Datblygu rhaglen waith a rhaglen gaffael
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag adolygu amserlen waith fanwl sy’n cynnwys anghenion y prosiect ac amrediad y gwasanaethau sydd eu hangen er mwyn datblygu rhaglen waith a rhaglen gaffael ar gyfer y prosiect. Mae’n ymwneud ag amcangyfrif, casglu a choladu data’r arolwg a’i ddadansoddi, ei werthuso a’i gofnodi yn unol â gofynion sefydliadol cyfredol sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt.
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol rheoli gweithrediadau contractio adeiladwaith a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Datblygu rhaglen waith
P1 adolygu’r rhestr waith fanwl sy’n cynnwys datganiad cyflawn o anghenion y prosiect a’r gwasanaethau y bydd eu hangen er mwyn bod yn gyflawn
P2 nodi dyddiadau allweddol a gofynion hanfodol y rhaglen
P3 cytuno ar fformat ar gyfer y rhaglen waith sy’n briodol i ffurf y contract, y math o waith a’i gwmpas
P4 amcangyfrif cynnwys a hyd y gwaith
P5 ymgorffori lwfansau priodol a realistig i gwrdd â’r amgylchiadau a ragwelir
P6 datblygu’r rhaglen waith a chadarnhau ei bod yn bosibl cyflawni anghenion y prosiect
P7 cynnal archwiliadau angenrheidiol a chael cymeradwyaeth ar gyfer cynnwys a chyflwyniad rhaglenni
P8 defnyddio dulliau y cytunwyd arnynt ar gyfer cynhyrchu a chadw cofnodion rhaglenni sy’n gyson â gweithdrefnau sicrhau ansawdd y prosiect
P9 cyflwyno’r rhaglen waith i randdeiliaid, datrys unrhyw wrthdaro a gwneud addasiadau y cytunwyd arnynt
P10 cyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gywir, a dod i gytundeb gan ddefnyddio arddull a dull sy’n cynnal ewyllys da ac ymddiriedaeth
P11 sicrhau bod cofrestrau a chofnodion yn cael eu cadw, sy’n gyflawn, yn gywir, yn gyfredol a bod copïau’n cael eu cadw
Datblygu rhaglen gaffael
P12 cadarnhau’r meysydd gwaith y bydd angen caffael adnoddau ar eu cyfer, a nodi ffynonellau posibl ar gyfer eu cael
P13 nodi amseroedd arweiniol ar gyfer archebu a derbyn adnoddau hanfodol i fodloni’r rhaglen waith
P14 dadansoddi’r llwybr critigol ar gyfer caffael a defnyddio adnoddau, gan adeiladu digon o fflôt i optimeiddio’r rhaglen waith
P15 datblygu rhaglen gaffael fanwl mewn fformat y cytunwyd arno sy’n bodloni gofynion y prosiect
P16 nodi unrhyw wrthdaro yn y rhaglen gaffael, argymell rhesymeg rhaglen arall ymarferol a gwneud addasiadau y cytunwyd arnynt
P17 cadarnhau bod y rhaglen gaffael yn gyson â gofynion rhaglen gyffredinol y prosiect a rhanddeiliaid perthnasol
P18 cyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gywir, a dod i gytundeb gan ddefnyddio arddull a dull sy’n cynnal ewyllys da ac ymddiriedaeth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Datblygu rhaglen waith
Meini Prawf Perfformiad 1
**
K1 sut mae adolygu rhestr waith fanwl sy’n cynnwys datganiad cyflawn o anghenion y prosiect a’r gwasanaethau y bydd eu hangen er mwyn bod yn gyflawn
*
*
Meini Prawf Perfformiad 2
K2 sut a pham mae angen nodi dyddiadau allweddol a gofynion hanfodol y rhaglen
*
*
Meini Prawf Perfformiad 3
K3 sut a pham mae angen cytuno ar fformat ar gyfer y rhaglen waith sy’n briodol i ffurf y contract, y math o waith a’i gwmpas
*
*
Meini Prawf Perfformiad 4
K4 sut a pham mae angen amcangyfrif cynnwys a hyd y gwaith a lle gellir dod o hyd i wybodaeth berthnasol
*
*
Meini Prawf Perfformiad 5
K5 sut mae ymgorffori lwfansau priodol a realistig i gwrdd â’r amgylchiadau a ragwelir
K6 sut a pham mae angen ymgorffori lwfansau priodol a realistig i gwrdd â’r amgylchiadau a ragwelir
*
*
Meini Prawf Perfformiad 6
K7 sut a pham mae angen datblygu’r rhaglen waith a chadarnhau ei bod yn bosibl cyflawni anghenion y prosiect
Meini Prawf Perfformiad 7
K8 sut a pham mae angen cael y gwiriadau a'r gymeradwyaeth angenrheidiol ar gyfer cynnwys a chyflwyniad rhaglenni
*
*
Meini Prawf Perfformiad 8
K9 sut a pham mae angen defnyddio dulliau y cytunwyd arnynt ar gyfer cynhyrchu a chadw cofnodion rhaglenni sy’n gyson â gweithdrefnau sicrhau ansawdd y prosiect
*
*
Meini Prawf Perfformiad 9
K10 sut mae cyflwyno’r rhaglen waith i randdeiliaid, datrys unrhyw wrthdaro a gwneud addasiadau y cytunwyd arnynt
*
*
Meini Prawf Perfformiad 10
K11 sut a pham mae angen cyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gywir, a dod i gytundeb gan ddefnyddio arddull a dull sy’n cynnal ewyllys da ac ymddiriedaeth
*
*
Meini Prawf Perfformiad 11
K12 sut a pham mae angen sicrhau bod cofrestrau a chofnodion yn cael eu cadw, sy’n gyflawn, yn gywir, yn gyfredol a bod copïau’n cael eu cadw
Datblygu rhaglen gaffael
*Meini Prawf Perfformiad 12
*
K13 sut a pham mae angen cadarnhau’r meysydd gwaith y bydd angen caffael adnoddau ar eu cyfer, a nodi ffynonellau posibl ar gyfer eu cael
*
*
Meini Prawf Perfformiad 13
K14 sut a pham mae angen nodi amseroedd arweiniol ar gyfer archebu a derbyn adnoddau hanfodol i fodloni’r rhaglen waith
*
*
Meini Prawf Perfformiad 14
K15 sut a pham mae angen dadansoddi’r llwybr critigol ar gyfer caffael a defnyddio adnoddau, gan gynnwys digon o fflôt i optimeiddio’r rhaglen waith
*
*
Meini Prawf Perfformiad 15
K16 sut a pham mae angen datblygu rhaglen gaffael fanwl mewn fformat y cytunwyd arno sy’n bodloni gofynion y prosiect
*
*
Meini Prawf Perfformiad 16
K17 sut a pham mae angen canfod unrhyw wrthdaro yn y rhaglen gaffael
K18 sut a pham mae angen argymell rhesymeg ar gyfer rhaglen arall ymarferol, a gwneud addasiadau y cytunwyd arnynt
*
*
Meini Prawf Perfformiad 17
K19 sut a pham mae angen cadarnhau bod y rhaglen gaffael yn gyson â gofynion rhaglen gyffredinol y prosiect a rhanddeiliaid perthnasol
*
*
Meini Prawf Perfformiad 18
K20 sut a pham mae angen cyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gywir, a dod i gytundeb gan ddefnyddio arddull a dull sy’n cynnal ewyllys da ac ymddiriedaeth