol
*
*
Meini Prawf Perfformiad 14
K21 sut a pham mae angen rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid perthnasol am berfformiad trefniadau’r gadwyn gyflenwi
*
*
Meini Prawf Perfformiad 15
K22 sut a pham mae angen adolygu’r trefniadau cyrchu presennol o bryd i’w gilydd er mwyn sicrhau bod manteision y trefniadau presennol i’r ddwy ochr yn cael eu cynnal